Y gymdeithas yn pegynnu ar ymfudo - cyflwyniad gan academydd blaenllaw

Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol

Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol

21 Hydref 2025

Bydd ysgolhaig blaenllaw ym meysydd ymfudo a gwleidyddiaeth yn traddodi darlith uchel ei bri ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ddiweddarach y mis hwn.

Yr Athro Bridget Anderson fydd yn rhoi Darlith Goffa Flynyddol EH Carr ar gyfer 2025 - darlith a ystyrir yn eang yn rhan o un o'r cyfresi darlithoedd mwyaf nodedig ym maes gwleidyddiaeth ryngwladol - am 6:00pm ddydd Iau 23 Hydref.

Bydd y ddarlith, ‘Banal Citizens and Fantasy Migrants: Nationalism, Labour and Movement', yn archwilio'r pegynnu sydd wedi digwydd mewn llawer o wledydd ledled y byd dros bwnc ymfudo.

Nod y ddarlith yw ystyried yr ymfudwyr a’r dinasyddion gyda'i gilydd, 'i gydnabod y gwahaniaethau, ond heb wneud rhagdybiaethau amdanynt' ac i nodi'r prosesau y mae’r ymfudwr a’r dinesydd yn cael eu creu drwyddynt.

Athro Ymfudo, Symudedd a Dinasyddiaeth ym Mhrifysgol Bryste yw Bridget Anderson. Mae ei hymchwil yn archwilio symudiadau’r ddynoliaeth, yn ogystal â’r profiadau, y wleidyddiaeth, y polisïau a’r arferion cysylltiedig, gan ddechrau o safbwynt sy’n cydnabod mai lluniadau cymdeithasol a chyfreithiol yw’r gwahaniaethau rhwng 'ymfudwr' a 'dinesydd'. Hi yw Cyfarwyddwr Symudeddau Ymfudo Bryste (Migration Mobilities Bristol - MMB), sydd yn Ganolfan Ymchwil Gyfadrannol ryngddisgyblaethol sy’n rhychwantu’r Celfyddydau, y Gyfraith a'r Gwyddorau Cymdeithasol.

Wrth siarad am y ddarlith a fydd yn agored i'r cyhoedd, dywedodd yr Athro Berit Bliesemann de Guevara, Cyfarwyddwr Ymchwil yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol:

"Trwy drafod ymfudo a symudedd dynol, nid fel bygythiad ond yn 'rhan o fywyd a byw, sy’n drwch o bosibiliadau ar gyfer trawsnewid, cyfnewid a chysylltiadau', mae'r Athro Anderson - yn ogystal â rhoi un o bynciau llosg ein hoes yn ei gyd-destun ehangach - hefyd yn ein gwahodd i ailfeddwl beth mae'n ei olygu i fod yn 'ddinesydd’ neu'n ‘ymfudwr' a sut mae'r categorïau hyn, sydd wedi’u llunio’n gymdeithasol, wedi'u cydblethu â’i gilydd. Rydym wrth ein bodd yn cael croesawu’r Athro Anderson i roi darlith yn ein Adran."

Noddir y ddarlith gan y cyfnodolyn International Relations a'i gyhoeddwr Sage, yn ogystal â Sefydliad Coffa David Davies (DDMI).

Bydd y ddarlith gyhoeddus, ‘Banal Citizens and Fantasy Migrants: Nationalism, Labour and Movement' yn cael ei chynnal am 6.00pm ddydd Iau 23 Hydref ym Mhrif Neuadd Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol ar Gampws Penglais Prifysgol Aberystwyth.