Cyfleoedd cyflogadwyedd unigryw

"Rwy'n ddiolchgar iawn am y profiad hwn. Rwy'n siŵr y bydd ymhlith profiadau mwyaf cofiadwy fy nghwrs MA.”

Diolch i chi, ac amser ac ymroddiad y cyn-fyfyriwr Tom Jones, ymwelodd pedwar myfyriwr MA â Brwsel, i gysgodi Tom yn y Pwyllgor Economaidd a Chymdeithasol Ewropeaidd, yn ogystal ag arsylwi ar sefydliadau gwleidyddol UE eraill.

Y pedwar myfyriwr lwcus oedd Ane, Sebastian, Silvia a Findlay.  Ar y pryd roeddent yn astudio’r modiwl amserol ac arbennig o berthnasol EU in Crisis fel rhan o’u cwrs MA yn yr adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol. Mi wnaeth eu hymweliad â Brwsel gyfoethogi eu hastudiaethau damcaniaethol yn Aber drwy ddarparu golwg ymarferol ar sut mae'r UE yn gweithio.

"Roedd cysgodi Tom Jones yn y Pwyllgor Economaidd a Chymdeithasol Ewropeaidd yn ysbrydoliaeth ac roedd cyfle i ymweld â llawer o sefydliadau eraill hefyd," meddai Ane. "Roedd hi'n ddiddorol iawn siarad â gwahanol bobl o Gymru sy'n gweithio yn yr UE.

"Roedd y daith yn gyfle gwych i weld y llywodraethau rhanbarthol; mae gan y bobl sy'n gweithio iddynt ddylanwad anferth, gyda gwahanol oblygiadau i'r UE.

"Mae siarad â phobl a dysgu am eu profiadau wedi fy ysbrydoli i chwilio am leoliadau profiad gwaith neu swyddi yn sefydliadau'r UE.

“Cawsom groeso arbennig gan Tom Jones. Llwyddodd i drefnu llawer o gyfarfodydd â gwahanol swyddogion o lywodraeth Cymru, yn ogystal â phobl ifainc er mwyn inni allu rhannu ein profiadau. Ac roedd ganddo yntau ddiddordeb mawr yn ein cefndiroedd ni a'n dyfodol, ac roedd e'n siarad am ei brofiad ef, a oedd yn gwneud i fi deimlo'n gartrefol iawn.

"Rwy'n ddiolchgar iawn am y profiad hwn. Rwy'n siŵr y bydd ymhlith profiadau mwyaf cofiadwy fy nghwrs MA.”