Cadair newydd Amaethyddiaeth Gynaliadwy

19 Gorffennaf 2010
Cafwyd hwb i ymchwil i broblemau diogelwch bwyd yn fyd eang diolch i bartneriaeth newydd rhwng Waitrose a Phrifysgol Aberystwyth.

Yn y trefniant cyntaf o’i fath yn y Deyrnas Unedig, mae’r archfarchnad yn noddi Cadair ym maes Amaethyddiaeth Gynaliadwy yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) Prifysgol Aberystwyth. Cadarnhawyd mai’r Athro Gareth Edwards-Jones a benodwyd i’r Gadair ac y bydd ef yn dechrau yn y swydd ym mis Medi 2010.

Mae’r penodiad yn rhan o cyd benodiad arloesol gyda Phrifysgol Bangor a bydd yr Athro Edwards-Jones yn cyfuno’i waith yng Nghadair Waitrose mewn Amaethyddiaeth Gynaliadwy, â’i swydd yn Athro Amaethyddiaeth ac Astudiaethau Defnydd Tir ym Mangor.

Mae uwch benodiad fel hwn yn adlewyrchu ymrwymiad Waitrose i ganfod atebion tymor hir er mwyn datrys materion megis diogelwch bwyd a materion eraill sy’n effeithio ar amaethyddiaeth yn y DU.
Meddai’r Athro Edwards-Jones “Un o’r meysydd allweddol fydd edrych ar y ffordd y bydd yn rhaid i ffermwyr addasu a newid i gwrdd â gofynion defnyddwyr. Rydyn ni eisiau pontio’r gagendor gwybodaeth rhwng ffermwyr ac adwerthwyr trwy weld sut y gallant gydweithio’n fwyaf effeithiol. Y manteision i’r defnyddwyr fydd lefelau uwch o ddiogelwch bwyd a chynnyddu effeithiolrwydd wrth gynhyrchu bwyd.

“Bydd hyn yn cynnwys edrych ar y ffordd y mae’r gadwyn gyflenwi’n gweithio ar hyn o bryd – er enghraifft sut y gall bwyd aros ar ei orau, sicrhau fod iddo’r cynnwys maethynnol mwyaf posibl a’i fod ar ei fwyaf ffres,” aeth yr Athro Edwards-Jones yn ei flaen.

Bydd ymchwil i gynaliadwyedd hefyd yn rhan bwysig o’r swyddogaeth. Bydd yr Athro Edwards-Jones yn edrych ar y ffordd y mae hyn yn effeithio ar yr amgylchedd ond hefyd yn ystyried sut i gynnal cymuned wledig iach.

“Mae’n hanfodol nad yw ein hymchwil yn edrych ar bynciau yn ynysig. Mae gwarchod yr amgylchedd yn allweddol i ddyfodol amaethyddiaeth y DU ond ar yr un pryd rhaid sicrhau y gall ffermwyr redeg busnesau sy’n gwneud elw,” meddai’r Athro Edwards-Jones wrth derfynu.

Mae diwydiant amaeth y DU yn mynd trwy gyfnod o newid sylweddol wrth fynd i’r afael â mwyfwy o faterion. Ar ben hyn, mae clefydau anifeiliaid a phlanhigion yn fygythiadau parhaus y bydd yn rhaid i ffermwyr a thyfwyr ymlafnio yn eu herbyn yn y dyfodol, ynghyd â materion cysylltiedig â diogelwch bwyd a phwysau ar gynhyrchiant.

Meddai Heather Jenkins, Cyfarwyddwr Strategaeth Amaethyddol i gwmni Waitrose, “Bydd y swyddogaeth newydd yn arwain ymchwil hollbwysig i edrych sut y gall amaethyddiaeth y DU fod yn ddatrysiad i’r materion taer hyn. Gall yr Athro Edwards-Jones gyfuno ei wybodaeth am ffermio â gwyddoniaeth wrth ymchwilio am atebion i anghenion y diwydiant.”

Bu’r Athro Edwards-Jones eisoes yn gweithio gyda Waitrose i edrych sut y gall ffermwyr leihau eu hôl troed carbon. Mae’r prosiect yn hanfodol bwysig i leihau a rheoli effeithiau amaethyddiaeth er lles tymor hir yr amgylchedd. 

Dywedodd yr Athro Wayne Powell, Cyfarwyddwr IBERS “Mae penodiad Gareth Edwards-Jones i Gadair Waitrose mewn Amaethyddiaeth Gynaliadwy yn unigryw am ei fod y cyntaf o’i fath yn y DU, am fod yn bartneriaeth rhwng Prifysgolion Aberystwyth a Bangor ac am lunio cysylltiadau rhwng amaethyddiaeth, gwyddoniaeth ac un o’r adwerthwyr mawr mwyaf blaengar a phell weledol. Rydw i wrth fy modd â phenodiad Gareth ac edrychaf ymlaen i weithio gydag ef.”

Yr Athro Gareth Edwards-Jones
Mab fferm o Sir Ddinbych yw Gareth Edwards-Jones ac mae ei ddiddordebau ymchwil yn rhychwantu pob math o faterion yn gysylltiedig â chynhyrchu bwyd a defnydd doeth o’r amgylchedd. Mae’r rhain yn cynnwys cyfrifo carbon, polisi amaethyddol a’r amgylchedd, economeg cadwraeth natur, seicoleg gwneud penderfyniadau ynghylch ffermio a datblygiadau amaethyddol yng Nghymru.

Waitrose
Mae gan Waitrose 231 o siopau yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.  Mae’r data Kantar diweddaraf (12 wythnos yn dod i ben 13 Mehefin 2010) yn dangos bod Waitrose yn cyflawni twf blwyddyn-ar-flwyddyn o 11.2% - dros deirgwaith cyfartaledd y farchnad, ac yn cynyddu ei gyfran o’r farchnad i 4.21%.  Cafodd ei berfformiad cryf ei ysgogi gan gyflwyniad y gyfres nwyddau ‘Waitrose essential’, trosglwyddiad llwyddiannus rhai o’r siopau a bwrcaswyd oddi wrth Somerfield, ac wrth i’r gwasanaeth danfon nwyddau i’r cartref am ddim beri twf cyflym iawn mewn prynu ar lein. Mae Waitrose, sydd yn rheolaidd yn cael ei phleidleisio yn ‘hoff archfarchnad Prydain’†, yn cyfuno cyfleustra archfarchnad ag arbenigedd a gwasanaeth siopau arbenigol – yn ymroddedig i gynnig bwyd o safon da sy’n dod o ffynonellau cyfrifol, wedi ei gyfuno â gwasanaeth o safon uchel i’r cwsmer. (www.waitrose.com)

† Dyfarniad cyfredol, Telegraph Magazine Shop Awards, Arolwg Bodlonrwydd ag Archfarchnadoedd Cylchgrawn Which?

IBERS – Sefydliad y Gwyddorau Biolegol Amgylcheddol a Gwledig, Prifysgol Aberystwyth.
Mae IBERS yn ganolfan ragoriaeth a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer astudiaethau ym maes y gwyddorau biolegol, amgylcheddol a gwledig.
Mae’n sefydliad unigryw mewn Addysg Uwch yn y DU sy’n elwa ar arbenigedd academaidd i ymgymryd ag ymchwil arloesol i wella arferion amaethyddol ac i ddarparu gwybodaeth er mwyn creu polisi. Mae’r ystod eang o waith a wneir yn cwmpasu addysgu, ymchwil, menter a throsglwyddo gwybodaeth sy’n galluogi IBERS i chwarae rhan werthfawr yn yr ymdrech byd eang i fynd i’r afael â rhai o heriau mwyaf taer y byd.

Sefydlwyd IBERS ym mis Ebrill 2008 yn sgil uno Sefydliad Ymchwil Tir Glas a’r Amgylchedd (IGER), a oedd yn rhan o Gyngor Ymchwil y Gwyddorau Biolegol a Biotechnoleg(BBSRC), a Phrifysgol Aberystwyth. Mae IBERS yn parhau i dderbyn cyllid sylweddol ar gyfer ymchwil gan y BBSRC ac yn elwa o gymorth ariannol Llywodraeth y Cynulliad, DEFRA a’r Undeb Ewropeaidd.
Mae IBERS yn cyflogi 300 o staff, mae ganddo drosiant blynyddol o £25 miliwn a’r sefydliad yw’r adran fwyaf yn y DU ym maes gwyddorau’r tir. Y mae buddsoddiad sylweddol o £55 miliwn ar y gweill er mwyn cyflawni’r weledigaeth hon.

Manylion Cyswllt
Y Wasg a Chysylltiadau Cyhoeddus
Prifysgol Aberystwyth
9 Maes Lowri
Aberystwyth
Ceredigion

Ffôn: 01970 621763
Ebost: cyfathrebu@aber.ac.uk