Deallusrwydd Artiffisial
Nod y dudalen hon yw rhoi trosolwg i chi o'n canllawiau DA yn ogystal ag ystyried sut y gellir ei ddefnyddio ar draws nifer o swyddogaethau'r Brifysgol.
Yr offeryn DA sy'n cael ei argymell gan y Brifysgol yw Microsoft Copilot. Mae'n rhan o'n Trwydded Microsoft ni.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau cyffredinol am ddefnyddio DA, cysylltwch â'r Gwasanaethau Gwybodaeth (gg@aber.ac.uk). Ar gyfer myfyrwyr, os oes gennych ymholiadau am y defnydd derbyniol o DA ar gyfer eich aseiniadau, cysylltwch â'ch tiwtor neu gydlynydd modiwl.
Datganiad a Diogelwch
Mae llond gwlad o adnoddau DA trydydd parti ar gael. Fel gyda phob meddalwedd trydydd parti, dylech sicrhau eich bod yn ei ddefnyddio'n ddiogel, yn gyfrifol ac yn foesegol.
Yr offeryn DA sy'n cael ei argymell gan y Brifysgol yw Microsoft Copilot. Mae'n rhan o'n Trwydded Microsoft ni.
Os ydych chi'n defnyddio meddalwedd trydydd parti, gwnewch yn siŵr nad ydych chi'n rhoi unrhyw wybodaeth bersonol sy'n ymwneud â chi'ch hun neu eraill i mewn i’r feddalwedd. Cofiwch ddarllen Polisi Preifatrwydd y cynnyrch i sicrhau eich bod yn gwybod pa ddata personol mae'r meddalwedd yn ei gasglu amdanoch chi a sut a lle mae'ch data yn cael ei storio.
Gwelwch ein datganiad ar y defnydd o DA Cynhyrchiol am fwy o wybodaeth.
Am arweiniad manylach ar ddiogelwch, darllenwch y Canllawiau cyffredinol ar ddefnyddio DA yn ddiogel
Os ydych chi'n poeni eich bod wedi torri rheolau data, e-bostiwch llywodraethugwyb@aber.ac.uk cyn gynted â phosibl a rhowch y wybodaeth y gofynnir amdani yn y canllawiau Adrodd ynglyn â thorri rheolau data
Defnyddio DA ar gyfer eich astudiaethau
Mae llu o fanteision i ddefnyddio DA fel rhan o'ch astudiaethau, cyn belled â'i fod yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd foesegol a diogel.
Gall eich helpu i greu strwythur, cynorthwyo gyda fformatio, adolygu tôn eich gwaith ysgrifennu, dehongli data ac egluro ystyr.
Mae eich llyfrgellwyr pwnc wedi bod yn gweithio ar ganllawiau ar gyfer ei ddefnyddio.
Mae hynny’n cynnwys:
- Canllaw i Fyfyrwyr ar Ddefnyddio DA Cynhyrchiol.pdf / Canllaw i Fyfyrwyr ar Ddefnyddio DA Cynhyrchiol.doc
- Datganiad defnydd offer Deallusrwydd Artiffisial (AI)
- LibGuides – DA a'r llyfrgell: https://libguides.aber.ac.uk/deallusrwydd-artiffisial
- LibGuides – Ymwybyddiaeth ynglŷn â chyfeirnodi a llên-ladrad 5 (Cyfeirnodi allbynnau deallusrwydd artiffisial): https://libguides.aber.ac.uk/c.php?g=683637&p=5128363
- Blog y Llyfrgellwyr – Cyfres barhaus o negeseuon am DA: https://wordpress.aber.ac.uk/librarian/?lang=cy
- “Using AI responsibly in your studies” Gweithdai Sgiliau Aber
Mae'r Brifysgol wedi diweddaru ei rheoliadau ar Ymarfer Academaidd Annerbyniol, gan nodi bod llên-ladrad yn cynnwys cyflwyno gwaith a gynhyrchir gan DA a rhoi’r argraff mai eich gwaith chi yw e.
I helpu gyda materion tryloywder, efallai y gofynnir i chi ymgysylltu â datganiad defnydd offer sy'n amlinellu pa offer DA rydych chi wedi'u defnyddio.
Dylech ofyn am eglurhad gan eich tiwtoriaid academaidd os nad ydych yn siŵr a yw'n dderbyniol defnyddio DA yn eich astudiaethau neu aseiniadau.
Defnyddio DA ar gyfer eich gwaith addysgu
Mae'r Brifysgol wedi cynhyrchu canllawiau i staff am effaith DA ar weithgareddau dysgu ac addysgu, megis asesu:
Mae sesiynau hyfforddi ar gael i gydweithwyr ar:
- DA ar gyfer gweithgareddau dysgu ac addysgu
- Ailfeddwl asesu yn oes DA
Gall cydweithwyr archebu lle ar-lein.
Rydym wedi ychwanegu datganiadau asesu DA Cynhyrchiol i Gadwrfa Gwrthrychau Dysgu Blackboard er mwyn i gydweithwyr eu copïo i'w meysydd asesu. Gweler ein blogbost am ragor o wybodaeth.
Yn ogystal ag ystyried effaith DA ar asesu myfyrwyr, mae gan y Brifysgol offer ac adnoddau ar gael i helpu staff i gynnwys DA mewn ffordd ddiogel a moesegol yn eu dysgu a'u haddysgu.
Bellach mae gan Blackboard 'AI Design Assistant' sy'n golygu y gall cydweithwyr ei ddefnyddio yn eu cyrsiau. Mae hwn yn helpu cydweithwyr i greu strwythur ar gyfer eu cwrs, yn darparu syniadau ynghylch dylunio asesu, gweithgareddau cyfranogol, ac yn darparu syniadau ar gyfer cwestiynau a phrofion. Am ragor o wybodaeth, gweler Blackboard – Canllawiau Staff : Gwasanaethau Gwybodaeth , Prifysgol Aberystwyth
Cyn defnyddio'r offer, rydym yn annog cydweithwyr i ddarllen Egwyddorion Blackboard AI Design Assistant i sicrhau ei ddefnydd priodol.
Mae hyfforddiant ar gael i gydweithwyr. Gallwch archebu lle ar-lein.
Mae Vevox, meddalwedd pleidleisio, hefyd yn cynnwys cynhyrchydd cwestiynau DA er mwyn helpu cydweithwyr i greu ac adeiladu arolygon barn yn gyflymach. Darllenwch ganllawiau Vevox ar sut i ddefnyddio hwn.
Defnyddio DA ar gyfer eich ymchwil
Gall defnyddio DA mewn ymchwil fod â goblygiadau moesegol sylweddol. Mae canllawiau'n dal i gael eu datblygu yn y maes hwn, ond efallai y bydd canllawiau lleol ar gael ar gyfer eich adran neu ddisgyblaeth benodol chi. Mae arferion gorau cyffredinol ar gael yn y Canllawiau cyffredinol ar ddefnyddio DA yn ddiogel.
Os yw eich ymchwil yn dod o fewn cwmpas y Panel Moeseg Ymchwil, gallant adolygu unrhyw ddefnydd o DA yn eich prosesau ymchwil, boed hynny fel rhan o ymarfer paratoadol, neu fel elfen graidd o'r ymchwil. Mae rhagor o fanylion am waith y Panel Moeseg Ymchwil a'r prosesau cysylltiedig ar gael yn https://www.aber.ac.uk/cy/rbi/support-services/ethics/ Byddant hefyd yn gallu rhoi cyngor cyn i chi ddechrau unrhyw ymchwil neu adolygiad moesegol.
Mae crynodeb defnyddiol o'r ffactorau sydd angen eu hystyried wrth ddefnyddio DA mewn Ymchwil ar gael yma: https://ukrio.org/ukrio-resources/ai-in-research/
Defnyddio DA yn eich gwaith gweinyddol
Mae modd defnyddio DA ar gyfer gweithgareddau gweinyddol hefyd, megis crynhoi dogfennau hir, creu strwythur ar gyfer adroddiadau, ac ad-drefnu gwybodaeth rydych chi eisoes wedi'i hysgrifennu.
Mae'r Brifysgol yn argymell offeryn AI Copilot, sy'n rhan o'n Trwydded Microsoft.
Gweler y canllawiau ar ddefnyddio Copilot ar gyfer cynhyrchiant yma
Cofiwch osgoi lanlwytho gwybodaeth bersonol (am unigolion adnabyddadwy) neu wybodaeth gyfrinachol arall i Copilot.