Three Minute Thesis

Three Minute Thesis logo & strapline

Galw am geisiadau

Cystadleuaeth academaidd ar gyfer myfyrwyr ymchwil doethurol yw’r Three Minute Thesis (3MT®).

A allwch chi wynebu’r her o gyfathrebu cymhlethdod a pherthnasedd eich ymchwil i gynulleidfa sydd ddim yn arbenigwyr, ar lafar, mewn tair munud yn unig? A allwch chi eich cyfyngu eich hun i un sleid yn unig wrth gyflwyno? Wrth gwrs y gallwch chi.

Bydd myfyrwyr y rownd derfynol yn cynrychioli’r Brifysgol yn y Rownd Derfynol Genedlaethol.

Pam cofrestru?

  • I feithrin hyder wrth siarad yn gyhoeddus
  • I feithrin sgiliau cyfathrebu ac ymgysylltu â’r cyhoedd
  • I ddatblygu iaith hygyrch i gyflwyno eich gwaith ymchwil i bobl sydd ddim yn arbenigwyr
  • I rannu eich syniadau â chynulleidfa ehangach yn Aberystwyth
  • Gwobrau cyffrous – Gwobr o £100 i enillydd cystadleuaeth Aberystwyth a dwy wobr gysur o £50.
  • Cyfleoedd i rwydweithio

Cymhwysedd i gofrestru ar gyfer Cystadleuaeth 3MT

  • I gofrestru, rhaid ichi fod yn eich 2il flwyddyn neu uwch o raglen ddoethurol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Ni fyddwch wedi sefyll eich arholiad llafar cyn dyddiad y rownd derfynol yn Ebril 2023.
  • Am beth y mae’r beirniaid yn chwilio? Peidiwch â chyflwyno’ch fideo heb ddarllen y Rheolau Cofrestru a’r Meini Prawf Beirniadu yn ofalus.

Dyddiadau allweddol a sut i gofrestru

  • Erbyn Dydd Gwener 1 Chwefror 2023: cofrestrwch eich diddordeb gyda Ysgol y Graddedigion gan ebost. Byddwn yn eich cofrestru ar modiwl Three Minute Thesis ar Blackboard.
  • Dydd Mercher 15 Chwefror 2023, 14:10-15:00 gwaithdy ar lein ar format a rheolau 3MT Archebwch eich lle yma: https://stafftraining.aber.ac.uk/pg/list_courses.php

  • Dydd Iau 2 Mawrth 2023, 11:10 - 13:00: gwaithdy ar sgiliau cyflwyno ar gyfer 3MT. Archebwch eich le yma: https://stafftraining.aber.ac.uk/pg/list_courses.php

  • Cyn Dydd Gwener 10 Mawrth 2023 – Uwchlwythwch i Blackboard, fideo syml, dair munud o hyd, ar ffurf “pen sy’n siarad”, ynghyd â chrynodeb ymchwil 200 o eiriau. Peidiwch â phoeni am safon y cynhyrchu – bydd fideo syml wedi’i recordio ar eich ffôn yn fwy na derbyniol.

  • Dydd Llun 20 Mawrth 2023 – Cyhoeddi enwau’r myfyrwyr yn y rownd derfynol

  •  Dydd Mawrth 4 Ebril 2023  – Rowndiau Terfynol yn Fyw yn Aberystwyth.  Y Brif Neuadd, Gwleidyddiaeth Ryngwladol.

  • Gorffennaf 2023: Rownd gynderfynol genedlaethol ar lein.

  • Medi 2023: Rownd derfynol genedlaethol,

Cysylltiadau defnyddiol