Miss Maria Da Costa

Miss Maria Da Costa

Research Technician

IBERS

Manylion Cyswllt

Proffil

Dyddiad ymuno a swydd flaenorol

Ymunodd Maria â RBI ym mis Mehefin 2022. Cyn hynny roedd wedi gweithio fel cydymaith ymchwil ar gyfer meithrin gallu yn YBA.

Prif gyfrifoldebau yn y swydd flaenorol

Ymhlith pethau eraill, helpodd i hyrwyddo partneriaethau trosglwyddo gwybodaeth er mwyn cynyddu datblygiad busnes yn y brifysgol.

Addysg a phrofiad gwaith

Cyn dechrau yn y swydd hon, cwblhaodd Maria BSc (Anrh) mewn Gwyddor Ceffylau ym Mhrifysgol Hartpury, ac yna MSc mewn Gwyddor Ceffylau ym Mhrifysgol Aberystwyth. Yn ogystal, yn ystod ei hastudiaethau, bu ganddi nifer o swyddi yn y sectorau manwerthu a lletygarwch.

Profiad a gwybodaeth

Mae astudiaethau Maria a'i phrofiadau gwaith blaenorol wedi rhoi sgiliau cryf iddi mewn rheoli amser a threfnu. Yn ogystal, mae ei rolau blaenorol mewn lletygarwch wedi gwella ei sgiliau wyneb yn wyneb a’i galluoedd cyfathrebu.

Prif gyfrifoldebau o fewn YBA

Mae Maria yn darparu cymorth gweinyddol ac yn cyflawni dyletswyddau Cynorthwy-ydd Personol ar gyfer holl faterion y CAYC. Mae hi'n cydlynu trefniadau ac yn cymryd cofnodion mewn pwyllgorau a chyfarfodydd gwaith.

Rhan fwyaf pleserus o weithio ym Mhrifysgol Aberystwyth

Hoff ran Maria o'r swydd hon yw dod i adnabod y gwahanol fathau o brosiectau ac ymchwil sy'n digwydd yn y brifysgol. Yn ogystal, mae hi'n mwynhau gweithio gyda'r bobl yn ei hadran.