Cyfleoedd ariannu

Mary Margaret Wooloff Scholarship

Roedd Margaret Wooloff yn aelod gweithgar o Gymdeithas y Cyn-fyfyrwyr (OSA).  Graddiodd o Brifysgol Aberystwyth gyda gradd Ffrangeg ym 1942 ac enillodd gymhwyster athrawes ym 1943. Ar ôl dysgu ym Mharis am gyfnod ar ôl y rhyfeldechreuodd ar yrfa ddisglair yn athrawes, a bu'n brifathrawes Ysgol Ramadeg y Frenhines Elizabeth i Ferched ac Ysgol Cambria y Frenhines Elizabeth, Caerfyrddin (1960-1983).

Ysgoloriaeth PhD Margaret Wooloff - Manylion y Prosiectau sydd ar Gael i'w Dyfarnu 

Ar agor i ymgeiswyr sy'n gymwys i gael statws ffioedd Cartref (DU) yn unig, mae tair ysgoloriaeth PhD llawn amser ar gael.  Caiff y rhain eu dyrannu i un fesul Cyfadran ac ar sail gystadleuol i dri o'r prosiectau a ddisgrifir yn y Ysgoloriaeth PhD Margaret Wooloff PhD 2023 Manylion Prosiectau. 

Bydd y myfyrwyr sy'n ennill Ysgoloriaeth Margaret Wooloff yn cael grant am hyd at dair blynedd, a fydd yn talu eu ffioedd dysgu hyd at raddfa myfyrwyr cartref (DU), sef £4,712 y flwyddyn (graddfa 2023/24). Bydd lwfans cynhaliaeth o tua £18,622 y flwyddyn* a hawl i wneud cais i gronfa deithio a chynadleddau (uchafswm £500 y flwyddyn*) hefyd yn cael ei roi. Bydd yr ysgoloriaethau'n dechrau ym mis Medi 2023. 

Sut i Wneud Cais 

gael eu hystyriedrhaid i ymgeiswyr lenwi'r cais PhD llawn ar-lein Ffurflen Gais Ysgoloriaeth PhD Margaret Wooloff

YN OGYSTAL 

Ar ôl llenwi Ffurflen Gais Ysgoloriaeth Margaret Wooloff, dylid ei chyflwyno ar-lein trwy ein Porth Derbyn Graddedigion wrth wneud cais.  

I wneud cais PhD llawn, ewch i'n tudalennau cwrs  yn gyntaf a dod o hyd i fanylion y cwrs yr hoffech wneud cais amdano.  Unwaith y byddwch wedi dod o hyd i'r Dudalen Cwrs o'ch dewis, dewiswch y botwm "Gwneud Cais Nawr" i ddechrau eich cais.  

Bydd y Porth Ceisiadau Derbyn Ôl-raddedig yn gofyn i chi roi eich manylion personol i ni, cadarnhau eich dewis(au) cwrs a lanlwytho dogfennau i gefnogi eich cais.  Sicrhewch eich bod wedi cadw dogfennau ategol ar ffurf PDF ac yn barod i'w lanlwytho i'ch cais ar-lein. 

Ar yr un pryd, dylid anfon Ffurflen Gais Ysgoloriaeth Margaret Wooloff wedi'i chwblhau hefyd fel atodiad drwy e-bost at e-bost at yr Athro Reyer Zwiggelaar (rrz@aber.ac.uk), Pennaeth Ysgol y Graddedigion, gan roi CAIS YSGOLORIAETH MARGARET WOOLOFF yn y llinell destun. 

Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen  Telerau ac Amodau Ysgoloriaeth PhD Margaret Wooloff yn drylwyr.  

Unrhyw gwestiynau? 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau penodol am y prosiectau ar y rhestr, cysylltwch â phrif arolygydd y prosiect dan sylw.  

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y drefn o wneud cais i raddedigion, cysylltwch â pg-admissions@aber.ac.uk. 

Ysgoloriaeth PhD Margaret Wooloff 2023 Manylion y Prosiect

Paentiau Cromosom: Ymchwilio Paru Cromosomau mewn Arabidopsis yn defnyddio Paentiau Oligo

Dr Andrew Lloyd (IBERS) - anl50@aber.ac.uk 

Mae meiosis, math arbenigol o rannu celloedd, yn sail ar gyfer atgenhedlu rhywiol. Yn ystod meiosis rhaid i barau o gromosomau perthynol (homologau) ddod o hyd i’w gilydd, cyd-alinio, a chyflawni cyfnewid cilyddol a elwir yn “groesi drosodd”. Mae dod o hyd i’r cromosom partner cywir a chroesi drosodd gyda’r cromosom hwnnw’n hanfodol ar gyfer ffrwythlondeb a sefydlogrwydd genom. Er bod gan feiosis hanes o gael ei astudio dros ganrif, ychydig a wyddom o hyd am sut mae cromosomau’n dod o hyd i’r partner cywir ac yn cyfyngu croesi drosodd i wir homologau.

Her fawr wrth astudio’r broses chwilio homoleg yw gallu olrhain cyfuniadau cromosom penodol yn ystod meiosis. Yn ddiweddar mae Peintio Oligo wedi ymddangos fel offeryn pwerus a hyblyg ar gyfer labelu cromosomau penodol neu barthau cromosomaidd yn defnyddio microsgopeg Croesrywedd Fflwroleuedd In Situ (FISH). Gan gydweithio gyda phartneriaid yn yr UD, bydd y prosiect PhD hwn yn datblygu Cronfa Oligo dwysedd uchel ar draws genomau (~600,000 oligos) ar gyfer Peintio Oligo yn y genws planhigion model Arabidopsis. Gan ddefnyddio’r offeryn hwn, byddwn am y tro cyntaf yn gallu labelu’n benodol unrhyw gromosom, parth cromosomaidd, neu gyfuniad o’r rheini drwy ficrosgopeg fflwroleuedd. Byddwch yn defnyddio’r offeryn i archwilio meysydd ymchwil newydd cyffrous sy’n ymdrin â chwestiynau fel “sut mae cromosomau’n dod o hyd i’r partner cywir mewn meiosis?” ac “ai mannau poeth trawsgroesi yw’r parthau cyntaf i gysylltu â phroteinau ail-gyfuno?”.

Bydd y PhD hwn yn darparu hyfforddiant mewn microsgopeg cydraniad uwch, bioleg foleciwlaidd, biowybodeg a sgiliau trosglwyddadwy eraill yn ogystal â chynnig cyfle ar gyfer lleoliadau ymchwil gyda chydweithwyr rhyngwladol. Byddwch hefyd yn helpu i ddatblygu offeryn newydd a phwysig i’r gymuned ymchwil Arabidopsis ehangach, gan agor llawer o lwybrau ar gyfer cydweithio yn y dyfodol.

Back to top

Ymchwilio Dyddodi Ardal Dethol (ASD) fel Galluogwr Technolegau’r Dyfodol

Dr Anita Brady-Boyd (Department of Physics) - anb116@aber.ac.uk 

Wrth i faint nodweddion barhau i leihau mewn sglodion cylched integredig, mae cynhyrchu’r dyfeisiau hyn yn dod yn gynyddol anodd. Ar hyn o bryd mae lled sglodyn diweddaraf Apple yn anhygoel o fach, 28 nm ar gyfer eu rhyng-gysylltiadau, sef y gwifrau sy’n cysylltu’r transistorau unigol. Mae’r transistorau eu hunain yn ~ 48 nm o led. Mae dyddodi ardal dethol (ASD) yn caniatáu ar gyfer patrymu deunyddiau ar raddfa nano wrth gyfyngu ar y defnydd o gamau ffotolithograffig ac ysgythru traddodiadol sy’n gallu bod yn ddrud, cymryd llawer o amser, a gwastraffu deunyddiau. Er ei fod yn faes ymchwil newydd, mae ASD wedi’i groesawu fel ysgogiad ar gyfer y genhedlaeth nesaf o dechnoleg. Bydd y PhD yn mabwysiadu agwedd gwbl ryngddisgyblaethol at ateb cwestiynau sylfaenol am ASD gyda’r amcan craidd y bydd y prosiect yn symud at gyflwyno prosesau ASD i brosesau cynhyrchu nanoelectroneg. Mae ASD yn galw am ddefnyddio moleciwlau bach o’r enw monohaenau hunan-osod (SAMs). Mae’r moleciwlau hyn yn creu rhwystr ffisegol a chemegol i ddyddodiad bloc. Bydd camau cyntaf y prosiect yn cynnwys astudiaeth sylfaenol o sut mae’r moleciwlau hyn yn rhyngweithio ac yn glynu at is-haenau sy’n berthnasol i ddiwydiant. Caiff dulliau dyddodi gwahanol ar gyfer y SAMs eu hymchwilio. Nesaf, ymchwilir i allu’r SAM i rwystro unrhyw ddeunydd dyddodedig dilynol. Bydd hyn yn defnyddio llawer o’r offer o’r safon uchaf sydd eisoes ar gael i’r adran Ffiseg. Bydd rhan olaf y prosiect yn cynnwys cydweithio gyda chysylltiadau diwydiannol y Prif Ymchwilydd. Mae’r cam hwn yn cynnwys ehangu ein proses ASD i weithgynhyrchu wafferi 300 mm a ddefnyddir mewn diwydiant ar raddfa fawr.

Back to top

Disgyrsiau Celtigrwydd ar yr Asgell Dde Eithafol: Dilysrwydd, Cyfeddiant a Gelyniaeth

Dr Ben O Ceallaigh (Department of Welsh and Celtic Studies) - beo15@aber.ac.uk 

Mae twf yr asgell dde eithafol wedi bod yn ddatblygiad gwleidyddol nodedig yn rhyngwladol dros y blynyddoedd diwethaf. Caiff ei ddeall yn aml fel ymateb i ansicrwydd economaidd gymdeithasol a’r mesurau llymder sydd wedi nodweddu llawer o economïau ers 2008 (Blyth a Matthijs 2017: 218-219), yn aml bydd mudiadau cynhenidydd a ffasgaidd o’r math yn gwahodd delweddau o orffennol delfrydol yr ystyrir eu bod yn cynnig glasbrint ar gyfer y gymdeithas dda (Eco 1995). Er eu bod yn fwy cyffredin yn tynnu ar ysbrydoliaeth o hynafiaeth Llychlynnaidd a Chlasurol (Dahmer 2019), mae lleiafrif ar hyn o bryd o fewn syncretiaeth ffasgaidd hefyd yn edrych ar ieithoedd a diwylliannau’r chwe chenedl Geltaidd, gan eu cyflwyno fel patrymau o’r purdeb hiliol a’r draddodiaeth sy’n bileri ideolegol allweddol mewn ffasgaeth (Eco 1995; Wilson 2022). Yn wir, symbol gwefan fwyaf y goruchafwyr gwyn yw fersiwn arddulliedig o’r groes Geltaidd, ac mae nifer o grwpiau neo-Natsiaidd sy’n weithredol ar hyn o bryd wedi gwneud defnydd amlwg o ieithoedd a llên gwerin Celtaidd yn eu propaganda.

Bydd y PhD yn edrych ar y ffyrdd amrywiol y mae Celtigrwydd wedi’i ddefnyddio fel offeryn gan y rheini ar yr asgell dde eithafol, gan archwilio cyd-destunau hanesyddol a chyfoes. Gyda mudiadau ar gyfer hyrwyddo’r ieithoedd Celtaidd a’u diwylliannau cysylltiedig yn nodweddiadol yn blwralaidd ac yn tueddu at yr asgell chwith (Alessio 2015: 298), caiff yr heriau y mae cydfeddiant ffasgaidd yn eu gosod i’r mudiadau hyn eu harchwilio gyda’r nod o asesu’r ffordd orau i wrthsefyll anawsterau o’r fath.

Caiff y prosiect ei oruchwylio gan Dr Ben Ó Ceallaigh yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, sydd â chefndir ym maes adfywio, cymdeithaseg a gwyddor wleidyddol ieithoedd Celtaidd yn ogystal â diddordeb hirsefydlog mewn ffasgaeth a gwrth-ffasgaeth yn Iwerddon, Prydain a thu hwnt.

Back to top

Cenhedloedd Is-wladwriaethol a’u Hymatebion i Bobl sy’n Ceisio Lloches a Ffoaduriaid: Cymhariaeth Ryngwladol

Dr Catrin Wyn Edwards (Department of International Politics) - cwe6@aber.ac.uk 

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae cenhedloedd is-wladwriaethol wedi bod yn ymwneud yn gynyddol â llywodraethu ffoaduriaid a cheiswyr lloches (Bernhardt 2022; Edwards & Wisthaler 2023). Ym mis Ebrill 2019, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bwriad i ddod yn ‘wir Genedl Noddfa’ (Llywodraeth Cymru 2019) tra bo’r Alban yn estyn hawliau cymdeithasol i ffoaduriaid a cheiswyr lloches (Mulvey 2017). Mae hyn wedi ychwanegu at dirlun sydd eisoes yn gymhleth o gydweithio a gwrth-haeru rhwng sefydliadau anllywodraethol a llywodraethol rhyngwladol, llywodraethau gwladwriaethol a lleol, sefydliadau trydydd sector, gwirfoddol a chrefyddol, a chwmnïau preifat (Campomori & Ambrosini 2020, Guiraudon & Lahav 2000; Van der Leun 2006; Scholten 2011). Drwy fabwysiadu dull cymharol at dair cenedl is-wladwriaethol, sef Cymru, Gwlad y Basg a Fflandrys, bydd y prosiect yn ystyried dynameg amlhaenog a llorweddol llywodraethu mudo y tu hwnt ac islaw’r wladwriaeth, a bydd yn nodi a ydynt (ac os felly sut a pham) yn fframio eu hymatebion fel modd i osod terfynau rhyngddynt â’r wladwriaeth, a yw ymatebion is-wladwriaethol i’r ‘argyfwng’ ffoaduriaid wedi herio’r wladwriaeth ganolog yn ei gofod normadaidd ac empirig ei hun ac a yw eu dulliau’n gysylltiedig â chwestiynau’n ymwneud â pherthyn a hunaniaeth, sy’n hanfodol i rai cenhedloedd is-wladwriaethol. Drwy ganolbwyntio ar ymateb is-wladwriaethol i ffoaduriaid a cheiswyr lloches, pwnc sydd hyd yma heb gael ei ymchwilio’n ddigonol, mae’r prosiect yn cynnig cyfraniad damcaniaethol ac empirig i faes astudiaethau cenedlaetholdeb lleiafrifol a llywodraethu aml-lefel sy’n wahanol i’r ysgolheictod presennol.

Back to top

Tyfiant Gwair Porthiant dan Senarios Newid yn yr Hinsawdd yn y Dyfodol yn Effeithio ar Eplesiad ac Effeithlonrwydd Anifeiliaid Cnoi Cil

Dr Elizabeth Hart (Department of Life Sciences) - elh18@aber.ac.uk 

Dangoswyd yn ddiweddar gan Hart et al., (2022) fod senarios newid hinsawdd posibl yn gallu effeithio ar ansawdd porthiant gweiriau ar gyfer anifeiliaid cnoi cil. Gyda goblygiadau pellach newid yn yr hinsawdd ar gynnyrch cnydau a chostau cynyddol porthiant cyfansawdd bydd rôl porthiannau o fewn llysysyddion nad ydynt yn anifeiliaid cnoi cil, fel ceffylau, yn dod yn bwysicach. Mae ceffylau yn eplesyddion perfedd ôl sy’n caniatáu iddynt ddefnyddio ffibr drwy berthynas synergaidd gyda microbiom y perfedd ôl sy’n cynhyrchu asidau brasterog anweddol sy’n cynhyrchu ynni. Ceir cydbwysedd cynnil rhwng microbiom iachus a dysbiotig y gellir ei newid gan amrywiol gydrannau porthiant fel carbohydradau anstrwythurol. Mae porthiannau’n newid eu nodweddion maethol/cemegol mewn perthynas â straen allanol megis newid yn yr hinsawdd. Gall y porthiannau hyn sydd dan straen effeithio ar broffil eplesu a’r microbiom yn y perfedd ôl gan arwain at anhwylderau metabolig posibl. Nod y prosiect hwn yw gwerthuso effaith senarios newid yn yr hinsawdd ar nodweddion eplesu perfedd ôl ceffylau a threuliadwyedd cyffredinol porthiant. I ddechrau bydd sgrinio’n canolbwyntio ar borthiannau brodorol gwahanol a dyfir dan senarios hinsawdd a reolir ar gyfansoddiad cemegol, diraddiadwyedd in vitro, proffiliau eplesu a dadansoddiad cymuned microbaidd. Bydd astudiaethau eilaidd yn defnyddio techneg meithriniad parhaus i asesu 3 triniaeth yn fwy manwl cyn cynnal astudiaethau in vivo studies yn archwilio treuliadwyedd ymddangosiadol y system gyfan.

Back to top

Dysgu Iaith yn Hwyrach mewn Bywyd: Buddion Seicolegol a Llesiant

Dr Hanna Binks (Department of Psychology) - hlb13@aber.ac.uk 

Mae’r prosiect hwn yn edrych ar fuddion gwybyddol, seicolegol a llesiant dysgu Cymraeg mewn oedolion hŷn. I bobl ddwyieithog, mae’r gallu i gyfnewid rhwng ieithoedd yn bwysig o safbwynt gwybyddol, gydag ymchwil yn awgrymu bod pobl ddwyieithog yn arddangos dirywiad gwybyddol arafach na phobl uniaith. Mae cyfnewid rhwng iaith drechol ac iaith wannach yn gosod mwy o alw ar alluoedd addasu sylw’r siaradwyr. Gan fod y cyfnewid hwn yn galw am fwy o ymdrech mewn siaradwyr newydd, dylai’r buddion gwybyddol cyn ac ar ôl dechrau dysgu iaith fod ar eu huchaf i ddysgwyr, gyda buddion yn cael eu gweld yn nodweddiadol yn nhermau gweithredu goruchwyliol a rheolaeth wybyddol. Nod y prosiect yw estyn y gwaith hwn i ddysgu iaith yn hwyrach mewn bywyd, pan allai’r enillion gwybyddol fod yn arbennig o bwysig.

Mae gan y prosiect dri phrif amcan:

1. Pennu a yw dysgu iaith yn hwyrach mewn bywyd yn arwain at well gweithredu gwybyddol o waelodlin.

2. Ymchwilio a yw cymryd rhan mewn dysgu iaith yn hwyrach mewn bywyd yn arwain at well llesiant.

3. Datblygu ac addasu deunyddiau dysgu iaith yn benodol i oedolion hŷn.

Mae’r prosiect yn datblygu’r themâu ymchwil rhyngddisgyblaethol sy’n bodoli rhwng y ddwy oruchwylwraig Dr Hanna Binks a Dr Victoria Wright. Bydd gan yr ymgeisydd PhD delfrydol gefndir mewn seicoleg, ieithyddiaeth, neu ddisgyblaeth berthnasol, ynghyd â dealltwriaeth dda o ddadansoddi ystadegol a dulliau ymchwilio meintiol.

Back to top

Mesuriadau Swnllyd mewn Theori Gwybodaeth Cwantwm

Dr Jukka Kiukas (Department of Mathematics) - jek20@aber.ac.uk 

Bydd y prosiect hwn yn datblygu theori prosesau symudiad cwantwm swnllyd, gan ganolbwyntio ar agweddau o (angh)ydweddoldeb rhwng y sŵn a’r mesuriadau a ysgogir gan gymwysiadau i brosesu gwybodaeth cwantwm.

 

Caiff anghydweddoldeb - bodolaeth mesuriadau a thrawsnewidiadau na ellir eu gwireddu ar yr un pryd ar system ffisegol - ei ysgogi gan sylfaeni theori cwantwm, yn ogystal â datblygiad cyfredol dyfeisiau cwantwm ymarferol. Er bod y sylfeini’n estyn yn ôl i Egwyddor Ansicrwydd Heisenberg, mae’r ffocws cyfredol ar fodelu ffenomenâu cwantwm ym mhresenoldeb sŵn. Ar y naill law, mae anghydweddoldeb rhwng mesuriadau’n un ffenomen o’r fath, sy’n hanfodol, e.e. ar gyfer cryptograffeg a gwahaniaethu cyflwr. Ar y llaw arall, mae’r anghydweddoldeb rhwng trawsnewidiadau proses a’r mesuriadau sydd ar gael yn cyfyngu ar y gweithrediad. Mae’r ddwy elfen wedi’u cysylltu’n gymhleth, gan adlewyrchu nodwedd cwantwm y mesuriadau.

Y nod cyffredinol yw deillio cyflyrau dadansoddol ar gyfer anghydraddoldeb ar gyfer prosesau a ysgogir gan systemau cwantwm agored. Caiff dulliau dadansoddol eu cefnogi gan optimeiddio amgrwm rhifiadol. Un man cychwyn yw anghydlyniad pur, y mae’r broblem wedi profi’n hydrin ar ei gyfer hyd yn oed ar gyfer rhai systemau mawr. Mae gan y pwnc groestoriadedd eang gyda meysydd ymchwil gweithredol ar gyd-destunedd cwantwm, theorïau adnodd, cydberthnasoedd, llywio, a monitro systemau agored, gan gynnig digon o gyfeiriadau heriol i’w harchwilio.

Dylai fod gan yr ymgeisydd radd israddedig mewn Mathemateg neu Ffiseg, gyda gradd II(1) neu uwch. Mae diddordeb yn strwythur mathemategol theori cwantwm yn hanfodol. Mae gradd Meistr a/neu wybodaeth am theori gwybodaeth / systemau agored cwantwm yn ddymunol.

Back to top

Gwyliadwriaeth ac Anabledd: Rheoli, Gwahaniaethu a Gwrthsefyll mewn Llenyddiaeth Fin-de-Siècle

Dr Lucy Thompson (Department of English & Creative Writing) - let22@aber.ac.uk 

Nod y prosiect yw ymchwilio i faterion nad ydynt wedi’u harchwilio yn ymwneud ag arferion gwyliadwriaeth ar fywydau unigolion anabl yn ystod cyfnod y Fin de Siècle, gan fynd i’r afael yn benodol â’u profiadau o ablaeth, disgyblaeth ac ymyleiddio. Drwy ailasesu sut y câi dulliau goruchwyliaeth eu defnyddio mewn ffyrdd oedd yn anfanteisio pobl anabl, yn ogystal â’r ffyrdd y byddent yn cael eu gwrthwynebu, y gobaith yw cyfoethogi ein dealltwriaeth o gynhwysiant a chydraddoldeb yn y presennol.

 

Bydd y prosiect yn galw am ddealltwriaeth ddofn a chynnil o’r croestoriadau cymhleth rhwng gwyliadwriaeth, anabledd a llenyddiaeth. Ymhellach, mae’n galw am fethodoleg ymchwil gadarn, yn cwmpasu dadansoddiad beirniadol o weithiau llenyddol, ymchwil archifol, ac ymgysylltu â meysydd rhyngddisgyblaethol megis Astudiaethau Anabledd Beirniadol ac Astudiaethau Gwyliadwriaeth.

 

Mae’r canlynol ymhlith y cwestiynau ymchwil posibl i’w hystyried:

· Sut mae’r arferion gwyliadwriaeth a gaiff eu darlunio mewn llenyddiaeth fin-de-siècle yn croestorri ag anabledd ac yn cyfrannu at ymyleiddio unigolion anabl?

· Ym mha ffyrdd y mae profiadau cymeriadau anabl mewn llenyddiaeth fin-de-siècle yn herio naratifau cyffredin o wyliadwriaeth, grym a rheolaeth?

· Pa strategaethau a thactegau fyddai unigolion anabl yn eu defnyddio i wrthsefyll a brwydro arferion, a sut mae’r arferion hyn yn croestorri â mudiadau cymdeithasol ehangach ar gyfer hawliau anabledd yn ystod y Fin de Siècle?

Bydd ymgeiswyr yn defnyddio dull hanesiaethol i ystyried y cydadwaith rhwng cyd-destun hanesyddol a ffurf lenyddol, yn ogystal ag ymgorffori ymchwil archifol i daflu goleuni ar ddeunyddiau a all fod wedi’u hanwybyddu. Gellir addasu’r cynnig ar sail dewis yr ymgeisydd o genre llenyddol.

Back to top

Cannabinoidau i Hyrwyddo Iachau Clwyfau mewn Model In Vitro Ceffylaidd

Dr Ruth Wonfor (IBERS) - rec21@aber.ac.uk 

Mae iachau clwyfau ceffylau’n broblematig a cheir cymhlethdodau’n aml, megis llid cronig, cyfyngu clwyfau diffygiol a gordyfu meinwe ronynnog, sy’n atal y clwyf rhag iachau’n llwyr. Ymhellach, mae tystiolaeth o feddygaeth ddynol yn dangos bod presenoldeb bioffilmiau’n gallu gwaethygu iachâd clwyfau cronig fwy fyth.

Mae cannabinoidau’n gyfansoddion sy’n deillio o’r planhigyn Cannabis sativa, sy’n gweithio drwy’r system endocannabinoidaidd ac sydd â buddion meddygol niferus, gan gynnwys gwrth-lid, gwrth-ficrobaidd ac iachau clwyfau. Felly, mae gan gannabinoidau’r potensial i gael eu defnyddio fel therapi i wella clwyfau sy’n iachau’n wael, fel y rhai a geir mewn ceffylau.

Nod y prosiect yw asesu rôl cyfansoddion cannabinoid mewn model iachau clwyfau in vitro ceffylol, gan ganolbwyntio ar yr ymateb atgyweirio cellol fibroblast a’r gweithredu ar ficrobau croen pathogenig cyffredin. Caiff y prosiect ei gwblhau drwy 3 phrif amcan:

1. Asesu cannabinoidau mewn model meithriniad celloedd in vitro o iachau clwyfau mewn ceffylau, drwy asesu cyfangiad clwyfau, hyfywedd celloedd a marcwyr llidol.

2. Deall mecanwaith gweithredu cannabinoidau ar iachau clwyfau drwy leihau llwybrau perthnasol.

3. Asesu gweithgaredd gwrthficrobaidd cannabinoidau ar bathogenau croen a bioffilmiau cyffredin drwy gromliniau twf bacteriol a chonsortia o fodelau pathogenau croen a bioffilm.

Caiff y myfyriwr hyfforddiant mewn methodolegau meithrin celloedd a microbau mamalaidd, yn ogystal â phrofion i brofi amlder, protein a marcwyr genetig a bydd yn derbyn dealltwriaeth ddiwydiannol gan gwmni cannabinoid blaenllaw, TTS Pharma, fydd yn darparu’r cannabinoidau.

Back to top

Trawsnewid o Ddinas Glyfar y Metafyd i Ddinasoedd Clyfar yr Amlfyd gan ddefnyddio Dysgu Peiriant mewn System Trawsgludo Deallus

Dr Yasir Saleem (Department of Computer Science) - yss1@aber.ac.uk 

Mae gan ddinasoedd clyfar amrywiol fathau o synwyryddion yn gysylltiedig â system trawsgludo deallus (ITS) sy’n darparu mesuriadau o wahanol baramedrau. Yna mae’r data mesuredig ar gael yn gyhoeddus i ymchwilwyr ddadansoddi a chasglu gwybodaeth ddefnyddiol. Fodd bynnag, mae gan setiau data o’r fath anghysonderau (fel allanolion a gwerthoedd coll) sy’n golygu bod angen rhag-brosesu data cyn cynnal dadansoddiad a chasgliadau o’r data. Gellir defnyddio technegau Dysgu Peiriant (ML) wrth ddadansoddi data i gasglu gwybodaeth ystyrlon. Mae’n ddiddorol datblygu metafyd o ddinas glyfar mewn ITS drwy ddadansoddi sut y gellir rhagfynegi un paramedr drwy ddefnyddio paramedrau eraill.

Gellir cyffredinoli’r modelau a grëir ar gyfer metafyd o ddinas glyfar i’w cymhwyso’n uniongyrchol i amlfyd dinasoedd clyfar fydd yn helpu i arbed amser ac ymdrechion wrth ddadansoddi setiau data dinasoedd clyfar eraill.

Nod yr ysgoloriaeth PhD yw datblygu offeryn awtomatig ar gyfer rhag-brosesu data dinasoedd clyfar mewn ITS, ymgymryd â dadansoddi data, datblygu modelau rhagfynegi a chymhwyso’r model i ddinasoedd clyfar eraill.

Ceir tri phrif amcan i’r ysgoloriaeth PhD fel a ganlyn:

1. Datblygu offeryn rhag-brosesu data awtomatig gan ddefnyddio Dysgu Peiriant ar gyfer setiau data dinasoedd clyfar a all ddelio â phroblemau cyffredin rhag-brosesu data a gallu ymdrin â data dimensiwn uchel a heterogenaidd.

2. Datblygu metafyd o ddinas glyfar mewn ITS drwy ymgymryd â dadansoddi data yn defnyddio Dysgu Peiriant.

3. Datblygu model wedi’i gyffredinoli ar gyfer metafyd dinas glyfar y gellir ei gymhwyso’n uniongyrchol i amlfyd o ddinasoedd clyfar mewn ITS.

Isabel Ann Robertson Scholarship

Isabel Ann Robertson, always known as Ann, was a tutor in the Computer Science Department at Aberystwyth University for 25 years from 1984 to 2009. But her links with the University spanned several generations. Ann Davies was born in London in 1932, the eldest of three children. Her mother, Enid Sayers, had graduated in English from the then University College of Wales in Aberystwyth in the 1920s and later (as Enid Davies) was Vice President of the Old Students’ Association. Ann’s father, C W Davies, was also an Aber graduate and was later a professor of Chemistry and Head of the Chemistry Department. Ann studied Physics when the department was still based in the Old College on the seafront, graduating with a BSc in 1954 and an MSc by research in 1957. Her research was on cavitation. She was also a College athlete and a member of the Sailing Club. In 1956 she married David Robertson, whom she had met through the Sailing Club. His work for the Forestry Commission took them to many different parts of the UK, including Glasgow, where Ann took an MSc in Computer Science. They returned to Aberystwyth to live in the 1980s. Their daughter, Sara Robertson, also studied at Aberystwyth from 1978 to 1981 and their granddaughter, Fiona Robertson, followed, from 2011 to 2015.

Ann Robertson PhD Scholarship - Details of the Award & Available Projects

Open to applicants who qualify for Home (UK) fees status only, there are three full-time PhD scholarships available.  These will be allocated one per Faculty and on a competitive basis to three of the projects described in the Ann Robertson PhD Scholarship 2023 Project Details. Those awarded an Ann Robertson Scholarship will receive a grant for up to three years which will cover their tuition fees up to the UK rate of £4,712 per annum (2023/24 rate).  A maintenance allowance of approximately £18,622 per annum* and access to a travel and conference fund (max. £500 per annum*) will also be provided. Scholarships commence in September 2023.

How to Apply 

To be considered, candidates must complete the usual full online PhD application AND the specific  Ann Robertson PhD Scholarship Application Form 2023 

The completed Ann Robertson Scholarship Application Form should be submitted via our online Postgraduate Application Portal at the point of application.   

To make a full PhD application, firstly visit our course pages and find the details of the course for which you wish to apply.  Once you have found your chosen course page, select the “Apply Now” button to start your application.  

The Postgraduate Admissions Application Portal will ask you to provide us with your personal details, confirm your course selection(s) and upload documents in support of your application.  Please have you supporting documents saved in PDF format and ready to upload to your online application. 

At the same time, the completed Ann Robertson Scholarship Application Form should also be sent as an attachment by email to Prof Reyer Zwiggelaar (rrz@aber.ac.uk), Head of Graduate School, with the subject heading ANN ROBERTSON SCHOLARSHIP APPLICATION. 

Please ensure that you read the Ann Robertson PhD Scholarship Terms & Conditions thoroughly. 

Any Questions? 

If you have any specific queries regarding the projects listed, please contact the main supervisor associated with the project.  

If you have any queries about the postgraduate application process please contact pg-admissions@aber.ac.uk

Ann Robertson PhD Scholarship 2023 Project Details

Can Colloids Learn: A Path Towards Smart Matter

Dr Adil Mughal (Department of Mathematics) - aqm@aber.ac.uk 

od y prosiect PhD hwn yw datblygu dull arloesol o reoli hunan-gydosodiad gronynnau coloidaidd afreolaidd, y mae posibilrwydd o'u defnyddio mewn crisialau ffotonig, i gyflwyno cyffuriau wedi'u targedu, technolegau electronig a synwyryddion. Y nod yn y pen draw yw creu coloidau clyfar a all dderbyn mewnbynnau cemegol neu ffisegol ac ymateb gyda newid yn eu morffoleg a’u swyddog-aeth, ac arwain at ddeunyddiau amlbwrpas ac addasol.

Trwy gyfuniad o efelychiadau rhifiadol a gwaith damcaniaethol, bydd y prosiect yn archwilio dull arloesol o hunan-gydosod gan ddefnyddio nanoronynnau trosglwyddadwy, wedi'u gyrru i grisialu hyd amryfal lwybrau thermodynamig. Yn y system hon, bydd gronynnau coloidaidd sydd â darnau cyflenwol sy'n eu galluogi i lynu yn ei gilydd yn "dysgu" ffurfio strwythurau y dymunir iddynt eu ffurfio trwy broses debyg i ddysgu atgyfnerthu. Bydd cryfder y rhyngweithio deniadol rhwng y darnau yn cael ei addasu yn seiliedig ar briodoldeb y trefniant, gan arwain at hunan-gydosodiad mwy rheoledig.

Mae potensial i’r dull arloesol hwn gael effaith dechnolegol sylweddol mewn amrywiol ddiwydian-nau, gan ei fod yn mynd i'r afael â chyfyngiadau presennol y technegau hunan-gydosod a dulliau ystadegol-fecanyddol gwrthdro. Trwy oresgyn yr heriau hyn, bydd y prosiect yn paratoi'r ffordd ar gyfer datblygu deunyddiau'r genhedlaeth nesaf sydd â phriodweddau optegol, trydanol a mecan-yddol gwerthfawr, ac yn galluogi defnydd newydd mewn meysydd fel mantellu, synhwyro cemegol, delweddu, opteg aflinol, a metahylifau.

Dylai fod gan yr ymgeisydd radd israddedig mewn Mathemateg Gymhwysol, Ffiseg, neu ddisgyb-laeth gysylltiedig, gyda gradd II(1) neu uwch. Mae profiad rhaglennu yn hanfodol.

Back to top

Investigating Area Selective Deposition (ASD) as an Enabler for Future Technologies

Dr Anita Brady-Boyd (Department of Physics) - anb116@aber.ac.uk 

Wrth i feintiau nodweddion mewn sglodion cylched integredig barhau i ostwng, mae’n dod yn fwy anodd creu’r dyfeisiau hyn. Ar hyn o bryd mae rhyng-gysylltiadau sglodion mwyaf cyfredol Apple, sef y gwifrau sy'n cysylltu'r transistorau unigol, yn anhygoel o fach ac yn mesur 28 nm o led. Mae'r transistorau eu hunain yn ~ 48 nm o led. Mae dyddodiad ardal ddethol (ASD) yn caniatáu patrymu deunyddiau ar nanoraddfa ac yn cyfyngu ar y defnydd o gamau ffotolithograffig ac ysgythrog traddodiadol ar yr un pryd. Gall gymryd llawer o amser a bod yn ddrud a golygu bod deunyddiau’n cael eu gwastraffu. Er mai maes ymchwil newydd yw ASD, dywedir ei fod yn ysgogi technoleg y genhedlaeth nesaf. Bydd y PhD hwn yn arddel dull cwbl ryngddisgyblaethol o ateb cwestiynau syl-faenol am ASD ac amcan craidd y prosiect yw symud ymlaen tuag at roi prosesau ASD ar waith yng ngwneuthuriad nanoelectroneg. Mae ASD yn gofyn defnyddio moleciwlau bach o'r enw mono-haenau hunan-gydosodedig (SAMs). Mae'r moleciwlau hyn yn creu rhwystr ffisegol a chemegol i rwystro dyddodiad. Bydd camau cychwynnol y prosiect yn cynnwys astudiaeth sylfaenol ar sut mae'r moleciwlau hyn yn rhyngweithio ac yn cadw at is-haenau perthnasol i'r diwydiant. Ymchwilir i wahanol ddulliau o ddyddodi ar gyfer y SAMs. Wedi hynny, ymchwilir i allu'r SAM i rwystro un-rhyw ddeunydd dilynol a ddyddodwyd. Defnyddir llawer o offer o'r radd flaenaf sydd eisoes ar gael i'r adran Ffiseg. Bydd rhan olaf y prosiect hwn yn cynnwys cydweithio â chysylltiadau diwydiannol y Prif Ymchwilydd. Mae'r cam hwn yn cynnwys cynyddu graddfa ein proses ASD ar gyfer gweith-gynhyrchu cyfaint uchel ar wafferi 300 mm a ddefnyddir mewn diwydiant.

Back to top

Soft matter approaches towards versatile and scalable photonics materials

Dr Chris Finlayson (Department of Physics) - cef2@aber.ac.uk

Gellir syntheseiddio nano-sfferau polymer (gyda haenau cregyn-craidd cyfansawdd) a'u trefnu'n strwythurau grisial, a elwir hefyd yn Opalau Polymer, i gynhyrchu symudliwiau dwys. Mewn cam gwirioneddol ymlaen o ffurfiau eraill o opalau synthetig, fe'u cynhyrchir drwy dechnegau gweith-gynhyrchu plastig safonol, sy'n rhoi sylfaen addawol ar gyfer cynhyrchu strwythurau ffotonig, gorchuddion a synwyryddion y genhedlaeth nesaf ar raddfa fawr. Maent yn hyblyg ac yn wydn, sy'n eu gwneud yn addas i'w masgynhyrchu a'u defnyddio mewn eitemau i ddefnyddwyr, ac yn wahanol i'r llifynnau/pigmentau presennol, maent yn ddiwenwyn, yn rhad ac nid yw'r lliw yn pylu.

Mae'r dull a ddatblygwyd yn ddiweddar o baratoi samplau gyda llafn osgiliadol sy'n creu plygiadau (neu BIOS) wedi cael effaith drawsnewidiol ar drefn ac ansawdd ffotoneg mater meddal o'r fath. Yr her nesaf yw rhoi BIOS ar waith yn gyffredinol wrth gynhyrchu ystod ehangach o ddeunyddiau op-alaidd tra threfnedig sydd â nodweddion optegol uwch. Bydd yr efrydiaeth hon yn cynnig datblyg-iad sylweddol mewn sawl ffordd; datblygu prosesau ar gyfer deunyddiau ymarferol newydd, dat-blygu'r ymchwil sy'n sail i'r uwchraddiad i gymwysiadau arloesol, a'r wyddoniaeth sylfaenol o drefnu mewn nanoffotoneg feddal gyfansawdd.

Un o'r heriau allweddol yw dealltwriaeth ddyfnach o briodweddau rheolegol (mecaneg hylif) cyf-ryngau glud-elastig polymerig ac union fecanweithiau ac esblygiad amser crisialu dan lif llafn. Bydd dull arbrofol a damcaniaethol cyfunol yn synergeiddio rheometreg fanwl gyda modelu efelychiad a dysgu peirianyddol (mewn cydweithrediad â'r Adran Fathemateg). O ran cymwysiadau; byddwn yn archwilio uwchraddiad allweddol ffotoneg ffilm denau i broses rholio arbennig, a'r rheoli ansawdd a'r goddefiannau cysylltiedig, gyda thechnegau delweddu gorsbectrol a goniometreg mewn-llinell o'r radd flaenaf.

Back to top

Characterisation, Calibration and Testing of a Miniature Infrared Spectrometer for Planetary Explo-ration

Dr Dave Langstaff (Department of Physics) - cef2@aber.ac.uk 

Mae Prifysgol Aberystwyth yn adeiladu sbectromedr mini y bwriedir iddo fod yn rhan o offeryn-iaeth a chrwydrwr archwilio Mawrth, Rosalind Franklin, sydd i fod i gael ei lansio ar daith ExoMars Asiantaeth Ofod Ewrop yn 2028. Bydd y sbectromedr, sydd wedi ei enwi yn Enfys, yn gweithredu yn y bandiau Bron yn Isgoch (NIR) ac Isgoch Tonfedd Fer (SWIR) ac yn cael ei ddefnyddio'n bennaf i adnabod nodweddion daearegol ond i astudio atmosffer Mawrth hefyd. Mae angen yr offeryn er mwyn goroesi dirgryniad a sioc lansio a glanio yn ogystal ag oerfel eithafol y nos ar Fawrth, sy'n mynd lawr i -130C. Bydd angen iddo fod yn weithredol yn ystod diwrnod Mawrth mewn tymher-edd rhwng -50C a + 40C.

Fel rhan o ddatblygiad yr offeryn hwn, mae cyfle i fyfyriwr PhD weithio ar nodweddu a phrofi cyd-rannau'r offeryn gorffenedig mewn tymheredd isel; ymchwilio i foddau methiant posib yn ystod cylchu thermol, a gweithdrefnau ar gyfer graddnodi a phrofi'r offeryn gorffenedig cyn lansio a phan fo yn ei le.

Yn ddelfrydol, bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad o gynllunio a graddnodi offerynnau yn ogystal â sgiliau ymarferol yn y labordy a sgiliau meddalwedd. Yn ogystal â'r traethawd ymchwil PhD, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cyfrannu at bapurau gwyddonol a ysgrifennir yn ystod y prosiect.

Back to top

How we See Motion in Depth

Dr David Hunter (Department of Computer Science) - dah56@aber.ac.uk 

Mae'r cyfle hwn i ymgymryd ag ysgoloriaeth PhD yn cynnwys defnyddio technegau dysgu peirian-yddol i ddeall sut mae pobl yn prosesu gwrthrychau sy'n symud. Mae defnyddio technegau dysgu peirianyddol ar ddelweddau statig wedi profi i fod yn offeryn pwerus er mwyn i ymchwilwyr allu deall prosesu gweledol dynol. Fodd bynnag, mae ehangu'r technegau hyn i ddelweddau symudol yn her barhaus. O ran bodau dynol, cymhlethir hyn ymhellach gan symud pen a thracio llygaid i weld gwrthrychau symudol.

Felly, mae'r ysgoloriaeth PhD hon yn canolbwyntio ar fynd i'r afael â'r cymhlethdodau sy'n gysyllt-iedig â dadansoddi symudiad a thracio gwrthrychau mewn amgylcheddau deinamig. Fel myfyriwr PhD yn y prosiect hwn, byddwch yn gyfrifol am gasglu fideos o safbwynt person cyntaf a chasglu data tracio llygaid unigolion wrth iddynt gyflawni amrywiol dasgau. Byddwch yn defnyddio'r data hwn i ddatblygu modelau deallusrwydd artiffisial sy'n dynwared prosesu gweledol pobl. Trwy greu modelau cadarn o brosesu gweledol cyfnod cynnar, bydd eich gwaith yn cyfrannu at hyrwyddo ein dealltwriaeth o'r ymennydd a'i swyddogaethau gwybyddol.

Back to top

To Develop a Machine Learning for Prediction of Childhood Asthma from Pre-school Information: a Super Learner Ensemble Approach.

Dr Faisal Rezwan (Department of Computer Science) - far8@aber.ac.uk 

Mae asthma plant yn un o brif achosion morbidrwydd yn y Deyrnas Unedig ac yn fyd-eang ac mae'n arwain hefyd at gostau gofal iechyd sylweddol i'r genedl. Mae angen taer am driniaeth ar gyfer as-thma plant, ond ychydig iawn rydym ni'n ei ddeall am ei darddiad cynnar. Fodd bynnag, ar hyn o bryd ni allwn ragweld pa blant â gwichian fydd yn datblygu asthma neu y bydd eu symptomau'n gwella wrth iddynt dyfu'n hŷn. Er mwyn ateb y cwestiynau hyn, mae angen i ni ganolbwyntio ar y cam cynnar, sef datblygiad asthma yn ystod blynyddoedd cyntaf bywyd. Mae'n debygol bod gwa-hanol ffactorau'n bwysig, megis demograffig, cyflyrau meddygol sy'n cyd-fodoli, ac amlygiadau am-gylcheddol. O ystyried amryfal gyfraniadau ffactorau risg epidemiolegol i ddatblygiad asthma plant, mae angen dull newydd er mwyn cael mewnwelediad i bathogenesis clefydau ac amcangyfrif gwell o risg clefydau. Dangoswyd yn glir y gall defnyddio modelau dysgu peirianyddol i ragweld asthma fod yn fuddiol er mwyn gwneud penderfyniadau clinigol. Ychydig o astudiaethau sydd wedi def-nyddio dysgu peirianyddol i wneud ymchwil er budd datblygu rhagfynegiad diagnostig neu brog-nostig o ddatblygiad asthma mewn plant oedran ysgol. Fodd bynnag, mae pob un o'r astudiaethau hyn yn dangos cyffredinoladwyedd ac nid ydynt yn defnyddio dull Deallusrwydd Artiffisial y gellir ei esbonio. Felly, nod y prosiect doethurol hwn yw datblygu modelau rhagfynegi mwy cadarn ac eff-eithlon gan ddefnyddio dull ensemble uwch-ddysgwr i ragweld asthma plant gyda setiau data carf-annau mwy eu maint. Ar gyfer hyn, byddwn yn defnyddio data amryw garfannau (> 14,0000 o sam-plau o bum carfan) gan gonsortiwm y Tîm Astudio ar gyfer Ymchwil Asthma Bywyd Cynnar (STELAR) a phellach i ddatblygu offeryn prototeip ar-lein i ragweld asthma plant.

Back to top

Quantum Engineering Thermodynamics

Prof John Gough (Department of Physics) - jug@aber.ac.uk 

Defnyddir pecyn Python QuTiP i efelychu systemau cwantwm parhaus a arsylwyd ac astudio cyn-hyrchiad entropi. Mae hyn yn cyfrannu at faes thermodynameg cwantwm y mae cryn ddiddordeb ynddo ar hyn o bryd: yn enwedig yr is-faes sy'n dod i'r amlwg sy'n delio â phroblemau anhafalibriwm stocastig. Yr hyn sy'n newydd yma yw ein bod yn defnyddio mewnwelediadau o brosesu signalau, rheoli adborth, yn ogystal ag arbenigedd penodol y goruchwyliwr wrth fodelu systemau a rhwyd-weithiau cwantwm agored rhyng-gysylltiedig. Bu dehongliadau blaenorol o'r hidlydd (Kalman) fel “cythraul Maxwell” yn yr achos clasurol [1,2] a'r achos cwantwm [3].

Astudiwyd cwantwm Kalman mewn papur diweddar [4] ond mae'n defnyddio entropi Shannon o swyddogaeth Gaussian Wigner yn hytrach na'r entropi von Neumann cywir. Ceisiwn unioni hyn ac archwilio astudiaethau achos penodol. Er mwyn astudio hyn mae angen i ni ddatrys yr hafaliadau Riccati algebraidd sy'n gysylltiedig â'r hidlydd a bydd angen efelychiadau rhifiadol i wneud hyn. Bydd cyfle i gydweithio ag ymchwilwyr rhyngwladol. Mae'r prosiect yn addas ar gyfer graddedigion ffiseg/mathemateg sydd â phrofiad o raglennu Python.

Back to top

Measurement Resources in Open Quantum Systems

Dr Jukka Kiukas (Department of Mathematics) - jek20@aber.ac.uk 

Bydd y prosiect hwn yn adeiladu fframwaith damcaniaethol ar gyfer nodweddu esblygiad deinamig priodweddau cwantwm mewn mesuriadau a achosir gan ryngweithio amgylcheddol. Mae hyn yn cyfrannu at faes ymchwil theori a chydberthyniad gwybodaeth cwantwm, ac fe'i hysgogir gan gym-wysiadau ymarferol technoleg cwantwm.

Mae system gwantwm agored yn rhyngweithio â'i hamgylchedd, a all olygu amgylchedd “swnllyd” neu systemau ategol sy'n cael eu monitro. Gellir nodweddu'r esblygiad amserol canlyniadol gan drawsnewidiadau olynol neu barhaus ar gyflwr y system, neu ar y mesuriadau sydd ar gael er mwyn tynnu gwybodaeth o'r system ar gyfer prosesu clasurol pellach. Bydd y prosiect hwn yn canol-bwyntio ar y diwethaf o'r rhain — er bod esblygiad priodweddau cwantwm mewn cyflyrau (megis cyfrodeddiad) wedi cael ei astudio'n helaeth, mae llawer llai yn hysbys am adnoddau mesur.

Y prif nod yw deall sut mae adnoddau mesur cwantwm yn diraddio gydag amser mewn systemau agored — ysgogir hyn gan ddatblygiad dyfeisiau cwantwm swnllyd. Gan fod y mesuriadau'n cael eu creu'n fathemategol o'r côn lledbendant, un man cychwyn yw astudio cyfangiad amserol y côn a'r gostyngiad canlyniadol yn yr adnoddau penodol. Mae canlyniadau rhagarweiniol yn bodoli yn achos anghydnawsedd set benodol o fesuriadau, hynny yw, anfodolaeth mireinio cyffredin a allai efelychu pob un ohonynt. Arweinia hyn yn naturiol at bynciau cysylltiedig, gan gynnwys cyd-destunoli, llywio, a chysylltiadau ansicrwydd cwantwm, a llawer o bosibiliadau eraill.

Dylai fod gan yr ymgeisydd radd israddedig mewn Mathemateg neu Ffiseg, gyda gradd II(1) neu uwch. Mae diddordeb yn strwythur mathemategol theori cwantwm yn hanfodol. Mae gradd meistr a/neu wybodaeth am theori gwybodaeth cwantwm/systemau agored yn fanteisiol.

Back to top

Better Multimodal Benchmarks for Theory of Evolutionary Computation

Dr Maxim Buzdalov (Department of Computer Science) - mab168@aber.ac.uk 

Mae cyfrifiad esblygiadol yn ddisgyblaeth o fewn deallusrwydd cyfrifiadurol sy'n astudio algor-ithmau ar hap sy'n gweithredu fel optimeiddwyr blwch du. Dros y blynyddoedd mae’r ddisgyblaeth wedi datblygu seiliau damcaniaethol cadarn gyda chanlyniadau sicr am berfformiad algorithmau ar ddosbarthiadau penodol o broblemau. Mae swyddogaethau meincnod a ddyluniwyd yn briodol yn chwarae rhan bwysig yma: gellir eu defnyddio i ddeall egwyddorion gwaith algorithmau esblygiadol trwy ystyried, ar eu pen eu hunain, wahanol nodweddion sy'n gwneud problemau optimeiddio yn anodd.

Un nodwedd o'r fath yw amlfoddolrwydd, hynny yw, presenoldeb optima lleol, a gelwir y swyddog-aeth feincnod enwocaf sy'n ymroddedig i amlfodolrwydd mewn optimeiddio ffug-Booleaidd yn Jump. Fodd bynnag, mae tystiolaeth bod i swyddogaeth Jump nifer o briodweddau sy'n ei wneud yn rhy hawdd i rai algorithmau. Gall hyn arwain at gasgliadau rhy optimistaidd am eu perfformiad, nad ydynt yn ymarferol. Astudiwyd ychydig o amrywiadau yn ddiweddar, ond mae'r maes ymchwil yn galw am fwy.

Nod y prosiect yw datblygu amrywiadau o swyddogaeth Jump, gydag amryfal baramedrau o bosib sy'n rheoli ei siâp, sy'n fwy realistig o ran trosglwyddo'r canlyniadau i broblemau'r byd go iawn, ond sy'n dal i ganiatáu dadansoddiad trylwyr o amser. Bydd y prosiect hefyd yn gofyn perfformio dadan-soddiad ar gyfer nifer o algorithmau esblygiadol, ac ychwanegu at y dadansoddiad hwn drwy gynnal arbrofion cyfrifiadurol sy'n egluro'r ymddygiad yn yr achosion lle nad yw'r theori yn ddigon manwl.

Back to top

Why is Reasoning about Function Widely used by Engineers yet so Difficult for Computers? (Computer based Functional Reasoning: Analysis and Automation)

Dr Neal Snooke (Department of Computer Science) - nns@aber.ac.uk 

Mae peirianwyr yn defnyddio syniadau am swyddogaeth a phwrpas fel haniaeth i ddeall, rhesymu ac egluro'n effeithlon sut a pham mae cynhyrchion a systemau'n gweithio. Mewn cyferbyniad, mae ymddygiad a strwythur yn esbonio beth mae cynnyrch yn ei wneud ac mae’r diwydiant yn ei gefnogi a’i ddeall yn dda. Er gwaethaf degawdau lawer o ymchwil academaidd, nid oes llawer o gonsensws na dull rhesymu swyddogaethol (FR) safonol penodol yn cael ei ymgorffori mewn meddalwedd na dyluniad offer a ddefnyddir gan feddalwedd diwydiant neu offer awtomeiddio dylunio.

Gan ddatblygu ar brofiad o waith blaenorol yn Aberystwyth ar offer deallusrwydd artiffisial (pen-derfynedig, esboniadwy, casgliadol) a seiliwyd ar fodel ar gyfer amrywiaeth o dasgau dylunio peir-ianneg sy'n dibynnu ar ddehongliad swyddogaethol, bydd y prosiect hwn yn ystyried tebygrwydd a gwahaniaethau sylfaenol y cynrychioliadau swyddogaethol cystadleuol.

Bydd yr ymchwil yn penderfynu a yw fframwaith sy'n cwmpasu cysyniadau, gan gynnwys hierarch-aeth strwythurol hyblyg amlolwg, cyd-destun a modd defnyddio a gwahanu pwrpas deongliadol ac effeithiau materol yn bosib. Os na ellir cysoni gwahanol ddulliau a safbwyntiau swyddogaeth, yna datblygir sgema a dealltwriaeth glir o'r gwahaniaethau sylfaenol hyn mewn perthynas ag ystod eang o dasgau targed megis dylunio, ailgynllunio, cynllunio, esbonio, diagnosis, dadansoddi modd meth-iant, prognosis, ôl-beiriannu, gwirio dylunio, ac ati.

Yn gyffredinol, bydd y gwaith yn cefnogi, ac yn arwain peirianwyr sydd â'r dasg o ddewis dull ac offer ac yn gwella datblygiad meddalwedd ac offer (AI) sy'n cefnogi cylch bywyd cynnyrch a chyfnewid gwybodaeth swyddogaethol.

Back to top

Anytime Analysis for Dynamic Optimisation Problems

Dr Thomas Jansen (Department of Computer Science) - thj10@aber.ac.uk 

Mae llawer o broblemau optimeiddio yn rhy anodd i algorithmau safonol eu datrys yn effeithlon. Defnyddir dulliau optimeiddio hewristig megis algorithmau esblygiadol yn aml yn y sefyllfaoedd hyn. Mae damcaniaeth yn rhoi pwyslais o hyd ar ddadansoddi amser rhedeg ac mae hynny’n groes i'r ffordd y defnyddir yr hewrigistiau hyn mewn gwirionedd. Mae'r prosiect hwn yn mynd i'r afael â'r bwlch hwn trwy ganolbwyntio ar ddadansoddi ‘unrhyw bryd’ a thargedu problemau deinamig sy'n newid dros amser.

Bydd y prosiect, drwy ddatblygu ar ganlyniadau dadansoddi ‘unrhyw bryd’ sy'n bodoli eisoes (a elwir weithiau yn ganlyniadau cyllideb sefydlog [2]) yn ogystal â chanlyniadau diweddar o ddadansoddi targedau sefydlog [1], yn cynnal astudiaeth systematig o optimeiddio deinamig. Y man cychwyn yw meincnodau unochrog ac amlochrog statig syml [3] ac offer gwahanol syml i greu problemau optim-eiddio deinamig o rai statig. Gan ddechrau o hewristigau syml fel samplu ar hap a chwilio lleol, dat-blygir yr offer a'r dulliau i gymharu'r dulliau sylfaenol hyn â dulliau mwy datblygedig, gan ddefnyddio poblogaethau, trawsgroesiad, a gwahanol ddulliau o ddelio â phroblemau optimeiddio deinamig fel dulliau "hall of fame" neu diplodi.

Back to top

On-site Breed Classification from Low Coverage DNA Sequencing

Dr Wayne Aubrey (Department of Computer Science) - waa2@aber.ac.uk 

Nod y prosiect hwn yw defnyddio dulliau Dysgu Peirianyddol a dilyniannu DNA o'r radd flaenaf i aseinio gwartheg yn ôl tarddiad y brîd. Mae mwy na 1000 o fridiau gwartheg cydnabyddedig dros y byd a ~12 o fridiau sydd o bwys masnachol yn y Deyrnas Unedig. Mae'r dilyniannwr MinION gan Oxford Nanopore wedi gwneud y profion genetig amser real ar anifeiliaid ar ffermydd yn fforddi-adwy. Mae potensial i brofion genetig gynyddu gwerth anifeiliaid i fridwyr trwy roi tystiolaeth em-pirig o linach fridio, ond mae'r dulliau a ddefnyddir ar hyn o bryd yn dibynnu ar gyfleusterau genot-eipio canolog sy'n cymryd llawer o amser, gyda bridwyr yn aml yn aros 4 -8 wythnos i gael canlyniad profion anifail penodol. Mae ymchwil gan Dr Wayne Aubrey a Dr Matt Hegarty wedi dangos y gellir cymhwyso dulliau Dysgu Peirianyddol i enomau gwartheg er mwyn dosbarthu set o amrywiadau niwcleotid sengl (SNVs) yn fridiau unigol. Mae adnabod SNVs yn dibynnu ar alinio darlleniadau di-lyniant DNA i enom cyfeirio er mwyn adnabod gwahaniaethau sylfaen sengl, sydd fel arfer yn arwain at ~3 miliwn o SNVs.

Y cam cyntaf yw sefydlu cronfa ddata o amleddau alel SNV sy'n deillio o set ddata"1000 Bulls" (121 o fridiau, dros 2000 o anifeiliaid) er mwyn hyfforddi model Dysgu Peirianyddol i adnabod pa gyfun-iadau o SNVs a'u lleoliad yn y genom sy'n cyfrannu fwyaf at ddosbarthiad bridiau. Mae lleihau nifer y SNVs a ystyrir yn osgoi'r broses gyfrifiadurol araf o alinio darlleniadau i'r genom cyfan. Nod y prosiect hefyd yw gwella fforddiadwyedd profion trwy benderfynu beth yw'r dyfnder dilyniant lleiaf sy'n angenrheidiol er mwyn dosbarthu'n gywir.

Back to top

Trust Management in Vehicular Networks using Artificial Intelligence

Dr Yasir Saleem (Department of Computer Science) - yss1@aber.ac.uk 

Mae rhwydwaith cerbydau yn cynnwys cerbydau a allai fod yn awtonomaidd, yn lled-annibynnol neu'n cael eu gyrru gan bobl. Cesglir sawl math o ddata o'r amgylchedd gan gerbydau sy'n cynnwys data damweiniau, data argyfwng, hysbysebion, a data wrth gefn i enwi dim ond rhyw-faint. Caiff gwybodaeth o'r fath ei chyfnewid gyda cherbydau eraill drwy gyfathrebu cerbyd-i-gerbyd (V2V) a chyda'r seilwaith, a elwir yn uned ochr y ffordd (RSU), gyda chyfathrebu cerbyd-i-seilwaith (V2I). Yn ogystal â hyn, mae cerbydau'n cyfnewid gwybodaeth sy'n gysylltiedig â'u lleoliad, eu cyf-lymder a'r cyfeiriad y mae'r cerbyd yn teithio iddo gyda cherbydau ac RSUs eraill. Fodd bynnag, mewn senario o'r fath, gall rhai cerbydau gamymddwyn er eu budd eu hunain (e.e. i gael mwy o adnoddau) ac yn hyn o beth, gallant ddarparu gwybodaeth neu wasanaethau ffug. Gall cerbydau o'r fath sy'n camymddwyn naill ai weithredu ar eu pennau eu hunain neu mewn grŵp. Felly, mae sys-temau rheoli ymddiriedaeth yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o ddarparu cyfathrebiadau dibyn-adwy, atal cerbydau heb awdurdod rhag camddefnyddio, a gellir eu datblygu i sicrhau bod ymddyg-iad maleisus yn cael ei ganfod. Mae rheoli cerbydau mewn rhwydweithiau cerbydau yn heriol ohe-rwydd yn gyntaf, dim ond am gyfnod byr y mae cerbydau'n cwrdd â cherbydau eraill ac yn ail, mae'n llai tebygol y bydd cerbydau'n cwrdd â'r un cerbydau eto. Mae'n ddiddorol ymchwilio i sut y gellir defnyddio Deallusrwydd Artiffisial (megis dysgu atgyfnerthu) ar gyfer rheoli ymddiriedaeth mewn rhwydweithiau cerbydau.

Nod y prosiect hwn yw ymchwilio i faterion ymddiriedaeth mewn rhwydweithiau cerbydau a dat-blygu system reoli ymddiriedolaeth gyda Deallusrwydd Artiffisial sy'n ystyried symudedd uchel, deinameg uchel, a heterogenedd. Dylid gwerthuso'r perfformiad gydag efelychydd rhwydwaith (OMNeT + neu NS -3 gyda SUMO) trwy ystyried setiau data symudedd cerbydau go iawn.

Ysgoloriaethau AberDoc

Mae Ysgoloriaethau AberDoc yn rhan o gronfa fawreddog ar gyfer Ôl-raddedigion Ymchwil.

Mae’r ysgoloriaethau hyn wedi’u teilwra i alluogi myfyrwyr i ddatblygu’r sgiliau angenrheidiol i gyflawni eu dewis o yrfa a chynnig amrywiaeth o gyfleoedd datblygu i wella’u sgiliau ymchwil â’u sgiliau trosglwyddadwy.

Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar y dudalen bwrpasol ar gyfer Ysgoloriaethau AberDoc.

YGGCC ysgoloriaeth

Mae Prifysgol Aberystwyth yn aelod o Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru (YGGCC) yr ESRC sy'n cefnogi nifer o ysgoloriaethau a gyllidir yn llawn yn y gwyddorau cymdeithasol. Gall myfyrwyr wneud cais am ysgoloriaethau mewn pedwar maes ymchwil neu 'lwybrau': (1) Cynllunio Amgylcheddol, (2) Iechyd, Lles a Gwyddor Data, (3) Daearyddiaeth Ddynol a (4) Gwleidyddiaeth, Cysylltiadau Rhyngwladol, ac Astudiaethau Ardal. Mae gwybodaeth am bob llwybr yn cael ei darparu yn y dolenni isod.

Dylai ymgeiswyr ystyried mynd at oruchwylwyr posibl cyn cyflwyno eu cais i gadarnhau bod capasiti goruchwylio priodol ac i drafod eu cais drafft.

Beth fydd yr ysgoloriaeth ymchwil yn ei chynnwys:

Mae dyfarniadau ysgoloriaeth yn talu eich ffioedd dysgu yn ogystal â grant cynhaliaeth ac yn cynnwys mynediad at gyllid ychwanegol drwy Grantiau Cynnal Hyfforddiant Ymchwil (RTSG).  Mae cyfleoedd a manteision eraill ar gael i ddeiliaid ysgoloriaethau, gan gynnwys lwfans gwaith maes tramor (os yw'n berthnasol), cyfleoedd am interniaeth, ymweliadau sefydliadol tramor a grantiau bach eraill.

Cymhwysedd

Mae ysgoloriaethau YGGCC yn gystadleuol iawn. Dylai ceisiadau ddod gan ymgeiswyr eithriadol sydd â gradd anrhydedd dosbarth cyntaf neu radd anrhydedd ail ddosbarth uwch cryf, neu radd Meistr briodol. Mae'r Brifysgol yn gwerthfawrogi amrywioldeb a chydraddoldeb ar bob lefel ac yn annog ceisiadau o bob rhan o'r gymuned, waeth beth fo'u hoedran, anabledd, rhyw, hunaniaeth rhywedd, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, hil, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol.  Yn unol â'n hymrwymiad i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb, amrywioldeb a chynhwysiant, ac i recriwtio mwy o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ar hyn o bryd, anogir a chroesewir ceisiadau yn benodol gan ymgeiswyr Du Prydeinig, Asiaidd Prydeinig, ethnig lleiafrifol Prydeinig a hil gymysg Prydeinig.  Rydym yn croesawu ceisiadau ar gyfer astudio'n llawn amser ac yn rhan-amser.

Llwybrau:

Gellir dod o hyd i wybodaeth fanwl am gymhwysedd, meysydd pwnc a'r broses ymgeisio yn y dolenni isod.

Cynllunio Amgylcheddol

Iechyd, Lles a Gwyddor DataI

 

 

 

Yn ddiweddar, cynhaliodd Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru (YGGCC) ddwy weminar; 'Sut i wneud cais am ysgoloriaeth YGGCC' a 'Sut i ysgrifennu cynnig ymchwil'. Cynlluniwyd y gweminarau i wneud y gystadleuaeth yn fwy hygyrch i'r rhai sy'n ystyried gwneud cais yng nghystadleuaeth ysgoloriaeth YGGCC 2024. Roedd y gweminarau yn ymdrin â phynciau megis; sut i ddod o hyd i oruchwyliwr, sut i baratoi ar gyfer cyfweliad, a sut i strwythuro eich cynnig. Mae recordiadau o'r gweminarau ar gael ar dudalen ysgoloriaethau YGGCC.

 

Mae YGGCC yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr o bob cefndir. Rydym yn gwerthfawrogi rhagoriaeth academaidd a sgiliau bywyd, yn ogystal â'r gallu i gwrdd â heriau a gallu'r myfyrwyr i gyfoethogi bywyd ein cymuned. Mae ehangu cyfranogiad yn nod allweddol i YGGCC ac rydym yn awyddus i dderbyn ceisiadau gan fyfyrwyr abl ac uchelgeisiol. Rydym yn gydweithrediad rhwng Prifysgol Caerdydd (y sefydliad arweiniol), Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol Swydd Gaerloyw, Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Abertawe

 

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yn y Gystadleuaeth Gyffredinol yw 12 Ionawr 2024 (Gall sefydliadau gael terfynau amser cynharach, bydd manylion y rhain yn hysbysebion y Gystadleuaeth Gyffredinol), bydd y Gystadleuaeth Gydweithredol yn lansio ym mis Mawrth 2024.

Ysgoloriaethau AHRC

Mae Prifysgol Aberystwyth yn un o nifer o sefydliadau ym M phartneriaeth Hyfforddiant Doethurol De, Gorllewin a Chymru ac mae wedi llwyddo i sicrhau cyllid ar gyfer ysgoloriaethau PhD yn y celfyddydau a'r dyniaethau. Gall myfyrwyr llwyddiannus elwa o gyfleoedd goruchwylio a hyfforddi posibl sydd ar gael mewn mwy nag un brifysgol o fewn y DTP.

Sylwer mai dim ond i fyfyrwyr y DU y mae'r gwobrau hyn ar gael a'u bod ar gyfer myfyrwyr PhD newydd yn hytrach na myfyrwyr PhD cyfredol.

Ewch i wefan Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol De, Gorllewin a Chymru i gael rhagor o wybodaeth.

Cyllid Arall

Other funding opportunities are available. For more information look at the dedicated page.

Arian arall

Mae cyfleoedd ariannu eraill ar gael. Am fwy o wybodaeth edrychwch ar y dudalen berthnasol.