Prosiect Dronau Maesnewydd: Mesur Glaswellt mewn Modd Symlach a Chlyfrach
Canolbwyntiodd Prosiect Dronau Maesnewydd ar ddod o hyd i ffordd fwy effeithlon o fesur glaswellt ar y fferm—gan leihau’r llwyth gwaith, arbed amser, a helpu ffermwyr i wneud penderfyniadau cyflymach am bori, a hynny ar sail gwybodaeth fwy cadarn. Wedi'i ariannu trwy Gyllid Arbrofi Cyswllt Ffermio, cynhaliodd tîm IBERS brofion i weld a allai dronau ddisodli mesuryddion porfeydd traddodiadol yn ddibynadwy, drwy ddarparu canlyniadau’n gynt, gan hel data mwy cyfoethog a manwl ar yr un pryd.
Pam newid yr hyn sy’n gweithio eisoes?
Mae'r rhan fwyaf o ffermwyr yn gwybod y drefn: cerdded y caeau gyda mesurydd porfa bob wythnos i fesur y gorchudd glaswellt. Mae'n gweithio, ond mae'n cymryd amser - sawl awr bob wythnos, yn aml - a dim ond ciplun ar yr hyn sy'n digwydd a geir.
Wrth i ddronau ddod yn rhatach a haws eu defnyddio, mae'r syniad y tu ôl i'r prosiect hwn yn syml: a all drôn hedfan dros y cae, mesur y glaswellt yn awtomatig, a helpu i wella penderfyniadau pori ar yr un pryd?
Wrth ganol hyn oll y mae’r graff gorchudd porfa (feed wedge) a ddefnyddir gan lawer o ffermwyr eisoes. Os gall dronau roi mesurau tebyg yn gyflym ac yn ddibynadwy, efallai y gallent ei gwneud yn haws rheoli pori.

Cymerwyd o: https://www.dairynz.co.nz/feed/fundamentals/feed-wedges/
Sut mae'r prosiect yn gweithio yn ymarferol
Cynhaliwyd y treial ar lain bori 20 hectar, gan ddefnyddio cymysgedd o dechnoleg dronau a mesuriadau traddodiadol.
Casglodd y drôn ddelweddau:
- Aml-sbectrol (yn dda am asesu iechyd planhigion)
- RGB safonol (fel camera arferol)
Ar yr un pryd, roedd y tîm yn dal i ddefnyddio:
- Darlleniadau mesurydd porfa
- Samplau glaswellt
- Dadansoddiadau’r labordy
- Darlleniadau Brix (sy'n gysylltiedig ag ansawdd y borfa)
Defnyddiwyd hyn i gyd i hyfforddi'r data dronau - yn y bôn yn eu dysgu sut i droi delweddau yn amcangyfrifon cywir o orchudd a chyflwr y gwair.
Y darganfyddiadau
Roedd y canlyniadau'n galonogol iawn:
- Roedd dronau yn cofnodi twf y glaswellt yn dda
- Fe wnaethant sylwi pan oedd y glaswellt wedi’i bori i gyd
- Fe wnaethant ddangos aildyfiant dros amser yn glir
- Daeth y canlyniadau gorau o’r camerâu aml-sbectrol
- Yn fwy cywir ar gyfer mesur iechyd glaswellt
- Ond roedd camerâu RGB safonol yn dal i weithio'n weddol dda
- Lluniwyd model gweithio i’r fferm
- Gall y system nawr amcangyfrif gorchudd y glaswellt ar gyfer Maesnewydd heb fod angen gwneud mesuriadau â llaw drwy’r amser.
Hynny yw, profodd y drôn ei fod yn gallu gwneud y gwaith - ac o bosib yn arbed amser ar ben hynny.
Beth mae hyn yn ei olygu i ffermwyr?
Os yw'r dull hwn yn cael ei ddatblygu ymhellach, gallai gynhyrchu llwyfan / gwasanaeth a fyddai’n:
- lleihau'r amser a dreulir yn cerdded y caeau
- darparu gwybodaeth fanylach ar draws caeau cyfan
- gwella penderfyniadau am bori drwy ddefnyddio data gwell
- gwneud y gwaith llunio siartiau gorchudd porfa yn haws ac yn gynt
O'i gymharu â mesur ychydig o fannau mewn maes, gall dronau fesur maes cyfan ar unwaith.
Beth nesaf?
Tynnodd y prosiect sylw at ychydig o heriau hefyd:
- Mae pob fferm yn wahanol
- Mae'r system yn gweithio'n dda ym Maesnewydd, ond mae'n debygol y bydd angen ei haddasu at yr amgylchiadau ar ffermydd eraill
- Mesur yr ansawdd yw'r cam nesaf
- Ar hyn o bryd, canolbwyntir ar faint o laswellt sydd
- Y nod yw rhagweld ansawdd y borfa hefyd o ddata’r dronau, a fyddai'n helpu ffermwyr ymhellach
- Ei gwneud hi'n hawdd ei ddefnyddio
- Bydd angen canlyniadau syml ar ffermwyr - niferoedd clir neu graffiau y gallant weithredu arnynt yn gyflym
Mae'r prosiect hwn yn enghraifft dda o ble mae ffermio yn mynd i gyfeiriad lle y dylai fod llai o ddyfalu a mwy o ddata, ond mae’n bwysig cofio bod angen i hynny gyd-fynd ag offer gwell i helpu i wneud penderfyniadau â'r data hwn mewn ffordd syml a dealladwy. Nid disodli’r ffermwyr yw’r nod - dim ond rhoi gwell gwybodaeth iddynt, a hynny’n gynt.

