Cynyddu defnydd y Gymraeg yn y gweithle – ymchwil newydd

Dr Elin Royles o'n Hadran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol
18 Awst 2025
Mae angen dwysáu ymdrechion i gynyddu’r defnydd o’r iaith Gymraeg yn y gweithle, yn ôl adroddiad newydd.
Mae’r adroddiad gan Dr Elin Royles o Brifysgol Aberystwyth yn cynnwys 13 o argymhellion ar sut i wella arfer da yn y berthynas rhwng yr economi, yr iaith a’r gweithle ar draws sectorau gwahanol.
Comisiynwyd yr astudiaeth gan gwmni Wavehill fel rhan o werthusiad o raglen Arfor II – rhaglen gafodd ei hariannu gan Lywodraeth Cymru yn dwyn ynghyd awdurdodau lleol Gwynedd, Môn, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin i ddatblygu cynlluniau â’r nod o hybu datblygiad economaidd, a thrwy hynny, rhoi hwb i ragolygon yr iaith Gymraeg.
Er fod y gwaith ymchwil wedi craffu ar y pwnc er budd datblygiadau yn y pedair sir gorllewinol yma, dywed Dr Royles y byddai gweithredu llawer o’r argymhellion fwyaf perthnasol i gyrff sy’n arwain ar y Gymraeg a’r economi ar lefel genedlaethol ar draws Cymru.
“Rydyn ni gwybod bod gwahanol ymdrechion i gefnogi datblygu cynlluniau iaith mewn gweithleoedd yng Ngwlad y Basg wedi arwain at arbenigedd helaeth dros y ddau ddegawd diwethaf, ac mae ‘na le i ni ddysgu mwy o’r hyn sy’n digwydd yno,” meddai Dr Royles, sy’n Ddarllenydd yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth.
“Hyd yma, mae llawer o’r pwyslais wedi bod ar y modd y gall y Gymraeg fod yn fantais economaidd i fusnesau a sut mae cynyddu’r cyfleon i gwsmeriaid ddefnyddio’r iaith wrth ymwneud gyda chwmnïau preifat. Beth mae’r adroddiad yma yn ei nodi yw’r cyfleon pellach i ddatblygu sut ydyn ni’n trafod rôl gweithleoedd mewn hyrwyddo iaith a’r dulliau o gefnogi’r ddefnydd o’r Gymraeg mewn busnesau, cwmnïau cydweithredol a mentrau cymdeithasol. Mae nifer o’r argymhellion hefyd yn berthnasol i’r sector gyhoeddus.”
Ymlith yr argymhellion mae:
- sefydlu cynllun i rannu arfer da ac arloesi o ran rheolaeth iaith ac annog defnydd iaith mewn gweithleoedd ymysg busnesau yng Nghymru
- gwaith i sefydlu’r arferion gorau o ran sut all mentrau cymdeithasol a chydweithredol ymgorffori’r Gymraeg yn eu dulliau gweithredu. Datblygu canllaw arfer da ar sail y gwaith a dull iddynt asesu eu gwerth ieithyddol.
- ailasesu’r gefnogaeth a’r trefniadau sydd mewn lle i annog a chyfeirio cyrff i ddatblygu eu defnydd o’r Gymraeg fel iaith y gweithle, yn fewnol ac yn allanol gan gynnwys ar lefel arweinyddiaeth.
- cymryd camau i gynyddu statws a defnydd y Gymraeg fel iaith gwaith mewn gweithleoedd sector gyhoeddus fel cam cadarnhaol ynddo’i hunan ac i ddylanwadu ar sectorau eraill i arwain ar ddefnydd iaith.
Ariannwyd yr ymchwil fel rhan o gytundeb cwmni Wavehill i werthuso rhaglen Arfor II. Mae rhestr lawn o’r argymhellion i’w gweld ar wefan Prifysgol Aberystwyth: