Clwstwr Cyfrifiaduron Perfformiad Uchel

 

Clwstwr Cyfrifiaduron Perfformiad Uchel

Mae Clwstwr Cyfrifiaduron Perfformiad Uchel (HPC) IBERS yn cynnwys 544 craidd CPU a 4TB RAM wedi’u gwasgaru ar draws 13 nod cyfrifiadur. Mae yna gapasiti storio o 43TB gyda 11TB ychwanegol o ddisg mynediad cyflym, sy’n darparu lle gweithio i dros 100 o ddefnyddwyr. Mae cwmwl IBERS (sef casgliad o gyfrifiaduron perfformiad uchel annibynnol sydd wedi’u neilltuo i ddefnyddio gweinyddion ac/neu wasanaethau ‘ar alw’) yn sail i wasanaethau biowybodeg ar y we (e.e. Galaxy) yn ogystal â gwasanaethau amrywiol ar gyfer ymchwilwyr a grwpiau eraill. Mae cwmwl IBERS yn cynnwys 55TB o storfa bwrpasol, 104 craidd ac 1TB o gof RAM. Mae yna hefyd 1.2Pb o ofod disg ar gael ar gyfer storio hirdymor sydd wedi’i gysylltu â’r HPC a chwmwl IBERS. Mae storio wrth gefn yn cael ei wneud yn wythnosol.