Siop @ Y Hwb
Croeso i’r Siop yn yr Hwb. Mae’r siop yn yr Hwb, sef canolfan Fferm Penglais, a cheir Starbucks yma hefyd. Mae yma groeso cynnes a chyfeillgar, gyda digon o seddi i chi ymlacio rhwng eich darlithoedd neu i gwrdd â ffrindiau neu gydweithwyr.
Ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener 08.30-21.00 a 11.30-21.00 ar ddyddiau Sadwrn a Sul.
Defnyddiwch y cerdyn teyrngarwch (Magic Stamp) i ddechrau casglu stampiau er mwyn cael diod boeth am ddim.
Os oes rhywbeth yr hoffech ei weld yma, siaradwch ag aelod o staff ac fe geisiwn ddiwallu eich anghenion.
Sylwch nad yw’r siop yn derbyn arian parod - gallwn dderbyn pob taliad â cherdyn a chardiau Aber.
Bydd y gwasanaethau sydd ar gael a’r oriau agor yn amrywio y tu allan i ddyddiadau tymhorau Prifysgol Aberystwyth (Oriau agor)
Mae Prifysgol Aberystwyth yn gymuned amlddiwylliannol, gyda myfyrwyr, staff ac ymwelwyr sydd â gwahanol gredoau a moeseg grefyddol. Rydym yn ceisio dod o hyd i gigoedd sydd wedi'u hardystio’n rhai halal/cigoedd o ffynonellau halal yn unol â'n cydnabyddiaeth o anghenion amrywiol ein cwsmeriaid.
- Bargeinion wrth brynu prydau cyfan (brechdan a diod o’ch dewis a naill ai ffrwyth, siocled neu greision)
- Amrywiaeth eang o fyrbrydau
- Cigoedd Halal o ffynonellau lleol
- Nwyddau groser
- Prydau wedi'u rhewi
- Adran Manwerthu
- Nwyddau ymolchi a hylendid
- Deunyddiau ysgrifennu
- Amrywiaeth o ategolion ffonau
- Cappuccino
- Latté
- Espresso
- Frappuccinos
- Smwddis
- Gwahanol fathau o de
- Paninis, brechdanau crasu a brechdanau
Yr holl ffotograffau gan: Darya Koskeroglu