Canolfan Hanes Cymdeithasol a Diwylliannol Cymru

Datganiad Cenhadaeth

Nod Canolfan Hanes Cymdeithasol a Diwylliannol Cymru yw gweithredu fel canolfan ymchwil newydd yn yr Adran Hanes a Hanes Cymru. Mi fydd y Ganolfan yn datblygu cryfderau sylweddol yr Adran o ran ymchwil a dysgu ym maes hanes Cymru, fel yr amlinellir isod:

Mae gan y Ganolfan bum nod allweddol:

  • Hybu’r astudiaeth o hanes Cymru ym mhob cyfnod cronolegol;
  • Cefnogi prosiectau ymchwil unigol a chydweithredol yn hanes Cymru;
  • Ysgogi dadansoddi beirniadol o ddatblygiad hanesyddiaeth Cymru;           
  • Trefnu seminarau ymchwil ar y cyd â rhaglen seminarau ymchwil yr Adran Hanes a Hanes Cymru;                                  
  • Trefnu ysgolion undydd a chynadleddau ar themâu allweddol yn hanes modern Cymru a hwyluso’r cyhoeddiadau a fydd yn deillio o’r digwyddiadau hyn, lle bo hynny’n briodol.

Mae gan yr Adran Hanes a Hanes Cymru fàs critigol o ymchwilwyr y mae eu prif ddiddordebau ymchwil, neu eu diddordebau atodol, ym maes hanes Cymru. Ymhlith y rhain y mae: Yr Athro Aled Jones, Dr Paul O’Leary, Dr Eryn White, Dr Steven Thompson, Dr Owen Roberts, Dr Michael Roberts, Dr Jeffrey Davies, Dr Karen Stöber, Dr Richard Coopey, Yr Athro W. D. Rubinstein, Yr Athro Phillipp Schofield, Dr Iwan Morus a Dr David Ceri Jones. Mae gan yr Adran hefyd gymrawd ôl-ddoethurol y Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau, Dr Sharon Howard, sy’n ymchwilio i droseddau yng Nghymru’r Cyfnod Modern Cynnar. Un o athrawon anrhydeddus yr Adran yw Angela V. John, ac mae hi’n awdurdod ar hanes merched Cymru.

Mae ystod arbenigedd yr ysgolheigion hyn gyda’i gilydd yn rhychwantu’r cyfnodau canoloesol, modern cynnar a modern diweddar. Ceir amrywiaeth hefyd o ran y themâu yr ymddiddorir ynddynt. Mae’r rhain yn cynnwys, ond heb eu cyfyngu i: fynachaeth ganoloesol a’r werin ganoloesol; y rhywiau a chrefydd yn y cyfnod modern cynnar; datblygiadau trefol modern ac iechyd cyhoeddus; y cyfryngau, cerddoriaeth a diwylliant poblogaidd; cenhadwyr ac imperialaeth; a lleiafrifoedd ethnig a hunaniaeth genedlaethol. Ni cheir arbenigedd tebyg i hyn yn unrhyw adran arall yn y Deyrnas Unedig, ac mae hi’n amserol i greu fframwaith sefydliadol ar gyfer cydlynu prosiectau ymchwil a gweithgareddau cysylltiedig.

Mae aelodau staff yr Adran yn chwarae rhan ganolog wrth olygu a hybu ymchwil yn ehangach yn y maes. Mae’r Athro Jones yn un o olygyddion y prif gyfnodolyn ysgolheigaidd yn y maes, sef y Welsh History Review; mae Dr White yn olygydd cyfres Gwasg Prifysgol Cymru, Studies in Welsh History, sy’n cyhoeddi monograffau wedi’u seilio ar draethodau doethurol, a hithau hefyd yw golygydd Ceredigion; Dr O’Leary yw cadeirydd pwyllgor Hanes a Chyfraith y Bwrdd Astudiaethau Celtaidd, ac y mae hefyd yn olygydd cyfres o fywgraffiadau gwleidyddol ar gyfer Gwasg Prifysgol Cymru ac yn gyd-olygydd Llafur. Mae gwaith pwysig arall gan staff ac uwchraddedigion yr Adran yn cynnwys llyfryddiaeth ar-lein gan Dr Simone Clark a Dr Michael Roberts: ‘Women and Gender in early Modern Wales: A Guide to Sources and Further Reading’ (http://www.aber.ac.uk/history/bigbib.html).

Rhagwelir y bydd prosiectau cydweithredol toreithiog ar y cyd ag ymchwilwyr mewn adrannau eraill yn Aberystwyth – y mae rhai ohonynt eisoes yn bodoli yn anffurfiol – yn cael eu sefydlu a’u hatgyfnerthu. Ceir cydweithredu ffurfiol eisoes, er enghraifft, â haneswyr y cyfryngau yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu.