Datglybu sgiliau bywyd

“Rydym yn ddiolchgar i Gronfa Aber a’r cyn-fyfyrwyr am gefnogi’r prosiect sy’n rhoi cyfle i fyfyrwyr wirfoddoli."

Yn y flwyddyn academaidd ddiwethaf, cefnogodd Cronfa Aber brosiect newydd gan Undeb y Myfyrwyr, sef Mentoriaid Arian (Money Mentors). Mae’r cynllun yn cael ei redeg gan Undeb y Myfyrwyr ar y cyd â Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr, wrth i wirfoddolwyr o blith y myfyrwyr – “Bydis Arian” – gynnig arweiniad i fyfyrwyr eraill sy’n ei chael hi’n anodd i reoli eu harian.

”Mae arian yn sicr yn rhan bwysig o fywyd myfyrwyr” eglura Pippa, Bydi Arian a myfyrwraig BA Hanes. “Nid yw benthyciadau cynhaliaeth yn ymestyn yn ddigon pell, ac mae gwaith rhan-amser ond yn helpu tan i’r oriau a dyddiadau cau’r brifysgol ddechrau rhoi straen arnoch chi."

"Gall Bydis Arian eich helpu gyda hyn. Os gallwn helpu, mi fydd yn un peth yn llai i chi boeni amdano yn ystod eich amser yn y Brifysgol, gan roi mwy o amser ichi ganolbwyntio ar eich astudiaethau.”

Mae’r cynllun Mentoriaid Arian yn rhoi cyfle i fyfyrwyr siarad yn agored â’u cyd-fyfyrwyr, a dangos hefyd fod eraill yn yr un sefyllfa ac nad oes yn rhaid brwydro ar eich pen eich hun.

“Rydym yn ddiolchgar i Gronfa Aber a’r cyn-fyfyrwyr am gefnogi’r prosiect sy’n rhoi cyfle i fyfyrwyr wirfoddoli”, meddai Swyddog Lles Undeb y Myfyrwyr Aber, “mae’r prosiect yn datblygu sgiliau cyflogadwyedd yn ogystal â helpu myfyrwyr eraill i feithrin hyder wrth reoli cyllideb a llythrennedd ariannol. Mae’r dull hwn o gael eich arwain gan gymheiriaid yn cael ei werthfawrogi ac edrychwn ymlaen at ddyfodol y prosiect.”