Ffenomeg

 

Ffenomeg

Rhan hanfodol o wyddor planhigion yw deall sut mae gwahanol blanhigion yn ymateb i'w hamgylchedd, boed hynny yn y maes neu mewn amgylcheddau a reolir fel Tai Gwydr ac yn fwy diweddar, Ffermydd Fertigol.  

Y Ganolfan Genedlaethol Ffenomeg Planhigion, a ariennir gan y BBSRC a Llywodraeth Cymru yw'r cyntaf o'i bath mewn Prifysgol yn y Deyrnas Unedig ac mae'n rhoi mynediad i wyddonwyr ledled y DU a'r byd i systemau ffenoteipio o'r radd flaenaf. Defnyddir y systemau ffenoteipio ar hyn o bryd mewn rhwydweithiau ymchwil cenedlaethol a rhyngwladol gan gynnwys  PhenomUK,  EPPN2020 a Chanolfan Ffenomeg Planhigion China - y Deyrnas Unedig. Mae'r NPPC yn gweithio'n agos gyda'r Adran Ddaearyddiaeth a'r Adran Gyfrifiadureg i ddatblygu atebion newydd i gaffael a dadansoddi data, gan gynnwys datblygu atebion dysgu dwfn ar gyfer 

Dull a Chyfleusterau

Dull a Chyfleusterau

Mae synwyryddion di-gyswllt ac annistrywiol yn darparu gwybodaeth am ddatblygiad cnydau a ffisioleg, eu hamgylchedd, a'r rhyngweithio rhwng cnydau a'r amgylchedd. Mae dulliau o'r fath hefyd yn caniatáu mesuriadau mynych dros amser, gan ddarparu gwybodaeth am nodweddion hydredol ar ryngweithiadau amgylchedd x genoteip x rheolaeth ar draws y cylch bywyd.

Ymysg y technolegau sy'n dod i'r amlwg mae platfformau trin planhigion awtomataidd, roboteg, delweddau a chyfrifiadureg (dysgu dwfn, rhesymu semantig ac ati), sy'n ymestyn i Synhwyro o Bell ac Arsylwi'r Ddaear  sy'n caniatau casgliad annistrywiol o baramedrau ffisegol a ffisiolegol ar draws graddfeydd, o'r is-gellog i'r maes a'r dirwedd (Yang et al., 2020; 10.1016/j.molp.2020.01.008).

Er bod ein platfformau masnachol wedi'u cynllunio ar gyfer rhes draddodiadol (ceirch, gwenith, had rêp/canola, ac ati) a chnydau tŷ gwydr, rydym wedi datblygu methodolegau pwrpasol ar gyfer gwreiddiau, meillion, glaswellt porthiant, grawnwin, rhywogaethau Miscanthus a mawndir.  Mae technolegau biofeddygol wedi'u hailbwrpasu ar gyfer ymchwil gwyddor planhigion.

Mae tai gwydr arbenigol ac ystafelloedd amgylchedd rheoledig yn efelychu hinsoddau amrywiol ledredau.  Er mwyn llenwi'r bwlch rhwng yr ystafelloedd a'r maes, mae unedau aer-planhigyn-pridd ar raddfa fawr yn darparu cyfleusterau wedi eu hofferynnu'n dda ar gyfer ffenoteipio ffisiolegol manwl.  Mae lleiniau o gaeau wedi'u hofferynnu ar hyd goleddf uchderol (lefel y môr i 350m) ac o fewn ffotogyfnod cyffredin (10km ar drawslun tua G-D) a phlatfformau caffael data symudol  yn rhoi defnydd o amgylcheddau tyfu awyr agored amrywiol yr holl ffordd at raddfa fferm.

Mae'r Labordy Ecoffisioleg yn darparu arbenigedd ac offeryniaeth o'r radd flaenaf ar gyfer astudiaethau ffisiolegol dwfn gan gynnwys siambrau pwysau Scholander, dadansoddwyr nwy isgoch, a monitro fflworoleuedd cloroffyl yn unigol ac yn barhaus.

Defnyddir y dulliau hyn, a ategir gan fetabolomeg a genomeg y genhedlaeth nesaf, i wella modelau cnydau sy'n rhagweld cynnyrch yng nghyd-destun newidynnau amgylcheddol, gyda'r bwriad o wella cynhyrchiant amaethyddol a chadwyni cyflenwi a lleihau'r effaith ar yr amgylchedd.

Er mwyn annog y defnydd o'r technolegau hyn mewn amaethyddiaeth yn gyffredinol ac mewn cynhyrchu bwyd effaith isel cynaliadwy fel ffermio fertigol yn benodol, mae   Campws Arloesi newydd Aberystwyth yn darparu cyfleusterau a hyfforddiant i fusnesau bach.

Prosiectau

Prosiectau

Dyma ddolenni i ran o'n prosiectau presennol a phrosiectau'r gorffennol.

Prif Ymchwilwyr

Prif Ymchwilwyr

Llun Enw Ebost Ffôn
Prof John Doonan jhd2@aber.ac.uk +44 (0) 1970 823080
Dr Matthew Hegarty ayh@aber.ac.uk +44 (0) 1970 622284
Dr Andrew Lloyd anl50@aber.ac.uk

Aelodau'r grŵp

Ffenomeg

Prof. John Doonan

Dr Andrew Lloyd

 

Post Docs

Dr Candida Nibau

 

Ymchwilwyr/Tecnwyr/Gweithrediadau Maes

Dr Fiona Corke

Dr Kevin Williams

Mr Jason Brook

Mr David Evershed

Mr Kieran Atkins

Miss Ffion Owen

Mr Aled Evans

 

 

Myfyrwyr doethur

Mr David Evershed

Azadeh Amini

Rachel Dye

Miss Julia Vallusova

William Sweet-Jones

 

Blwyddyn yn y Diwydiant

Missy Sullivan

Dan Baker

 

Cyhoeddiadau

Cyhoeddiadau

Reena, , Doonan, JH, Williams, K, Corke, FMK, Zhang, H & Liu, Y 2025, 'Handling intra-class imbalance in part-segmentation of different wheat cultivars', Computers and Electronics in Agriculture, vol. 230, 109826. 10.1016/j.compag.2024.109826
Girija, A, Canales, FJ, Haddadi, BS, Dye, R, Corke, F, Williams, K, Phillips, H, Beckmann, M, Prats, E, Doonan, JH & Mur, LAJ 2025, 'Metabolomic approaches suggest two mechanisms of drought response post-anthesis in Mediterranean oat (Avena sativa L.) cultivars', Physiologia Plantarum, vol. 177, no. 2, e70181. 10.22541/au.172959354.47755276/v1, 10.1101/2023.06.28.546978, 10.1111/ppl.70181
Reena, R, Doonan, JH, Williams, K, Corke, FMK, Zhang, H & Liu, Y 2025, Uncertainty and Feature-Based Weighted Loss for 3D Wheat Part Segmentation. in Proceedings of the 20th International Joint Conference on Computer Vision, Imaging and Computer Graphics Theory and Applications. vol. 2, Proceedings of the International Joint Conference on Computer Vision, Imaging and Computer Graphics Theory and Applications, Science and Technology Publications, pp. 632-641, 20th International Joint Conference on Computer Vision, Imaging and Computer Graphics Theory and Applications, VISIGRAPP 2025, Porto, Portugal, 26 Feb 2025. 10.5220/0013312300003912
Reena, , Doonan, JH, Zhang, H, Liu, Y, Williams, K & Corke, FMK 2025, Uncertainty Driven Sampling to Handle Intra-class Imbalance Part Segmentation in Wheat. in 6th IEEE International Conference on Image Processing, Applications and Systems, IPAS 2025 - Proceedings. 6th IEEE International Conference on Image Processing, Applications and Systems, IPAS 2025 - Proceedings, IEEE Press, 6th IEEE International Conference on Image Processing, Applications and Systems, IPAS 2025, Lyon, France, 09 Jan 2025. 10.1109/IPAS63548.2025.10924512
Evershed, D, Durkan, EJ, Hasler, R, Corke, F, Doonan, JH & Howarth, CJ 2024, 'Critical Evaluation of the Cgrain Value™ as a Tool for Rapid Morphometric Phenotyping of Husked Oat (Avena sativa L.) Grains', Seeds, vol. 3, no. 3, pp. 436-455. 10.3390/seeds3030030
Balouri, C, Poulios, S, Tsompani, D, Spyropoulou, Z, Ketikoglou, M-C, Kaldis, A, Doonan, JH & Vlachonasios, KE 2024, 'Gibberellin Signaling through RGA Suppresses GCN5 Effects on Arabidopsis Developmental Stages', International Journal of Molecular Sciences, vol. 25, no. 12, 6757. 10.3390/ijms25126757
Thamvithayakorn, P, Phosri, C, Robinson-Boyer, L, Limnonthakul, P, Doonan, JH & Suwannasai, N 2024, 'The Synergistic Impact of a Novel Plant Growth-Promoting Rhizobacterial Consortium and Ascophyllum nodosum Seaweed Extract on Rhizosphere Microbiome Dynamics and Growth Enhancement in Oryza sativa L. RD79', Agronomy, vol. 14, no. 11, 2698. 10.3390/agronomy14112698
van de Koot, WQM, Msonda, J, Olver, OP, Doonan, JH & Nibau, C 2024, 'Variation in Water-Holding Capacity in Sphagnum Species Depends on Both Plant and Colony Structure', Plants, vol. 13, no. 8, 1061. 10.3390/plants13081061
Yang, W, Doonan, JH, Guo, X, Yuan, X & Ling, F 2023, 'State-of-the-art technology and applications in crop phenomics, volume II', Frontiers in Plant Science, vol. 14, 1195377. 10.3389/fpls.2023.1195377
Romero-Vergel, AP 2023, 'TURION: A physiological crop model for yield prediction of asparagus using sentinel-1 data', European Journal of Agronomy, vol. 143, 126690. 10.1016/j.eja.2022.126690
Nibau, C, Van De Koot, W, Spiliotis, D, Williams, K, Kramaric, T, Beckmann, M, Mur, L, Hiwatashi, Y & Doonan, JH 2022, 'Molecular and physiological responses to desiccation indicate the abscisic acid pathway is conserved in the peat moss, Sphagnum', Journal of Experimental Botany, vol. 73, no. 13, pp. 4576-4591. 10.1093/jxb/erac133
Ghahremani, M, Williams, K, Corke, F, Tiddeman, B, Liu, Y, Wang, X & Doonan, JH 2021, 'Direct and accurate feature extraction from 3D point clouds of plants using RANSAC', Computers and Electronics in Agriculture, vol. 187, 106240. 10.1016/j.compag.2021.106240

Mwy o gyhoeddiadau ar y Porth Ymchwil »