Ymunwch â'ch Cymuned Ôl-raddedig
Beth mae'n ei olygu i fod mewn Cymuned?
Mae perthyn i gymuned yn rhan hanfodol o'ch taith wrth ichi astudio’n ôl-raddedig. Pan fyddwch mewn cysylltiad ag ôl-raddedigion eraill bydd gennych rwydwaith er mwyn eich cefnogi eich gilydd, yn llawn pobl eraill sy'n deall heriau penodol bywyd ôl-raddedigion. Mae hyn hefyd yn bwysig iawn er mwyn sicrhau na fyddwch yn teimlo eich bod chi ar eich pen eich hun - rhywbeth sy'n gallu bod yn heriol i fyfyrwyr ymchwil, yn aml.
Gall cymunedau pynciol eu cefnogi ei gilydd ar faterion academaidd allweddol – fel sut i ymdopi â gweithio yn rhan o dîm mewn labordy neu drafod y datblygiadau diweddaraf mewn maes ymchwil penodol.
Gall cymunedau sy'n ymwneud â mathau penodol o brofiadau fod yn hanfodol wrth ddod o hyd i ôl-raddedigion eraill sy’n gallu eu cefnogi ei gilydd ar faterion mor amrywiol â chydbwyso ymchwil â bod yn rhiant, datblygu perthynas gadarnhaol ag arolygwyr, a rhannu diddordebau er mwyn hyrwyddo cydbwysedd cadarnhaol rhwng bywyd a gwaith.
Mae'n bwysig bod ôl-raddedigion yn creu eu cymunedau eu hunain, gan fod anghenion yn gallu newid o flwyddyn i flwyddyn. Ond bydd Ysgol y Graddedigion yn eich cynorthwyo i roi pethau ar waith. Felly, os oes arnoch eisiau creu grŵp cymunedol ôl-raddedig, cysylltwch â Jan yn Ysgol y Graddedigion (jlb@aber.ac.uk) a siaradwch â ni i drafod sut y gallwn helpu i wireddu hynny.
Ymgysylltu â’r Cyhoedd
Cystadleuaeth i’r Gymuned Uwchraddedig
Mae Ysgol y Graddedigion yn gwahodd ceisiadau gan fyfyrwyr ymchwil am gyllid i gynorthwyo gweithgareddau a arweinir gan fyfyrwyr yn 2019-20. Gallai hyn gynnwys myfyrwyr (neu grwpiau o fyfyrwyr) yn trefnu gweithdai, cyrsiau, cynadleddau neu’n denu siaradwyr i ddigwyddiadau.
Hoffem annog yn benodol ddigwyddiadau arfaethedig yng Nghanolfan Uwchraddedig Penglais a/neu Ystafelloedd Uwchraddedig Llanbadarn.
Rydym yn cynnal dwy gystadleuaeth bob blwyddyn academaidd: ym mis Rhagfyr/Ionawr ac yn ystod y Gwanwyn/Haf gyda swm o £1,000 ar gael i gynorthwyo’r fenter/mentrau llwyddiannus.
Nid oes angen i geisiadau gan ymchwilwyr fod yn fwy nag un ochr o A4 a dylent gynnwys yr wybodaeth ganlynol:
- Disgrifiad byr o natur y gweithgaredd;
- Dyddiad a lleoliad arfaethedig y gweithgaredd;
- Costau’r gweithgaredd a’r cyfanswm sydd ei angen gan y Gystadleuaeth i’r Gymuned Uwchraddedig;
- Y gynulleidfa/cyfranogwyr arfaethedig – yn benodol a allai’r gweithgaredd fod, neu a fyddai’r gweithgaredd, yn agored i fyfyrwyr ymchwil uwchraddedig o adrannau eraill.
Cyflwynwch eich ceisiadau i Dr Ian Archer, Swyddog Datblygu Sgiliau, Ysgol y Graddedigion, S8 Adeilad Cledwyn, e-bost: ina@aber.ac.uk erbyn y dyddiad cau canlynol:
- TBD
Gofynnir i’r ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu adroddiad byr ar ôl i’r gweithgaredd gael ei gynnal.
Rhwydwaith Ôl-raddedig Undeb y Myfyrwyr
Penderfynodd UM greu rhwydwaith ôl-raddedig ar gyfer ôl-raddedigion i gwrdd â myfyrwyr sydd ar yr un lefel academaidd.