Eich wythnosau cyntaf

Myfyrywr yn derbyn cyngor academaidd

I’ch helpu i ymgartrefu yn y Brifysgol mae’n hanfodol cael proses gynefino strwythuredig.

Bydd gan eich adran swyddogaeth arweiniol wrth gydlynu’ch proses gynefino gyda chymorth gan Adnoddau Dynol a’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu

 

Ar eich diwrnod cyntaf byddwch yn cael cynllun cynefino wedi’i deilwra gan eich adran i gyd-fynd â’ch swyddogaeth benodol chi.

 

Tasgau Pwysig

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cwblhau’r canlynol o fewn pythefnos i ddechrau gweithio:

  • Cael y cynllun cynefino wedi’i deilwra gan eich adran ar gyfer eich swydd benodol chi
  • Mewngofnodi i’r system Hunanwasanaeth a fydd yn eich galluogi i weld, golygu a chynnal manylion penodol a gedwir amdanoch yn ddiogel, ar system AD a Chyflogau. Chi, a chi’n unig, sy’n gallu edrych ar eich gwybodaeth bersonol drwy’r system hon – mae’r system hon yn cysylltu’n ddiogel â’ch enw defnyddiwr a chyfrinair PA, a chaiff y safle ei gwarchod ar gyfer defnydd dros y Rhyngrwyd
  • Iechyd, Diogelwch ac Amgylchedd: Cyfrifoldeb eich rheolwr llinell yw sicrhau bod gennych ddigon o brofiad, neu’ch bod wedi cael hyfforddiant priodol, cyn i chi ymgymryd ag unrhyw waith sy’n golygu perygl sylweddol. Ceir gwybodaeth am eich trefniadau cynefino Iechyd, Diogelwch ac Amgylchedd a threfniadau ac adnoddau’r Brifysgol drwy weddalennau Iechyd, Diogelwch ac Amgylchedd. Mae’n rhaid i’r holl staff gwblhau Adroddiad Cychwyn Cyflogaeth Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd (F005) . Mae’n rhaid i gopïau o’r ddogfen hon gael eu cadw gennych chi a’ch gweinyddwr adrannol
  • Cwrs E-ddysgu Amrywiaeth yn y Gweithle:
    Mae’r tiwtorial ar-lein hwn yn galluogi staff i:
    • ymgyfarwyddo â deddfwriaeth cydraddoldeb
    • deall y materion ehangach sy’n ymwneud â chydraddoldeb/amrywiaeth
    • codi eu hymwybyddiaeth o’u cyfrifoldebau a’u hawliau fel aelodau o staff.