Llongyfarchiadau gwresog i Dr Mari Davies ar ennill ei doethuriaeth!

Dr Mari Davies
17 Gorffennaf 2026
Llongyfarchiadau gwresog i Dr Mari Davies ar ennill ei doethuriaeth!
Rydyn ni wrth ein bodd bod ein cydweithiwr Dr Mari Davies wedi graddio ddoe ar ôl cwblhau doethuriaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Mae Mari bellach yn gweithio fel Cymrawd Ymchwil Ôl-ddoethurol (PDRA) yn y tîm Systemau Amaethyddol yma yn IBERS. Fel rhan o brosiect Gwydnwch Glaswelltir ar gyfer Sero Net (LUNZ), mae hi'n parhau i gyfrannu at ymchwil sy'n blaenoriaethu cynaliadwyedd a gwydnwch systemau amaethyddol.
Teitl PhD Mari oedd Mewnwelediad ar effeithlonrwydd defnydd adnoddau ysgarthion ar ffermydd da byw. Yn ystod ei hastudaiethau, bu’n edrych ar effeithlonrwydd defnydd maetholion a rheolaeth nitrogen mewn systemau da byw yng Nghymru, gan gyfuno ei hymchwil â gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid, dysgu peirianyddol a modelu amgylcheddol er mwyn gwella'r ddealltwriaeth o reolaeth gynaliadwy ar faetholion.
Camp arwyddocaol arall oedd i Mari gwblhau ei doethuriaeth yn gyfan gwbl trwy gyfrwng y Gymraeg, gan amlygu pwysigrwydd y Gymraeg fel iaith ymchwil a chyfathrebu gwyddonol.
Hoffen ni hefyd estyn ein diolch diffuant i staff Adran Gwyddorau Bywyd y Brifysgol a phob un o oruchwylwyr Mari am eu harweiniad, eu hanogaeth a'u cefnogaeth drwy gydol ei thaith ddoethurol
Gan bawb yma yn IBERS, Dr Davies – llongyfarchiadau mawr a dymunwn pob llwyddiant i ti wrth i ti barhau â dy yrfa ymchwil!
