Jeffrey Bradford

Graddiodd Jeffrey o Aber gyda gradd MSc mewn Astudiaethau Strategol yn 1996 ac erbyn hyn mae’n gweithio fel cyfarwyddwr ymchwil yn Efrog Newydd.

Beth ydych chi’n ei gofio fwyaf am eich amser yn Aber?

Rwy’n cofio bod yna ymdeimlad cryf o gymuned yn Aber, gan ei bod mor bell yn ddaearyddol o’r ‘dinasoedd mawr’; yr awyr iach a’r ymdeimlad o lonyddwch wrth wylio’r machlud. Roedd gan yr Ysgol raglen gymdeithasol gref a ddaeth â siaradwyr diddorol i’r Brifysgol, gan gynnig cyfle i ni ehangu ein gorwelion.

Beth ydych chi’n ei wneud nawr o ran gyrfa, a sut helpodd eich gradd o Aberystwyth?

Roedd fy ngradd o Aberystwyth, y staff dysgu a’m cymheiriaid yn hanfodol yng nghamau nesaf fy ngyrfa academaidd a phroffesiynol. Roedd Aberystwyth yn arloeswr cynnar o ran dysgu sgiliau ymchwil i ddarpar ymgeiswyr PhD, ac rwy’n siŵr bod y rhaglen hon wedi datblygu’n sylweddol ers hynny.

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i fyfyriwr ar eich cwrs chi nawr?

Buaswn yn eu hatgoffa y bydd y deunydd pwnc yn parhau’n fythol berthnasol, ac i wneud y gorau o’r staff a’r adnoddau yn Aber i adeiladu sylfeini’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth o fframweithiau deallusol ar gyfer dadansoddi a fydd o gymorth i chi trwy gydol eich gyrfa