Clatiry archebu ar-lein Cwestiynau Cyffredin

 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylchb porth archebu ar-lein Clarity, cyfeiriwch eich ymholiadau at y tîm Teithio a fflyd ar e-bost: travel@aber.ac.uk neu Ffôn 01970 621623.

Beth yw Clarity, a pha wasanaethau maen nhw'n eu darparu i'r Prifysgol?

Clarity yw'r Cwmni Rheoli Teithio penodedig ar gyfer Prifysgol Aberystwyth. Maent yn cynnig ystod eang o wasanaethau gan gynnwys gwasanaethau awyr, rheilffordd a gwesty yn y DU ac yn rhyngwladol, gwasanaethau Fferi, Eurostar, llogi cerbydau rhyngwladol, gwasanaethau Fisa a chyngor proffesiynol perthnasol i bob teithiwr.

Rhaid archebu teithio a llety ar gyfer busnes trwy Clarity (gweler y polisi teithio am eithriadau). Nid yw'r gwasanaethau eraill a ddarperir gan Clarity yn ofyniad gorfodol o'r polisi teithio.”

Dw i ond yn archebu teithiau ar gyfer pobl eraill. A oes angen i mi roi fy mhasbort a rhif ffôn symudol yn yr adran Proffil o hyd?

Does dim rhaid i chi nodi manylion eich pasbort. Dim ond eich manylion cyswllt sydd angen eu cynnwys yn eich proffil fel archebwr. Pan fyddwch yn archebu ar ran teithiwr bydd eu gwybodaeth, gan gynnwys eu manylion pasbort, rhif ffôn symudol, a'r dewis o seddi yn cael eu rhagosod cyn belled â'u bod wedi cwblhau eu proffil yn y lle cyntaf.

 

Alla i archebu gwesty neu daith ar ran grŵp o bobl?

Gallwch, ar yr amod eich bod wedi cofrestru fel Archebwr gyda Clarity ar-lein.

Allwch chi ychwanegu dewisiadau a dogfennau ar gyfer pobl eraill os byddwn yn archebu ar eu rhan? Neu a oes angen iddynt ei ychwanegu?

Mae angen i'r unigolyn ddiweddaru ei broffil ei hun, bydd defnyddwyr gweinyddol o fewn y tîm Teithio a Fflyd hefyd yn gallu ychwanegu'r wybodaeth hon os oes angen.

Sut mae bwcio ar gyfer rhywun os nad oes ganddyn nhw broffil?

Gallwch naill ai ofyn i aelod o’r tîm Teithio a Fflyd ychwanegu’r proffil i chi, neu gallwch archebu lle fel gwestai am un archeb,Fodd bynnag, byddem yn annog yr holl staff i greu proffil.

Os ydw i yn archebu ar ran rhywun arall, a oes angen yr ap arnynt i gasglu tocynnau trên a thocynnau hedfan ac ati?

Bydd y system yn anfon y manylion archebu at yr archebwr a'r teithiwr trwy e-bost. Ni fydd angen yr ap ar y teithiwr ond gall n nhw ei ddefnyddio os ydynt yn dymuno gwneud hynny.

Pam fod angen archeb brynu arnaf i sicrhau archeb?

Yn yr un modd ag y mae pyrth archebu eraill yn gofyn am archeb brynu, mae angen archeb brynu fel rhan o weithdrefnau ariannol y Brifysgol a phrosesau mewnol Clarity. Mae hyn yn sicrhau bod pob cymeradwyaeth (y Brifysgol) yn eu lle, a bod rhif yr archeb brynu ar gael yn rhwydd i'w ddyfynnu ar yr anfoneb.

Oes unrhyw ffioedd archebu archebu ar-lein?

Does dim ffioedd archebu wrth archebu gwestai domestig a rhyngwladol. Codir ffi fechan wrth archebu teithiau trên. Codir ffi am ad-daliadau a newidiadau i archebion awyr, rheilffordd a gwesty.

A allwn ni gael pris cyfatebol os ydyn ni'n gweld yr un hediad/gwesty/taith drên ryngwladol yn rhatach yn rhywle arall?

Mae Clarity yn gweithredu Gwarant Pris Cyfatebol. E-bostiwch pricematch@claritybt.com gan ddyfynnu 'price match' yn y llinell bwnc ac unrhyw gyfeirnod Clarity. Cofiwch gynnwys sgrinlun er mwyn galluogi Clarity i wirio yn erbyn eu telerau ac amodau.

(Dim ond yn ystod eu horiau gwaith o 08:30 o'r gloch - 1800 o'r gloch y mae gwasanaeth pris cyfatebol Clarity ar gael, o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac eithrio gwyliau banc).

Pa yswiriant sydd gan yr archebion hyn ar gyfer trenau neu deithiau hedfan sydd wedi'u canslo?

Nid yw Clarity yn cynnig/darparu yswiriant. Fodd bynnag, os bydd taith hedfan neu drên wedi'i canslo, byddant yn darparu'r holl fanylion perthnasol o ran y broses ad-dalu a pha gostau y gellir eu hadennill. Os oes gennych ymholiadau yswiriant teithio cyffredinol gall ein tîm Teithio a Fflyd helpu.

Rwy'n cael trafferth cael mynediad i fy nghyfrif.

Os cewch unrhyw broblemau wrth gael mynediad at gyfrif presennol neu gyfrif newydd, cysylltwch â'r adran Teithio a Fflyd.

Alla i ddal i archebu trwy e-bost neu dros y ffôn?

Gallwch, os dymunwch, gallwch barhau i drefnu a gosod archebion trwy e-bost a thros y ffôn. Byddem yn annog pob aelod o staff i archebu ar-lein oherwydd ei fod yn hawdd ei gyrchu, i gael dyfynbrisiau ar unwaith ar gyfer y system Go2Track ac i'w defnyddio.

Ga i archebu teithiau hedfan rhyngwladol drwy Clarity ar-lein?

Dylid archebu'r holl hediadau rhyngwladol drwy'r gangen leol trwy e-bostio neu ffonio Clarity.

Wrth osod archeb ar Go2Book, pam mae'r teitlau wedi'u gosod fel, Prof, Dr, Mr, Mrs, Ms a Miss yn unig?

Yr unig deitlau teithwyr y gall Go2Book eu derbyn yw'r rhai a gydnabyddir yn gyffredinol gan bob cwmni hedfan mawr a darparwr teithiau eraill. Hyd nes y bydd yr holl gyflenwyr yn cytuno'n gyffredinol ar deitl anneuaidd safonol fel MX, dim ond trwy ddefnyddio'r Athro, Dr, Mr, Mrs, Ms a Miss y gellir archebu lle.

 

Fel aelod o’r BTA (British Travel Association) mae Clarity wedi ac yn parhau i godi’r mater am deitl teithiwr anneuaidd a bydd yn newid ac yn cydnabod unrhyw newidiadau yn unol â hynny unwaith y bydd cyflenwyr wedi cymeradwyo’n gyffredinol.

Pam fod angen i mi ddewis rhywedd gwrywaidd neu fenywaidd wrth archebu?

Bydd Go2Book yn gofyn am wybodaeth rhywedd os bydd y cyflenwr, API (Application Programming Interface) yn gofyn am y manylion hyn er mwyn cwblhau'r archeb. Mae rhai cwmnïau hedfan angen y wybodaeth oherwydd cyfraith y llywodraeth a mynediad i'r wlad. Mae swyddogion diogelwch y famwlad yn mynnu bod cwmnïau hedfan i UDA yn darparu manylion pasbort llawn i bob teithiwr ynghyd â'u rhywedd.

 

Mae'r rhaglen Hedfan Ddiogel yn gwirio'r wybodaeth cadw yn erbyn rhestrau gwylio'r Llywodraeth. Mae gwybodaeth rhywedd wedi’i chynnwys mewn cymalau cadw i ddileu cyfatebiaeth ffug gyda’r un enwau neu enwau tebyg, nid i werthuso rhywedd person.

Pa godau post sy'n cael eu hystyried fel rhan o Lundain wrth archebu gwesty ar gyfer Llundain?

Ystyrir unrhyw god post sy'n dechrau gyda'r canlynol yn rhan o Lundain. E, EC, N, NW, SE, SW, W, WC, CR, SWV1, HA, BR, EN, IG, KT, RM, SM, TW, UB, WD BR, EN, IG, RM, SM, WD, TW, UB, DA

Allwch chi ychwanegu cardiau rheilffordd?

Gallwch, gallwch ychwanegu cardiau rheilffordd.

Sut ydw i'n mynegi pryder neu'n gwneud cwyn i Clarity?

Anfonwch e-bost at customerservice@claritybt.com os hoffech fynegi pryder neu wneud cwyn.

A oes ap ffôn symudol i reoli'r archeb/archebion a wneir ar Go2book?

Oes, gellir rheoli pob archeb ar yr ap Go2mobile. Mae ap Clarity Go2Mobile yn rhoi'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch wrth deithio ar fusnes. Mae Go2Mobile yn ap sy'n canolbwyntio ar deithwyr busnes sydd wedi'i gynllunio i leihau'r amser a'r drafferth sy'n gysylltiedig â theithio, ac yn gwella lles teithwyr ar yr un pryd. Mae eich holl wybodaeth am y daith yn cael ei diweddaru'n awtomatig pan fydd unrhyw newidiadau'n digwydd, ac mae gwybodaeth fyw am ymadawiadau yn rhoi'r wybodaeth fwyaf cyfredol i chi. Gellir lawrlwytho'r ap ar ddyfeisiau Android ac iOS.

A gaf i ddewis cael e-docyn trên neu a oes rhaid imi gasglu tocyn trên o'r orsaf drenau?

A gaf i ddewis cael e-docyn trên neu a oes rhaid imi gasglu tocyn trên o'r orsaf drenau?

Yn y rhan fwyaf o achosion, byddwch yn gallu dewis e-docyn trên wrth gwblhau eich archeb. Fodd bynnag, dim ond tocynnau trên papur y mae rhai cwmnïau trên yn eu cynnig. Nid oes rhaid i chi gasglu eich tocyn o'r orsaf rydych chi'n teithio ohoni - gallwch ei gasglu o unrhyw orsaf sydd â pheiriant tocynnau. Os arhoswch am 20 munud ar ôl archebu eich tocyn, bydd yn barod.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â’r tîm Teithio a Fflyd.

Mae gen i gyllid teithio neu lety y mae angen ei wario erbyn dyddiad penodol. Os byddaf yn archebu fy nhaith neu lety ymhell ymlaen llaw, a fydd hyn yn sicrhau y byddaf yn derbyn yr anfoneb i dalu am y daith cyn y dyddiad penodedig?

Fel rheol, mae anfonebau am docynnau trên neu hediadau yn cael eu hanfon dros e-bost ar adeg eu harchebu. Anfonir anfonebau am westai a llety drwy e-bost unwaith y bydd y teithiwr wedi cwblhau ei arhosiad yn llawn.