Pwllpeiran

Mae Canolfan Ymchwil yr Ucheldir, Pwllpeiran yn ganolfan astudio ecosystemau ucheldirol sy'n cael ei ffermio. Saif yng nghalon mynyddoedd y Canolbarth ger Ardal Gadwraeth Arbennig Elenydd

Mae ychydig dros 50% o’r tir amaethyddol a ddefnyddir yng ngwledydd Prydain yn cael ei roi yn nosbarth ‘Ardal Lai Ffafriol’, ac yng Nghymru mae’r ffigur hwnnw yn codi i 80%.

Mae uchder y tir, nodweddion y pridd ac amodau’r hinsawdd yn cyfuno i gyfyngu posibiliadau’r rhan fwyaf o’r ffermydd yn yr ardaloedd hyn i ffermio defaid a gwartheg ar raddfa eang, ac mae rhyw 60% o’r ddiadell defaid magu a 60% o’r fuches gwartheg sugno ym Mhrydain i’w cael yn yr ucheldiroedd.

Mae’r ucheldiroedd hefyd yn chwarae rhan hanfodol wrth ddarparu amrywiaeth o ‘wasanaethau’ ecosystemau e.e. rheoli dŵr (gan gynnwys darparu dŵr yfed a lliniaru ar effeithiau posib llifogydd), rheoli carbon (gan gynnwys cadw carbon yn y pridd a thynnu carbon o’r atmosffer), a rheoli tirweddau a threftadaeth (gan gynnwys twristiaeth, hamdden a chyfleoedd addysgiadol).

Mae’r mathau o lystyfiant ar y safle yn amrywio’n helaeth, o lastir wedi’i wella ac a reolir yn ddwys, i dir pori mynyddig.‌‌‌ Mae’r amrywiaeth hwnnw yn golygu y gellir profi effeithiau gwahanol sefyllfaoedd rheoli ar amrywiaeth o fathau o lystyfiant ar yr un safle, ac mae hynny’n sicrhau bod cyn lleied â phosib o wahaniaethau o ran yr hinsawdd neu ffactorau amgylcheddol eraill a allai ddrysu canlyniadau’r profion hynny. Mae'r cymunedau lled-naturiol sy'n bresennol yn cynnwys cynefinoedd o bwysigrwydd cadwraeth.

Ymchwil barhaus

Mae gan IBERS enw da am wneud ymchwil strategol o safon, ac mae hi mewn sefyllfa ddelfrydol i gynnal ymchwil arloesol ac integredig a fydd yn cyfrannu at benderfyniadau polisi ynghylch y defnydd a wneir o dir uchel mewn amryw ffyrdd yn y dyfodol.

Mae gwyddonwyr yn yr Athrofa yn cynnal ymchwil ym meysydd sawl disgyblaeth gan gynnwys ecoleg, gwyddor anifeiliaid, bridio planhigion, adnoddau bioadnewyddadwy, gwyddor y pridd ac economeg gymdeithasol.

Cael gwybod mwy:       ‌‌   ‌      ‌

 

Resilient Grasslands

Restoring Peatlands

Testing ecotypes of ryegrass

Brignant long-term plots

Mixed grazing systems

Link with Peru

Agroforestry

Alpacas

Calan gates

Testing unmanned robotic vehicles

Miscanthus as an alternative bedding source

Interdisciplinary artwork

Staff


Yr Arthro Mariecia Fraser - Yr Athro mewn Ecoleg / Pennaeth y Ganolfan

Iolo Davies - Rheolwr Ymchwil

Eirian Richards - Uwch Dechnegydd Maes
Ioan Lewis - Technegydd Da Byw yr Ucheldir
Andrew Ackerley - Technegydd Maes Georgie Hurst - myfyriwr PhD - "Just transition pathways to net zero"

Cyn-fyfyrwyr


Dr. Hannah Vallin - "Dietary analysis in Herbivores"

Dr. Ben Roberts - "Tracking grazing behaviour"

Philippa King  - (MPhil) Reintroduction of golden eagles

Megan Quail - myfyriwr PhD

Dr. Daniel Forster - Soil/plant/animal interactions

Lauren Scholfield Myfyriwr blwyddyn mewn diwydiant2023-2024

Aine Lynch Myfyriwr blwyddyn mewn diwydiant 2021-2022

Jessica Barnes Myfyriwr blwyddyn mewn diwydiant 2021-2022

Cysylltiadau â phrosiectau eraill

Isod gallwch ddod o hyd i ystod o daflenni gwybodaeth am brosiectau sydd wedi'u cwblhau ym Pwllpeiran.

 

Cyhoeddiadau

Cyhoeddiadau

Mwy o gyhoeddiadau ar y Porth Ymchwil »

Straeon Effaith

Systemau Pori Ucheldir

Ariannir gan: