Teithio

Gweler ein hadran Archebion Teithio Busnes isod am ragor o wybodaeth, ynghyd â Chwestiynau Cyffredin Clarity

Am wybodaeth ynghylch teithio ar gyfer y brifysgol, cliciwch ar y dolenni canlynol:

Polisi a Gweithdrefnau

Mae polisi a gweithdrefnau'r Brifysgol i'w gweld drwy'r dolenni isod:

PA Polisi Teithio

Gweithdrefnau Teithio - Dod yn fuan. 

Canllawiau

Mae’r canllawiau isod yn darparu cyngor a chefnogaeth ychwanegol i gydweithwyr wrth ddehongli Polisi Teithio Prifysgol Aberystwyth. Yn anad dim, darperir gwybodaeth bellach ynglŷn â theithio dramor, a’r hyn a ddisgwylir gan bob aelod staff cyn pob taith.

Gellir crynhoi’r broses sylfaenol ar gyfer teithio dramor ar fusnes sy’n gysylltiedig â’r Brifysgol, fel a ganlyn:

  1. Awdurdodi
  2. Clawr Teithio
  3. Asesiad Risg
  4. Hanfodion Iechyd Teithio
  5. Hanfodion Teithio

Ar gyfer teithio o’r fath, rhaid ystyried datganiad sylfaenol pob cam a’i drafod yn unol â lefelau’r risg ymddangosiadol ym mhob achos.

Awdurdodi

Rhaid i’r holl deithiau sy’n ymwneud â’r Brifysgol gael eu cymeradwyo gan yr Athrofa / Adran Gwasanaethau Proffesiynol berthnasol. Gosodir gofynion awdurdodi ychwanegol ar gyfer teithio i wledydd y mae’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad wedi gosod cyfyngiadau ychwanegol ar deithio arnynt. Rhaid adolygu cyngor teithio’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad cyn pob taith (hyd yn oed os bydd cydweithwyr yn ymweld yn rheolaidd ag ardal neu ranbarth penodol), a bydd unrhyw gyngor neu ofynion ychwanegol yn golygu newid i’r broses awdurdodi arferol, a ddylai gael ei drafod yn briodol yn yr asesiad risg dilynol. Dylai Athrofeydd ac Adrannau Gwasanaethau Proffesiynol sicrhau bod eu staff yn ymwybodol o’r prosesau awdurdodi priodol ar gyfer y mathau isod o deithio:

  1. Teithio Gartref (h.y. o fewn i’r Deyrnas Unedig);
  2. Gwledydd neu ranbarthau nad oes cyfyngiadau teithio wedi eu gosod arnynt gan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad;
  3. Gwledydd neu ranbarthau lle bydd y Swyddfa Dramor a Chymanwlad yn cynghori yn erbyn teithio iddynt, ac eithrio ar fusnes hanfodol;
  4. Gwledydd neu ranbarthau lle bydd y Swyddfa Ranbarthau a Chymanwlad yn cynghori yn erbyn teithio iddynt;
  5. Teithio i wledydd neu ranbarthau cartref.

Er bod modd i Gyfarwyddwr yr Athrofa neu Bennaeth yr Adran Gwasanaethau Proffesiynol ddirprwyo awdurdodi mathau penodol o deithio, noder bod yn rhaid i’r broses awdurdodi ddilyn Polisi Teithio’r Brifysgol os bydd y Swyddfa Dramor a Chymanwlad wedi gosod cyfyngiadau penodol ar deithio i wlad neu ranbarth arbennig. Noder y dylid hysbysu’r Adran Deithio a Cherbydau ar unwaith o fwriad i deithio i unrhyw ardal neu ranbarth y mae’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad wedi gosod cyfyngiadau ar deithio iddi/iddo, neu sydd â statws risg uwch.

Os byddwch yn teithio i wlad y dynodwyd iddi statws risg uwch gan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad, cynghorir cydweithwyr i gofrestru â Llysgenhadaeth Prydain neu Swyddfa’r Is-Gennad wrth gyrraedd, ac i gario’r manylion cysylltu perthnasol drwy’r amser (ar gael yma: Sefydliaddau'r Byd).

Clawr Teithio

Ar y cyfle cynharaf posibl, dylai cydweithwyr hysbysu’r Adran Deithio a Cherbydau o’u trefniadau teithio er mwyn sicrhau bod Clawr Teithio priodol yn cael ei ddarparu. Dim ond trwy gyflwyno ffurflen clawr teithio wedi’i chwblhau a’i llofnodi gan y Pennaeth Adran neu reolwr llinell y gellir trefnu Clawr Teithio trwy ddarparwr y Brifysgol.

Dylai cydweithwyr hefyd roi gwybod am unrhyw newidiadau i’r wybodaeth a roddwyd cyn, neu yn ystod, y daith, e.e. ymestyn hyd y daith, ymweld â gwlad ychwanegol ac ati.

Ceir copi cyflawn o Grynodeb o Clawr Teithio’r Brifysgol yma: Travel Cover Summary.

Ar ôl derbyn yr wybodaeth hon, bydd cydweithwyr yn derbyn tystysgrif Clawr Teithio, ac yn derbyn manylion cysylltu perthnasol ar gyfer darparwyr Clawr teithio’r Brifysgol. Dylid mynd â chopi o’r dystysgrif Clawr Teithio a manylion cysylltu ar gyfer darparwr Clawr teithio’r Brifysgol ar bob taith.

Mewn ambell achos, noder y gall fod angen Clawr Teithio Personol ychwanegol, er enghraifft lle bydd unigolyn yn gwneud gweithgareddau risg uchel yn ei amser ei hun, neu yn ystod cyfnod o deithio estynedig, e.e. neidio bynji, sgïo jet ac ati.

Mae hyn yn wir hefyd ar gyfer gwyliau Personol, mae ein Clawr yn caniatáu uchafswm o 7 diwrnod o wyliau ar bob taith fusnes. Bydd angen Clawr teithio personol ar gyfer unrhyw wyliau y tu hwnt i’r cyfanswm hwn. Os yw teithiwr yn dychwelyd adref neu i’w weithle arferol yn ystod y daith fusnes, bydd y terfyn 7 diwrnod yn ailosod.

Asesiad Risg

Mae Asesiadau Risg yn rhan annatod o’r broses deithio, ac yn golygu bod rhaid i gyflogwyr amddiffyn y sawl sy’n teithio ar fusnes rhag niwed, cyhyd ag y bo hynny’n rhesymol ymarferol. O’r herwydd, rhaid i asesiadau risg gael eu cwblhau ar gyfer pob taith sy’n ymwneud â busnes y Brifysgol

Dylai cydweithwyr fod yn ymwybodol o, a chydymffurfio â’r, mesurau rheoli a nodir yn yr asesiad(au) risg perthnasol. Bydd natur yr asesiadau risg yn amrywio, gan ddibynnu ar natur a chyrchfan y daith, a’r gweithgareddau yn ystod y daith. Fel arfer gorau, dylai pob achos o deithio dramor ar waith sy’n gysylltiedig â’r Brifysgol gynnwys un asesiad risg sy’n canolbwyntio ar y dull(iau) teithio, ac ail asesiad risg yn canolbwyntio ar y gweithgaredd(au) yn ystod y daith (e.e. gwaith maes, ymchwil, ac ati).

Mae’r ffurflen gais am Clawr teithio’n cynnwys ffurflen benodol ar gyfer asesu risg ond mae’n bosibl y bydd angen cynnal asesiadau risg ychwanegol yn ôl gofynion yr adran ac mewn perthynas ag agweddau neu weithgareddau penodol ar y daith.

Gall y math o bethau i’w hystyried mewn asesiad risg teithio gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol:

  • Clefydau neu bryder(on) meddygol penodol arall/eraill, megis cyflwr hysbys ar gyfer yr unigolyn/unigolion dan sylw;
  • Ffitrwydd personol i deithio;
  • Gofynion imiwneiddio / brechu;
  • Llety;
  • Codi a Chario;
  • Protocolau Argyfwng Meddygol;
  • Problemau neu bryderon diogelwch penodol ynglŷn â’r lleoliad arfaethedig;
  • Terfysgaeth

I gael rhagor o fanylion am Asesiadau Risg, gweler gwefan yr Adran Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd: Asesiad Risg.

I gael rhagor o fanylion am y cwrs hyfforddi asesu risg, gweler: Hyfforddiant Asesu Risg

Cofiwch…

Gall amgylchiadau gwlad neu ranbarth penodol fod yn eithaf ansicr a newid yn rheolaidd, felly dylai cydweithwyr gyfeirio at y cyngor teithio diweddaraf yn rheolaidd cyn ac yn ystod y daith, a diwygio neu adolygu’r peryglon a’r mesurau rheoli priodol yn ôl yr angen.

Hanfodion Iechyd Teithio

Ystyriaethau Iechyd o Ddydd i Ddydd

Gall y rhain gynnwys, ond heb fod wedi eu cyfyngu i, broblemau megis:

  • Thrombosis Gwythiennau Dwfn (DVT)

    Yn arbennig o berthnasol os ydych yn mynd ar daith hir iawn. Mae modd lliniaru’r risgiau cysylltiedig trwy osgoi gwisgo dillad tynn ar deithiau pellter hir, gwneud ymarferion ymestyn a cherdded o gwmpas yr awyren yn rheolaidd, yfed digon o ddŵr yn ystod y daith, ac osgoi alcohol neu ddiodydd sy’n cynnwys caffein wrth deithio.

  • Ysgytwad Diwylliannol

    Gall rhai teithwyr deimlo’n anesmwyth neu’n ofidus wrth gyrraedd gwledydd neu ddiwylliannau newydd am y tro cyntaf. Cyngor da, yn enwedig os ydych yn anghyfarwydd â gwlad neu ranbarth arbennig, yw paratoi ar gyfer y daith trwy ymgyfarwyddo â gwahaniaethau diwylliannol neu ddeddfwriaethol cyn teithio.

  • Bwyta ac Yfed

    Gall safon dŵr yfed a safonau cyffredinol bwyd a hylendid amrywio’n sylweddol o wlad i wlad, ond gall nifer o ragofalon cyffredin leihau’r peryglon. Ymhlith y rhain y mae golchi dwylo yn rheolaidd (yn enwedig cyn bwyta neu yfed), defnyddio gel gwrthfacteria ar gyfer dwylo yn gyson, osgoi bwyd sydd heb ei orchuddio mewn siopau, a defnyddio dŵr potel (gan sicrhau bod y sêl heb ei thorri).

  • Dolur Rhydd Teithwyr

    Gall newid yn y deiet neu’r hinsawdd achosi hyn.

  • Yr Haul a Thymheredd Uchel

    mewn gwledydd cynhesach, dylid ystyried nifer o ragofalon i leihau dinoethi eich croen i belydrau niweidiol yr haul. Mae’r rhain yn cynnwys defnyddio eli haul gyda ffactor amddiffyn uchel, aros yn y cysgod yn ystod oriau cynhesaf y dydd, osgoi gweithgareddau egnïol yn ystod cyfnod poethaf y dydd, ac yfed digon o hylifau i sicrhau bod digon o ddŵr yn eich corff.

  • Eira, Rhew a Thymheredd Oer

    Mewn tymheredd oer eithafol, mae’r perygl o anhwylderau megis hypothermia ac ewinrew yn sylweddol. Gallwch gymryd camau i leihau’r peryglon trwy wisgo dillad (yn cynnwys menig a hetiau) wedi’u hinsiwleiddio’n briodol, haenau digonol o ddillad all wrthsefyll glaw a gwynt, ac esgidiau cynnes all wrthsefyll glaw a gafael cryf arnynt i leihau’r posibilrwydd o lithro a chwympo.

  • Salwch Uchder

    Mewn mannau uchel, bydd yr aer yn deneuach, a gall hynny arwain at symptomau megis blinder eithafol. Lle bydd sefyllfaoedd yn caniatáu hynny, dylai cydweithwyr ystyried cyfnod o arfer mewn lleoliadau is cyn symud i fannau uwch.

  • Pryfed (yn cynnwys Malaria)

    Mae brathiadau yn gyffredin a gallant arwain at adweithiau neu gludo clefydau. Dylid ceisio sylw meddygol ar frys os bydd brathiad gan bryf yn peri chwyddo, cleisio neu boen cyson. Ar ben hynny, cyn teithio, dylid holi Meddyg Teulu a oes angen meddyginiaeth (e.e. tabledi Malaria), defnyddio hylif cadw pryfed draw os ydych tu allan, osgoi defnyddio cynnyrch persawrus all ddenu pryfed, a gwisgo dillad addas i orchuddio’r croen, yn enwedig ar ôl i’r haul fachlud, gan fod pryfed yn fwyaf cyffredin bryd hynny.

  • Anifeiliaid

    Gallant anafu neu drosglwyddo heintiau. Os cewch eich brathu, eich llyfu neu eich crafu gan anifail, golchwch y ma yn drylwyr, holwch am gyngor meddygol ar unwaith a chofnodwch fanylion y digwyddiad a’r anifail.

Brechiadau / Meddyginiaeth

Dylai cydweithwyr sicrhau eu bod wedi derbyn y brechiadau a’r meddyginiaethau priodol ar gyfer y gwledydd y byddant yn ymweld â nhw. A fyddech cystal â gweld eich Meddyg Teulu cyn teithio er mwyn trafod anghenion penodol.

Ceir gwybodaeth sy’n ymwneud â’r brechiadau sy’n angenrheidiol ac sy’n cael eu hargymell gan ddibynnu ar y gwledydd y byddwch yn ymweld â nhw, trwy’r cysylltiadau isod:

NHS Fit for Travel: Cyrchfannau

Canolfan a Rhwydwaith Cenedlaethol Iechyd Teithwyr: NaTHNaC

Cyflyrau Hysbys

Os yw cydweithwyr yn dioddef o gyflwr meddygol hysbys, dylid nodi mesurau rheoli priodol yn yr asesiad risg perthnasol. Er enghraifft, ar gyfer cyflyrau sy’n mynnu triniaeth reolaidd neu ysbeidiol, dylai cydweithwyr sicrhau bod ganddynt ddigon o feddyginiaeth ar gyfer y daith ar ei hyd, gan gymryd i ystyriaeth oedi posibl neu ragweladwy.

Arfer da hefyd yw mynd â chopi o’ch holl bresgripsiynau gyda chi rhag ofn i chi eu colli, neu iddynt gael eu dwyn, ac os yw’r salwch neu’r driniaeth yn eithriadol neu’n anarferol, ewch â llythyr gan eich meddyg teulu sy’n disgrifio’r broblem a’r modd arferol o reoli neu drin y cyflwr.

Wrth deithio gyda meddyginiaethau, gwiriwch Reoliadau y Cwmni Hedfan perthnasol. Lle bydd y cwmni hedfan yn caniatáu hynny, cariwch eich holl feddyginiaethau yn y bagiau fydd gennych ar yr awyren i osgoi eu colli neu eu niweidio. Ar ben hynny, os bydd meddyginiaethau yn cael eu cymryd trwy bigiad neu ar ffurf hylif, ewch â llythyr gan eich meddyg teulu i gadarnhau hynny. Bydd hefyd angen llythyr gan feddyg teulu os yw eich triniaeth yn cynnwys cyffuriau dan reolaeth (tabledi opiad, rhai tawelyddion) i osgoi anawsterau wrth fynd i mewn i wledydd. Byddwch yn ymwybodol y gall fod cyfyngiadau a hyd yn oed waharddiadau ar rai meddyginiaethau wrth deithio dramor. Er enghraifft, mae cyffuriau sy’n cynnwys opiad megis codin wedi’u gwahardd mewn rhai gwledydd.

Os oes un o’r amodau isod yn berthnasol, dylech holi am gyngor eich Meddyg Teulu cyn teithio:

  • Mae’r meddyginiaethau sydd eu hangen arnoch yn fwy na’r hyn a roddir ar un presgripsiwn fel arfer;
  • Mae’r broblem iechyd yn mynnu asesu neu fonitro meddygol yn rheolaidd, e.e. profion gwaed;
  • Gall y broblem achosi analluogrwydd sydyn e.e. epilepsi, diabetes;
  • Nam ar yr imiwnedd e.e. HIV, triniaeth â chyffuriau gwrthimiwnaidd;
  • Mae’r broblem iechyd mor ddifrifol fel y cawsoch eich derbyn i’r ysbyty yn ystod y flwyddyn ddiwethaf;
  • Mae’r meddyginiaethau a ddefnyddir yn y driniaeth yn newydd;
  • Mae eich problem iechyd yn cyfyngu ar eich gallu i ymarfer e.e. clefyd y galon;
  • Teithio o fewn i 3 mis ar ôl salwch mawr, e.e. trawiad ar y galon, neu lawdriniaeth / triniaeth yn gofyn am aros mewn ysbyty dros nos. Ni chaniateir teithio yn erbyn cyngor Meddyg Teulu.

Nodwch…

Ni chaniateir teithio yn erbyn cyngor Meddyg Teulu, gan y byddai unrhyw Clawr ar gyfer taith o’r fath yn annilys.

Hanfodion Teithio

Dylai’r asesiad risg teithio gynnwys ystyriaethau teithio sylfaenol eraill, a all gynnwys, ond heb fod wedi’u cyfyngu i:

  • Diwylliant 

    Gall traddodiadau ac arferion lleol amrywio rhwng gwledydd, a rhaid i ymwelwyr barchu hynny. Gall y rhain gynnwys arferion crefyddol a deddfwriaethol a all effeithio ar y ffordd y disgwylir i bobl ymddwyn, megis gwisg ac ymddygiad, yfed alcohol neu gyfyngiad neu waharddiad ar ffilmio neu ffotograffiaeth.

  • Llety 

    Defnyddiwch y Cwmni Rheoli teithio a benodir ar y pryd gan y Brifysgol bob amser, gan barchu Rheoliadau Caffael ac Ariannol y Brifysgol. Ar ôl cyrraedd, ymgynefinwch â’r hyn sydd o’ch cwmpas, yn cynnwys lleoliad yr allanfeydd tân agosaf, a chofiwch gloi eich ystafell bob tro.

  • Trafnidiaeth

    Bydd cyflwr cerbydau a’r ffordd y bydd pobl yn gyrru yn amrywio rhwng gwledydd. Gall hefyd fod trafnidiaeth leol y byddai’n well ei hosgoi.

  • Lles Cyffredinol 

    Gall fod yn well i yfed dŵr potel yn hytrach na dŵr tap mewn ambell wlad, a gall safonau cyffredinol bwyd a hylendid amrywio’n sylweddol yn ogystal.

  • Dwyn neu golli 

    Ewch â chopïau, neu storiwch gopïau electronig, o ddogfennau hanfodol y gallwch gael mynediad iddynt, os bydd angen.

  • Diogelwch Cyffredinol 

    Gall safonau trydan, gwydr neu ddiogelwch tân amrywio. Byddwch yn wyliadwrus er eich diogelwch eich hun, a gwrandewch ar gyngor cysylltiadau yr ydych yn ymddiried ynddynt, darparwyr teithiau a gwefannau uchel eu parch.

Dylai cydweithwyr sicrhau bod gan gydweithwyr yn eu Hathrofa neu Adran Gwasanaethau Proffesiynol gopïau o’u hasesiadau risg teithio a gweithgaredd, manylion llawn y daith (yn cynnwys manylion cysylltu, lleoliad, llety, teithio a’r hediadau), a bod unigolion penodol yn yr Athrofa neu’r Adran Gwasanaethau Proffesiynol sy’n gallu cysylltu â nhw os bydd argyfwng.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae’r dolenni isod yn cysylltu â rhai o’r prif ffynonellau gwybodaeth i’w hystyried cyn teithio dramor. Noder nad yw’r ffynonellau isod yn cynrychioli rhestr gynhwysfawr o ffynonellau gwybodaeth posibl. Gall teithio i ranbarthau neu ardaloedd neu weithgareddau penodol fynnu ystyried ffynonellau ychwanegol yn ôl yr angen.

Cyngor Teithio’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad: Cyngor Teithio Tramor.

Cyngor Teithio’r Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol (GIG): Iechyd Teithio.

Gwefan yr Adran Iechyd, Diogelwch ac Amgylchedd: HSE.

NHS Fit for Travel: Cyrchfannau

Canolfan a Rhwydwaith Cenedlaethol Iechyd Teithwyr: NaTHNaC

I gael rhagor o wybodaeth neu arweiniad ynglŷn â Theithio, cysylltwch â’r adran Iechyd, Diogelwch ac Amgylchedd ar hasstaff@aber.ac.uk neu estyniad 2073.

Myfyrwyr Sy’n Mynd Dramor

Mae’r Brifysgol yn darparu yswiriant teithio yn rhad ac am ddim i unrhyw fyfyriwr sy’n cymryd rhan mewn unrhyw gynllun blwyddyn dramor. Mae’r yswiriant teithio hwn hefyd yn berthnasol i leoliadau hyfforddeiaeth. Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer yr yswiriant hwn mae’n rhaid bodloni’r meini prawf canlynol:

  • Mae gan y myfyriwr leoliad ar gynllun tramor y cytunwyd arno gan y Brifysgol.
  • Mae’r lleoliad yn rhan o’r cynllun gradd.
  • Mae’r ymgeisydd yn fyfyriwr presennol ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Yn ogystal â gweithgareddau’r lleoliad, byddai’r myfyriwr yn elwa o’r yswiriant pe byddent yn gorfod derbyn cyfrifoldeb cyfreithiol am anaf/colled yn deillio o ddigwyddiad yn ystod amser hamdden/cymdeithasu. Dylai fod gan y sefydliad sy’n cynnal y lleoliad ryw ffurf ar yswiriant Cyflogwr ac Atebolrwydd Cymdeithasol a fyddai’n cynnwys y myfyriwr yn ystod yr amser a dreulir yn y man gwaith/astudio.

Mae’r yswiriant y mae’r Brifysgol yn ei ddarparu yn cwmpasu’r canlynol:

  • Costau Meddygol mewn Argyfwng
  • Cymorth Meddygol mewn Argyfwng
  • Eiddo Personol / Eiddo Busnes
  • Diddymu / Cwtogi Taith
  • Niwed Personol
  • Atebolrwydd Personol

I gael manylion mwy cynhwysfawr am bob un o’r uchod, cliciwch ar y ddolen isod:

Travel Cover Summary 2023-24 (Saesneg yn unig)

I wneud cais am yswiriant teithi, rhaid i fyfyrwyr gysylltu â'u cydlynydd adrannol neu weinyddwr y gyfadran.

Yn achos lleoliadau tymor hir, byddem yn awgrymu trefnu yswiriant meddygol/iechyd ychwanegol hefyd. Byddai hyn yn cynorthwyo’r ymgeisydd gydag unrhyw argyfwng anfeddygol, gwaith deintyddol, a moddion.

I'r mwyafrif o bobl, mae Cerdyn Yswiriant Iechyd Byd-eang y DU (UK GHIC) yn disodli'r Cerdyn Yswiriant Iechyd Ewropeaidd (EHIC) presennol, gweler y ddolen isod ynghylch cymhwyso a thelerau defnyddio cerdyn GHIC ac EHIC.

Astudio Dramor

Teithio Dramor Ffurflen Archebu

Mae'n hanfodol i unrhyw staff neu fyfyrwyr sydd yn teithio dramor ar deithiau sydd yn ymwneud â'r Brifysgol (gan gynnwys y rhai sy'n mynd i gynadleddau, sy'n ymgymryd â gwaith maes, neu ar leoliadau gwaith) sicrhau bod yswiriant teithio wedi'i drefnu trwy ddarparwr y Brifysgol. Mae'n RHAID i hyn gael ei drefnu cyn unrhyw deithio dramor.

Asesiad Risg Teithio Rhyngwladol

Asesiad Risg Teithio Grŵp Rhyngwladol

Am fanylion ynglyn as asesiad risg ac am y ffurflen asesiad risg ewch i:

Asesiad Risg

Am y cyngor diweddaraf ynglyn a teithio dramor ymwelwch a Cyngor Teithio Tramor (Saesneg)

Gwledydd lle mae perygl mawr

Rhaid i unrhyw aelod o staff neu fyfyriwr sy’n dymuno teithio ddarllen y cyngor teithio a roddir gan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad cyn pob taith (hyd yn oed os oes yw’r cydweithwyr yn ymweld â’r rhanbarth neu’r ardal yn fynych).

Er mwyn cael y cyngor diweddaraf ynglŷn â theithio dramor a rhestr o wledydd lle mae perygl mawr, ewch i Cyngor Teithio Tramor.  

Fe allai’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad nodi bod perygl mawr mewn gwlad drwy osod cyfyngiadau teithio ar broffil y wlad honno.

Dylid rhoi gwybod i’r Adran Teithio a Fflyd ar unwaith am unrhyw fwriad i deithio i wlad neu ranbarth lle mae cyfyngiadau teithio neu statws risg uwch wedi eu nodi gan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad.

Cofiwch nad yw cymeradwyaeth gan eich Rheolwr Llinell/Pennaeth Adran yn rhoi awdurdod i deithio i wledydd lle mae perygl mawr. Rhaid cydymffurfio â’r gweithdrefnau canlynol cyn teithio i’r gwledydd hyn:

 

Os nad oes cyfyngiadau teithio wedi’u nodi gan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad (SDCh):

Gall y Cyfarwyddwr Athrofa/Pennaeth Adran priodol gymeradwyo’r daith ar ôl rhoi’r ystyriaeth ddyladwy i’r asesiad risg Teithio.

 

Os yw’r SDCh yn cynghori yn erbyn teithio i wledydd neu ranbarthau oni bai bod y busnes yn hanfodol:

Ni ddylid ystyried teithio cyn gwneud asesiad risg cynhwysfawr a chael cyngor gan yr Adran Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd, y cwmni sy’n darparu yswiriant teithio’r Brifysgol, a rhoi’r ystyriaeth ddyladwy i gyngor y SDCh.  Mewn unrhyw achos o’r fath rhaid cael tystiolaeth hollol gadarn i ddangos pwysigrwydd y daith.

 

Os yw’r SDCh yn cynghori yn erbyn teithio i wledydd neu ranbarthau:

Dim ond y Dirprwy Is-Ganghellor a Chyfarwyddwr Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd fydd yn gallu cymeradwyo taith o’r fath, onibai bod y myfyriwr neu aelod staff yn teithio i’w gwledydd genedigol. Rhaid cael cymeradwyaeth gan ddarparwyr yswiriant teithio’r Brifysgol i deithio i unrhyw wlad neu ranbarth sydd ar restr y SDCh. Ni chaiff ceisiadau am deithio i’r gwledydd/rhanbarthau hyn eu hystyried heb achos Diogelwch ysgrifenedig atodol. Rhaid i’r cais gael ei gymweradwyo hefyd gan Gyfarwyddwr yr Athrofa/Pennaeth yr Adran, gan roi tystiolaeth hollol gadarn bod angen ymgymryd â’r daith arfaethedig.

 

Teithio i Wlad neu Ranbarth genedigol/gartref:

Mewn achos lle mae myfyriwr neu aelod staff yn dymuno mynd yn ôl i’w gwlad enedigol i wneud gwaith neu ymchwil a bod cyfyngiadau teithio wedi eu nodi gan y SDCh ar gyfer y wlad (neu ranbarth) yn achos dinasyddion Prydeinig, gellir awdurdodi’r daith o fodloni’r meini prawf canlynol.

  • Mai dim ond yn y wlad/rhanbarth dan sylw y gellir gwneud yr ymchwil/gwaith arfaethedig neu mai bwriad darparwr y cyllid/noddwr oedd y byddai’r ymchwil yn cael ei gwneud yn y wlad neu ranbarth dan sylw.
  • Nad yw’r ymchwil/gwaith yn peri y byddai’r unigolyn mewn mwy o berygl o’i gymharu â’r perygl pe byddai’n gwneud ei waith/ymchwil arferol yn y wlad enedigol/rhanbarth dan sylw.
  • Bod gan yr unigolyn basbort dilys i’r wlad honno.
  • Bod asesiad risg teithio ac asesiad risg gweithgareddau cysylltiedig wedi eu gwneud a’u bod wedi cael cyngor gan y Swyddfa Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd.
  • Bod cymeradwyaeth wedi’i gael gan ddarparwyr yswiriant teithio’r Brifysgol.
  • Cyfarwyddwr yr Athrofa fydd yn cyneradwyo'r daith gan roi ystyriaeth ddyledus i'r asesiad risg a'r rheswm dros deithio.
  • Bod myfyrwyr wedi hysbysu'r Rheolwr Cydymffurfiaeth yn y Swyddfa Ryngwladol, er mwyn rhoi gwybod i Fisâu a Mewnfudo'r DU

 

Os bydd y Brifysgol yn rhoi awdurdod i deithio i wlad sydd â statws risg uwch iddi yn ôl y SDCh, cynghorir cydweithwyr i gofrestru gyda Llysgenhadaeth Prydain neu’r Swyddfa Gonsylaidd ar unwaith ar ôl cyrraedd, a chario’r manylion cyswllt perthnasol gyda nhw drwy’r amser (i’w cael fan hyn: Sefydliadau'r Byd)

Archebu Teithio Busnes

Clarity Ltd yw ein Cwmni Rheoli Teithio presennol.

Gellir gwneud archebion teithio a llety ar-lein gan ddefnyddio Go2book neu all-lein gyda thîm Delta mewn rhai amgylchiadau (gweler ein Cwestiynau Cyffredin), gweler y manylion cyswllt isod:

Gwneud archeb ar-lein: Go2book

Tîm Delta Rhif ffôn: 0333 014 6080

Ymholiadau e-bost: universities@claritybt.com

Clarity Cwestiynau Cyffredin

I godi pryder neu wneud cwyn i Clarity, e-bostiwch customerservice@claritybt.com

Mae'r cyflenwr wedi cael gwybod am y terfynau a osodwyd gan bolisi a gweithdrefnau'r Brifysgol, os bydd amgylchiadau'n codi lle y bydd angen i chi archebu y tu allan i derfynau'r Brifysgol o bosibl, cysylltwch â travel@aber.ac.uk cyn gwneud unrhyw archebion.

I gael gwybodaeth yn ymwneud â threuliau teithio staff, ewch i Cyfraddau Teithio a Chynhaliaeth.