Mathew Duke

Graddiodd Matthew o Aber yn 1987 gyda gradd BSc mewn Daeareg ac mae bellach yn gweithio i gwmni olew Chevron yn Awstralia.

Beth ydych chi’n ei gofio fwyaf am eich amser yn Aber?

Y ffaith bod Aber yn sir sych (h.y. roedd y tafarndai ar gau bob dydd Sul) trwy gydol yr 80au a doedd dim gwasanaeth trên ar ddydd Sul. Golyga hyn bod bobl yn dueddol i aros gyda’i gilydd trwy gydol y tymor ac yn fy marn i roedd hwn yn ein tynnu ynghyd. Roedd bod yn sych ar ddydd Sul yn golygu mai’r Up Top Bop ac Undeb y Myfyrwyr a/neu Pier Party oedd prif ddigwyddiadau’r penwythnos.

Beth ydych chi’n ei wneud nawr o ran gyrfa a sut mae eich gradd Aberystwyth wedi eich helpu?

Rwy’n dal i weithio mewn diwydiant sy’n gysylltiedig â gwyddor daear, mewn archwiliadau a datblygu olew a nwy. Dwi’n credu mai’r pethau allweddol o Aber a wnaeth fy helpu oedd y gwaith tîm yn y  sesiynau maes, disgyblaeth wrth gyflwyno cynyrchiadau gwaith ar gyfer traethawd hir neu adroddiad, ac arbenigedd technegol ddwfn yn y gwyddorau is-arwyneb. Teimlais bod y dosbarthiadau geomorffoleg, ystadegau a cartograffeg a ddilynais ym mlwyddyn 1 a 2 mewn Daearyddiaeth a’r cwrs rhaglennu yng Nghyfrifiadureg yn ystod blwyddyn 1 hefyd yn ddefnyddiol ac yn ategu ei gilydd.

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i fyfyriwr sy’n dilyn eich cwrs nawr?

Gwnewch yn sicr bod eich sgiliau’n addas i’r hyn mae’r diwydiannau gwyddorau daear ei angen trwy astudio eu gwefannau. Rydym yn symud fwyfwy tuag at gyfuno disgyblaethau felly deallwch y disgyblaethau atodol sy’n ymwneud â’ch meysydd arbenigol. Byddwch yn hyblyg yn eich dewis o yrfa a cheisiwch gael profiad o reoli prosiect a gwybodaeth economaidd erbyn i chi adael y Brifysgol.