Bioeconomi

 

Cyflwyniad

Adnoddau Naturiol a’r Economi Gylchol

Erbyn hyn mae’n argyfwng ar gymdeithas yn sgil camreoli amgylcheddol a’r angen i fwydo poblogaeth sy’n tyfu yn ogystal â darparu’r adnoddau eraill sydd eu hangen ar gyfer twf economaidd. Ar y cyfan mae gweithgynhyrchu’n seiliedig ar systemau cynhyrchu llinellol sy’n disbyddu adnoddau cyfyngedig ac ar yr un pryd yn cynhyrchu llawer iawn o wastraff a gaiff ei anfon gan fwyaf i safleoedd tirlenwi. Mae economi gylchol yn ddull cyferbyniol yn seiliedig ar systemau dolenni caeedig sy’n lleihau gwastraff drwy drawsnewid gan ddefnyddio technolegau atgynhyrchiol sy’n parhau i ddefnyddio adnoddau am gyfnod mor hir â phosibl. Mae’r cysyniad wedi’i wreiddio yng ngweledigaeth ymchwil y tîm yn IBERS sy’n gweithio ym maes trawsnewid biomas a bioburo, sef datblygu cynhyrchion a phrosesau bioseiliedig newydd i brysuro’r trawsnewid at fioeconomi gylchol.

Y blaenoriaethau allweddol yw:

1) cynaladwyedd economaidd ac amgylcheddol cynhyrchion bioseiliedig a ddatblygwyd drwy brosesau bioburo

2) defnydd effeithlon o adnoddau, yn cynnwys ail-gipio dŵr proses a chydrannau eraill naill ai i’w cadw yn system y broses bioburo neu i’w hailosod ar y tir i gynnal cynhyrchedd sylfaenol. Drwy ddefnyddio llwybrau bioburo i gau dolenni mewn systemau amaethyddol a chynhyrchu bwyd, nod tîm BCB yw cyflwyno datrysiadau carbon niwtral sy’n gynaliadwy’n economaidd ac a fydd yn cefnogi llesiant cymdeithas.

Ymchwil a Galluoedd

Gallu

Mae ein rhaglenni ymchwil cyfredol yn IBERS yn canolbwyntio ar ddatblygu ac optimeiddio technolegau galluogi ynghyd â dylunio bio-broses yn cwmpasu lefelau parodrwydd technoleg (TRL) 1 i 5. Mae hyn yn cynnwys tywys y prosiectau o’r cam cysyniadol hyd at raddfeydd sy’n berthnasol i ddiwydiant, gan ddefnyddio ein cyfleusterau graddfa beilot (e.e. BEACON (http://beaconwales.org/) ac Aberinnovation (https://aberinnovation.com/)).

Mae’r meysydd penodol o arbenigedd a gallu’n cynnwys:

  • bioleg synthetig yn cynnwys darganfod a datblygu ensymau a microbaidd (TRL 1-3)
  • technolegau swmp-wahanu ac echdynnu (TRL 2-5); rhag-driniaeth biomas thermocemegol a biocemegol (TRL 2-5)
  • gwyddoniaeth eplesu (TRL 2-5)
  • treulio anaerobig (TRL 1-3),
  • prosesu a phuro diweddarach yn y broses (TRL 2-5). 

Rydym ni’n gweithio ar borthiannau niferus fel cnydau ynni, gwellt amaethyddol, bagasse cansen siwgwr, grawn darfodedig bragwyr, gwymon, gwastraff solet trefol, gwastraff prosesu tatws, ar gyfer cynhyrchu cynhyrchion niferus i’r diwydiannau bwyd iach, cosmetig, toddyddion gwyrdd, biogyfansawdd, bioynni a bioblastigau/pecynnu.

 

Ymchwil sy’n helpu i greu economi gylchol

 Mae ymchwilwyr IBERS yn gweithio mewn nifer o feysydd fydd yn cyfrannu at ddatblygu’r economi gylchol. Ymhlith y meysydd a amlygir mae:

A) Asid lactig ar gyfer cynhyrchu bioblastig o wastraff solet trefol; mae’r gwaith hwn yn benllanw ymchwil drwy nifer o ffrydiau cyllido yn cynnwys dau brosiect Innovate UK a Menter Cyd-gyllido Diwydiannau Bio-Seiliedig (cyllid Horizon 2020) ac mae’n cynnwys adeiladu cyfleuster ar raddfa arddangos gyda throsglwyddo technoleg o Brifysgol Aberystwyth.

B) Xylitol o wellt amaethyddol; cynhyrchu xylitol mewn modd biodechnegol. Melysydd naturiol yw hwn sy’n atal pydredd dannedd mewn plant, sy’n cynnwys »70% o werth caloriffig siwgwr bwrdd ac sy’n addas i bobl ddiabetig. Fe’i cyllidwyd gan Climate-KIC, drwy Sefydliad Arloesi a Thechnoleg Ewrop (EIT), Llywodraeth Cymru, Innovate UK, Plants to Products BBSRC NiBB a BBSRC a Chronfa Newton gan arwain at lansio cwmni deillio PA ARCITEKBIO Ltd i fasnacheiddio’r dechnoleg.

C) Metabolion protein a bioactif o wastraff bwyd; tarddodd y gwaith hwn o gyfres o raglenni ymchwil a gyllidwyd gan Innovate UK a Llywodraeth Cymru.

 

Prosiectau / Grantiau

Prosiectau Cyfredol 

Prosiectau a gwblhawyd yn ddiweddar

  • Extraction and processing of nucleotides and glutamates (NAGS) from a non-yeast substrate for salt reduction and taste enhancement, Innovate UK (2016-2019) - https://www.aber.ac.uk/en/news/archive/2020/02/title-229342-en.html
  • Production of bio-based products from lignin (Oxypol), EU ERA-NET Industrial Biotechnology, (2014-2017) - http://www.oxypol.eu/
  • Innovative bio-refinery integration: Chitin production from crab shell waste. TSB (2014-2015) - https://gtr.ukri.org/projects?ref=131522
  • MacroBioCrude: Developing an Integrated Supply and Processing Pipeline for the Sustained Production of Ensiled Macroalgae-derived Hydrocarbon Fuels. EPSRC (2013-2017)
  • Adaptation and Mitigation through Bio-Succinate Innovation (ADMIT BioSuccInnovate), Climate-KIC (2013-2016), http://www.bio-succinnovate.com/about/default.html

 

Patentau

Allbynnau

  • Gallagher J, Lee A, Fish S., Morris SM (2015) Prebiotic Composition– Novel prebiotics from grassland WO2015/075440 A1 European Patent granted.
  • Bryant D, Gallagher J, Morris SM, Winters A, Donnison I, Harding G, Tims-Taravella E, Thomas D, Leemans D (2014) Bioethanol production from high sugar grasses WO2014/023978 Patent Granted
  • Davies D, Merry R, Winters A, Bakewell (2000) An inoculant for the ensilage of plant material comprises at least one Lactobacillus strain having fructan degrading properties. GB2356125A

Efrydiaethau

Efrydiaethau

  • Biorefining problem macroalgae to produce selected high value products (2018-2021)
  • Genetic manipulation of Lactobacillus to produce pure D or L forms of lactic acid. (2016-2019)
  • How does harvesting of problem macroalgae within Milford Haven affect the ecology of receiving habitats? (2018-2021)
  • Isolation, screening and development of multiproduct stream process to valorise production of bioactive molecules from targeted plant species / Natural Products for Wellbeing (2016-2021)
  • Understanding and Regulating the Genetic Transition of the Yeast to the Filamentous Fungal Phenotype; developing new tools for Industrial Biotechnology and Biorefining (2016-2020)
  • Valorisation of Industrial Hemp waste material through the recovery of secondary compounds with therapeutic properties (2018-2022)

Prif Ymchwilwyr

Prif Ymchwilwyr

Llun Enw Ebost Ffôn
Dr Jessica Adams jaa@aber.ac.uk +44 (0) 1970 823152
Dr David Bryant dgb@aber.ac.uk +44 (0) 1970 622294
Prof Joe Gallagher jbg@aber.ac.uk +44 (0) 1970 823147
Dr Ana Winters alg@aber.ac.uk +44 (0) 1970 823207

Cyhoeddiadau

Cyhoeddiadau

Bhatia, R, Timms-Taravella, E, Roberts, LA, Moron-Garcia, OM, Hauck, B, Dalton, S, Gallagher, JA, Wagner, M, Clifton-Brown, J & Bosch, M 2023, 'Transgenic ZmMYB167 Miscanthus sinensis with increased lignin to boost bioenergy generation for the bioeconomy', Biotechnology for Biofuels and Bioproducts, vol. 16, no. 1, 29, pp. 29. 10.1186/s13068-023-02279-2
Gallagher, J, Adams, J, Turner, L, Kirby, ME, Toop, T, Mirza, W & Theodorou, M 2021, 'Bio-processing of macroalgae Palmaria palmata: Metabolite fractionation from pressed fresh material and ensiling considerations for long-term storage', Journal of Applied Phycology, vol. 33, no. 1, pp. 533-544. 10.1007/s10811-020-02295-x
da Costa, RMF, Winters, A, Hauck, B, Martín, D, Bosch, M, Simister, R, Gomez, LD, Batista de Carvalho, LAE & Canhoto, JM 2021, 'Biorefining Potential of Wild-Grown Arundo donax, Cortaderia selloana and Phragmites australis and the Feasibility of White-Rot Fungi-Mediated Pretreatments', Frontiers in Plant Science, vol. 12, 679966. 10.3389/fpls.2021.679966
Lange, L, O'Connor, K, Arason, S, Bundgård-Jørgensen, U, Canalis, A, Carrez, D, Gallagher, J, Gøtke, N, Huyghe, C, Jarry, B, Llorente, P, Marinova, M, Martins, L, Mengal, P, Paiano, P, Panoutsou, C, Rodrigues, L, Stengel, D, van der Meer, Y & Vieira, H 2021, 'Developing a Sustainable and Circular Bio-Based Economy in EU: By Partnering Across Sectors, Upscaling and Using New Knowledge Faster, and For the Benefit of Climate, Environment & Biodiversity, and People & Business', Frontiers in Bioengineering and Biotechnology, vol. 8, 619066. 10.3389/fbioe.2020.619066
Peechmani, P, Othman, MHD, Kamaludin, R, Puteh, MH, Jaafar, J, Rahman, MA, Ismail, AF, Kadir, SHSA, Illias, RM, Gallagher, J & Djuli, SM 2021, 'High flux polysulfone braided hollow fiber membrane for wastewater treatment role of zinc oxide as hydrophilic enhancer', Journal of Environmental Chemical Engineering, vol. 9, no. 5, 105873. 10.1016/j.jece.2021.105873
Yadav, CB, Tokas, J, Yadav, DV, Winters, A, Singh, RB, Yadav, R, Gangashetty, P, Srivastava, R & Yadav, R 2021, 'Identifying Anti-Oxidant Biosynthesis Genes in Pearl Millet [Pennisetum glaucum (L.) R. Br.] Using Genome—Wide Association Analysis', Frontiers in Plant Science, vol. 12, 599649. 10.3389/fpls.2021.599649
Huson, KM, Morphew, R, Winters, A, Cookson, A, Hauck, B & Brophy, P 2021, 'In vitro screening as an anthelmintic discovery pipeline for Calicophoron daubneyi: Nutritive media and rumen environment-based approaches', Parasitology Research, vol. 120, no. 4, pp. 1351-1362. 10.1007/s00436-021-07066-2
Kostas, ET, Adams, JMM, Ruiz, HA, Durán-Jiménez, G & Lye, GJ 2021, 'Macroalgal biorefinery concepts for the circular bioeconomy: A review on biotechnological developments and future perspectives', Renewable and Sustainable Energy Reviews, vol. 151, 111553. 10.1016/j.rser.2021.111553
Azelee, NIW, Manas, NHA, Dailin, DJ, Malek, R, Moloi, N, Gallagher, J, Winters, A, Leng, OM & Enshasy, HAE 2021, Mushroom Bioactive Ingredients in Cosmetic Industries. in Advances in Macrofungi: Pharmaceuticals and Cosmeceuticals. Taylor & Francis, pp. 207-229. 10.1201/9781003191278-16
Bhatia, R, Lad, J, Bosch, M, Bryant, D, Leak, D, Hallett, J, Franco, T & Gallagher, J 2021, 'Production of oligosaccharides and biofuels from Miscanthus using combinatorial steam explosion and ionic liquid pretreatment', Bioresource Technology, vol. 323, 124625. 10.1016/j.biortech.2020.124625
Joniver, C, Photiadis, A, Moore, P, Winters, A, Woolmer, A & Adams, J 2021, 'The global problem of nuisance macroalgal blooms and pathways to its use in the circular economy', Algal Research, vol. 58, 102407. 10.1016/j.algal.2021.102407
Brown, A, Adams, J, Grasham, O, Carmargo-Valero, M & Ross, A 2020, 'An assessment of different integration strategies of hydrothermal carbonisation and anaerobic digestion of water hyacinth', Energies, vol. 13, no. 22, 5983. 10.3390/en13225983

Mwy o gyhoeddiadau ar y Porth Ymchwil »