Rhaglen Wirfoddoli Cyn-fyfyrwyr (RhWC)

Mae Rhaglen Wirfoddoli Cyn-Fyfyrwyr (RhWC) yn caniatáu cyfleoedd cyffrous i’n cyn-fyfyrwyr gwerthfawr ehangu eu perthynas ag Aberystwyth ar ôl graddio.

Gall rhannu eich profiadau unigryw wneud gwahaniaeth cadarnhaol, p’un a ydych yn gallu cynnig cyngor 1-2-1 pwrpasol i’n myfyrwyr presennol, neu rannu eich straeon gyda ni i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o raddedigion. Lluniwch ddyfodol Aberystwyth trwy chwarae rhan bwysig wrth gyfrannu at lwyddiant parhaus y Brifysgol – cymerwch ran a gwnewch gwahaniaeth.

Ceinciau’r RhWC

 

MentoriaidAber  

Gweithio gyda myfyrwyr yn unigol, gan gynnig cyngor ac arweiniad arbenigol iddynt trwy’r cynllun fentora neu drwy cynnig lleoliad gwaith haf i fyfyrwyr. 

CyflwyniadauAber  

Cymryd rhan mewn digwyddiadau ar gyfer myfyrwyr a/neu gyn-fyfyrwyr drwy roi cyflwyniad, gweithdy neu fel aelod o banel. 

HyrwyddwyrAber  

Hyrwyddo’r Brifysgol yn ystod digwyddiadau denu myfyrwyr (yma yn Aber neu’n rhyngwladol) neu drwy broffil ysgrifenedig / ar fideo. 

PartneriaidAber  

Ymgynghorwyr penodedig i'r Brifysgol, sy’n gweithio gyda ni mewn partneriaeth i ddatblygu nodau strategol i adrannau yn ogystal ag i’r Brifysgol gyfan. 

 

Diolch i chi, ein cymuned o gyn-fyfyrwyr byd-eang am eich cefnogaeth barhaol. Sut bynnag y byddwch chi'n dewis rhoi eich amser, rydym yn gobeithio y cewch chi brofiad gwerthfawr yn gwirfoddoli gyda ni.

Nod y RhWC yw:

  • I greu cysylltiadau ystyrlon rhwng ein cyn-fyfyrwyr a'n myfyrwyr
  • I annog myfyrwyr i ddysgu a thyfu gyda'n cymuned o gyn-fyfyrwyr
  • I wella gwaith a phroffil y Brifysgol
  • I weithio mewn partneriaeth â'n cyn-fyfyrwyr

Mae ein Llyfryn RhWC yn cynnig rhagor o wybodaeth ar pob un cainc. 

Cofrestrwch eich diddordeb drwy gwblhau ein Ffurflen Gytundeb Rhaglen Wirfoddoli Cyn-fyfyrwyr (RhWC) a'i yrru i alumni@aber.ac.uk