Tîm Hunan-Asesu Athena Swan - Mynegi Diddordeb
Fel rhan o baratoi’r Prifysgol ar gyfer y cyflwyniad Athena Swan nesaf, rydym yn sefydlu Tîm Hunan-asesu (SAT) i helpu i lywio, rhoi gwybodaeth a chefnogi datblygiad ein gwaith.
Mae Siarter Athena Swan AdvanceHE yn parhau i fod yn un o’r fframweithiau cydraddoldeb mwyaf cydnabyddedig ac sefydledig yn Addysg Uwch i hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol.
Bydd y SAT yn chwarae rôl bwysig wrth adolygu tystiolaeth, dadansoddi data, nodi blaenoriaethau a helpu ni i ddeall profiadau cymuned y brifysgol. Felly rydym yn chwilio am bobl sy’n dymuno cyfrannu at y gwaith hwn.
Rydym am greu grŵp amrywiol a chynrychiadol a chroesawwn ddiddordeb gan gydweithwyr ar draws pob grŵp o staff, gradd a lefelau swyddi, rolau, adrannau academaidd a gwasanaethau proffesiynol.
Rydym yn gwerthfawrogi ystod eang o safbwyntiau, profiadau ac arbenigedd, gan gynnwys profiadau byw proffesiynol a phersonol sy'n ymwneud â tegwch, amrywioldeb ac amrywiaeth, llwybr gyrfa, cyfrifoldebau gofal, anabledd, hil, rhywedd, rhywioldeb, oedran, ffydd ac agweddau eraill o hunaniaeth.
Wrth ddewis aelodau, byddwn yn ceisio creu grŵp cytbwys a chynrychioliadol sy'n adlewyrchu'r ystod o safbwyntiau, profiadau, arbenigedd a hunaniaethau a ddisgrifiwyd uchod.
Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol gyda Athena Swan. Rydyn ni'n chwilio am gydweithwyr sydd â diddordeb mewn helpu i lunio amgylchedd gwaith ac addysgu teg, cynhwysol ac chefnogol i bawb.
Mae’n ofynnol i’r Brifysgol gyflwyno ei chais Athena Swan erbyn Medi 2028. Y nod yw sefydlu’r SAT a chwrdd bob mis yn ystod 2027 ac yn debygol i fod yn fwy aml yn ystod gwaith prosiect ac wrth i’r terfyn amser agosáu.
Os hoffech chi fynegi diddordeb mewn bod yn aelod o’r Tîm Hunan-Asesu (SAT), llenwch y ffurflen fer isod erbyn 6 Tachwedd 2026.
Diolch am ystyried y cyfle hwn i gyfrannu at waith pwysig gan y Brifysgol.
Cofion cynnes,
Patrick Finney
Dirprwy Is-ganghellor gyda chyfrifoldeb dros Degwch, Amrywioldeb a Chynhwysiant
