Prifysgol Aberystwyth yn dangos ymchwil i Weinidogion yn Llundain

Ysgrifennydd Cymru David TC Davies (dde) a Dr Kerrie Farrar o Brifysgol Aberystwyth (chwith)

Ysgrifennydd Cymru David TC Davies (dde) a Dr Kerrie Farrar o Brifysgol Aberystwyth (chwith)

18 Hydref 2023

Mae gwyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth wedi trafod eu hymchwil gyda Gweinidogion Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol mewn digwyddiad yn Llundain yn arddangos y gorau o ymchwil ac arloesi Cymru.

Dangosodd Dr Kerrie Farrar a’r Athro Richard Lucas eu hymchwil ar Miscanthus a’r prosiect mapio tir byd-eang ‘Daear Byw’ yn y digwyddiad a fynychwyd gan Ysgrifennydd Cymru David TC Davies a’r Gweinidog Gwyddoniaeth, George Freeman.

Swyddfa Cymru a Rhwydwaith Arloesi Cymru oedd wedi cynnal y digwyddiad yn Lancaster House a oedd yn tynnu sylw at gryfder ac ehangder ymchwil prifysgolion Cymru, a gallu’r ymchwil i sicrhau manteision amlwg i gymunedau yng Nghymru, y DU a ledled y byd. 

Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i fuddsoddi bron i £40 biliwn mewn ymchwil a datblygu rhwng 2022 a 2025. Mae prifysgolion Cymru mewn sefyllfa dda i gael gafael ar ragor o gyllid ar gyfer ymchwil, gydag ymdrech i gynyddu’r cyllid i ardaloedd yn y DU y tu allan i dde-ddwyrain Lloegr o leiaf 40% erbyn 2030.    

Dywedodd David TC Davies, Ysgrifennydd Cymru:  

"Roedd yn bleser gennyf groesawu prifysgolion Cymru i'r digwyddiad arbennig iawn hwn a dangos ymrwymiad Llywodraeth y DU i'r sector addysg uwch.  Roedd yn gyfle gwych i UKRI gael blas ar rywfaint o'r gwaith ymchwil ac arloesi anhygoel sydd eisoes yn digwydd yng Nghymru ar draws ein holl brifysgolion.   

"Rwyf am i brifysgolion Cymru chwarae rhan hollbwysig wrth osod y DU ar flaen y gad o ran ymchwil a datblygu, ac rwy'n gobeithio bod y digwyddiad hwn wedi ein helpu i wneud cynnydd tuag at y nod cyffredin hwnnw."    

Dywedodd yr Athro Angela Hatton,Dirprwy Is-Ganghellor dros Ymchwil, Cyfnewid Gwybodaeth ac Arloesi ymMhrifysgol Aberystwyth: 

"Roedd yn bleser cael cwrdd â’r Gweinidigion ac roedd yn gyfle gwych i dynnu sylw at rywfaint o’r gwaith ymchwil ac arloesi o safon byd-eang sy’n digwydd ym Mhrifysgol Aberystwyth.

"Gyda sector ymchwil ac arloesi sy'n cael ei ariannu'n gynaliadwy, gallwn barhau i greu effaith economaidd a chymdeithasol ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau'r dyfodol." 

Dywedodd y Fonesig Athro Ottoline Leyser, Prif Weithredwr UKRI:   

"Mae yna gryfderau ymchwil ac arloesi nodedig ym mhrifysgolion Cymru, ac yn system ymchwil ac arloesi ehangach Cymru. Pan rwyf wedi ymweld â Chymru a chwrdd â rhanddeiliaid yng Nghymru, rwyf wedi siarad â llawer o bobl wych, gan gynnwys ymchwilwyr ac entrepreneuriaid ar ddechrau eu gyrfa, technegwyr, y gymuned leol ac arweinwyr ymchwil byd-eang.  

"Mae prifysgolion Cymru yn llwyddiannus iawn wrth ennill cyllid ymchwil o bob rhan o UKRI, gyda chyfraddau llwyddiant yn debyg i weddill y DU. Mae'r prosiectau hyn yn dangos yn gadarn sut mae prifysgolion Cymru yn datblygu ymchwil ar draws ystod eang o feysydd, ac yn sbarduno arloesedd a thwf economaidd, sydd o fudd i'r DU gyfan a thu hwnt."