Rheolau Cofrestru a Meini Prawf Beirniadu

Rheolau ar gyfer y cyflwyniad fideo:

  • Cyfyngir y fideos i 3 munud ar y mwyaf a bydd cystadleuwyr sy’n recordio fideo sy’n hwy na 3 munud yn cael eu gwahardd.
  • Bydd y fideos yn canolbwyntio ar y cyflwynydd yn unig ac yn barhaus, a bydd eich wyneb o leiaf i’w weld drwy gydol y fideo (h.y. mae gwe-gamera ar ffurf ‘pen sy’n siarad’ neu fideos ar gamera ffonau symudol yn dderbyniol).
  • Ni ddylid golygu’r cyflwyniadau ac ni ddylai’r fideos gynnwys cymorthyddion gweledol nac elfennau ychwanegol.
  • Bydd y cyflwyniadau ar ffurf geiriau llafar (e.e. dim cerddi, rapiau na chaneuon).
  • Ni chaniateir cyfryngau electronig ychwanegol (e.e. ffeiliau sain a fideo).
  • Ni chaniateir ategolion ychwanegol (e.e. gwisgoedd, offerynnau cerdd, offer labordy).
  • Bydd penderfyniad y panel sy’n llunio’r rhestr fer yn derfynol.

Rheolau ar gyfer rownd derfynol byw 3MT®

  • Caniateir un sleid PowerPoint sefydlog (dim trosglwyddo, animeiddio na ‘symud’ o unrhyw fath, rhaid cyflwyno’r sleid o ddechrau’r araith.
  • Ni chaniateir cyfryngau electronig ychwanegol (e.e. ffeiliau sain a fideo).Ni chaniateir ategolion ychwanegol (e.e. gwisgoedd, offerynnau cerdd, offer labordy).
  • Cyfyngir y fideos i 3 munud ar y mwyaf a bydd cystadleuwyr sy’n cymryd mwy na 3 munud yn cael eu gwahardd o’r gystadleuaeth.
  • Bydd y cyflwyniadau ar ffurf geiriau llafar (e.e. dim cerddi, rapiau na chaneuon).
  • Bydd y cyflwyniadau yn dechrau o’r llwyfan (ar gyfer y rownd derfynol byw).
  • Ystyrir bod y cyflwyniadau wedi dechrau wrth i’r cyflwynydd ddechrau’i gyflwyniad trwy symud neu siarad.
  • Bydd penderfyniad y panel beirniaid yn derfynol.

Meini Prawf Beirniadu 3MT®

Ar bob lefel o’r gystadleuaeth bydd pob cystadleuydd yn cael ei asesu ar sail y tri maen prawf beirniadu a restrir isod. Noder fod pob maen prawf yn gyfartal o ran gwerth a bod pwyslais ar y gynulleidfa.

1. Dealltwriaeth:

1.1

A oedd y cyflwyniad yn cynnwys dealltwriaeth o gefndir y cwestiwn ymchwil dan sylw, a’i arwyddocâd?

1.2

A wnaeth y cyflwyniad ddisgrifio’n eglur brif ganlyniadau’r ymchwil yn cynnwys y casgliadau a’r deilliannau?

1.3

A oedd y cyflwyniad yn dilyn trefn eglur a rhesymegol?

2. Ymgysylltu:

2.1

A oedd yr araith yn gwneud i’r gynulleidfa fod eisiau gwybod mwy?

2.2

A oedd y cyflwynydd yn ofalus wrth beidio â distadlu neu gyffredinoli ei waith ymchwil?

2.3

A oedd brwdfrydedd y cyflwynydd am ei waith ymchwil yn amlwg?

2.4

A wnaeth y cyflwynydd ddal, a chadw, sylw ei gynulleidfa?

3. Cyfathrebu:

3.1

A gafodd pwnc y traethawd ymchwil, y prif ganlyniadau ac arwyddocâd a deilliannau’r ymchwil eu cyfathrebu mewn iaith sy’n briodol ar gyfer cynulleidfa sydd ddim yn arbenigwyr?

3.2

A wnaeth y siaradwr osgoi jargon gwyddonol, egluro terminoleg a darparu digon o wybodaeth gefndirol wrth ddarlunio pwyntiau?

3.3

A oedd gan y siaradwr bresenoldeb digonol ar lwyfan, yn edrych i fyw llygaid ei gynulleidfa ac yn amrywio ei lais yn dda; yn siarad yn bwyllog drwy’r amser; ac yn hyderus?

3.4

A wnaeth y cyflwynydd dreulio digon o amser ar bob elfen o’r cyflwyniad – neu a wnaeth ymhelaethu’n ormodol ar un agwedd neu a oedd ôl brys ar y cyflwyniad?