Mynediad Agored - Cytundebau Trawsffurfiol

Mae Mynediad Agored yn golygu sicrhau bod cyhoeddiadau ymchwil ar gael yn rhad ac am ddim er mwyn i unrhyw un gael budd o ddarllen, a defnyddio’r ymchwil.

Y canlyniad yw fod yr ymchwil ar gael i lawer mwy o bobl nag erthygl mewn cyfnodolyn y mae’n rhaid tanysgrifio iddo. Gall hyn, yn ei dro, ysgogi rhagor o ymchwil a bwydo ‘cylch’ cyfathrebu ysgolheigaidd ehangach. Yn ogystal â hygyrchedd cyhoeddus, mae tystiolaeth glir y gall Mynediad Agored arwain at gynnydd mewn cyfeiriadau.

Mae Mynediad Agored hefyd yn annog ymgysylltiad cyhoeddus ag ymchwil, ymchwil sydd wedi cael ei ariannu gan arian cyhoeddus yn aml iawn. Mae’n rhan o fudiad ehangach i annog cyfnewid gwybodaeth, data ac adnoddau eraill yn rhad ac am ddim mewn ymgais i ehangu mynediad ac ysgogi creadigrwydd.

Ceir rhagor o fanylion am Fynediad Agored ar dudalennau’r Adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi: https://www.aber.ac.uk/cy/research/good-practice/open-access/

I gynorthwyo’r agenda Mynediad Agored ac i newid y model cyhoeddi ‘talu-i-ddarllen’ presennol yn raddol, mae’r Brifysgol wedi derbyn grant bloc gan UK Research and Innovation (UKRI). Caiff hwn ei weinyddu gan y Gwasanaethau Gwybodaeth a’r diben yw talu am ystod o gostau Mynediad Agored cymwys, o Gytundebau Trawsffurfiol gyda chyhoeddwyr sy’n cynnwys elfennau ‘Darllen’ a ‘Chyhoeddi’, i Gostau Prosesu Erthyglau unigol. 

Ceir manylion am y Cytundebau Trawsffurfiol a sut y gall awduron ddefnyddio eu lwfansau Mynediad Agored isod.

Cytundebau trawsnewidiol:

Mae UKRI yn aelod o cOAlition S https://www.coalition-s.org/ ac mae’n cefnogi Menter Mynediad Agored 2020 (OA2020) sy’n ceisio cyflymu’r newid i Fynediad Agored drwy fabwysiadu strategaethau i fynd ati’n systematig i dynnu cymorth ariannol oddi wrth lwyfannau cyhoeddi sy’n defnyddio wal dalu ac ail fuddsoddi’r cyllid hwnnw i gefnogi cyhoeddi Mynediad Agored. Mae cOAlition S yn annog cyhoeddwyr i ymrwymo i gytundebau trawsnewidiol yn fyd-eang ym mhob gwlad ac i rannu data o drefniadau o’r fath.

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi llofnodi nifer o Gytundebau Trawsnewidiol, a negodwyd gan y  Cydbwyllgor Systemau Gwybodaeth [https://www.jisc.ac.uk/full-guide/working-with-transitional-agreements], gyda chyhoeddwyr academaidd ar ran ymchwilwyr a phrifysgolion y DU. Mae’r cytundebau canlynol yn cynnig mynediad ‘darllen’ traddodiadol i gyfnodolion yn ogystal â ffyrdd amrywiol i awduron Aberystwyth gyhoeddi gwaith drwy fynediad agored aur.

Mae'r cytundebau trawsnewidiol hyn yn gymhleth ac yn amrywio'n fawr. Darllenwch eich gohebiaeth â'r cyhoeddwr yn ofalus a chysylltwch ag openaccess@aber.ac.uk os oes gennych unrhyw gwestiynau er mwyn osgoi unrhyw atebolrwydd personol am gostau.

Cytundeb Elsevier 1 Ionawr 2022 - 31 Rhagfyr 24

Mae Cytundeb Trosiannol Elsevier yn darparu ar gyfer cyhoeddi mynediad agored digyfyngiad i awduron cyfatebol ym Mhrifysgol Aberystwyth, yng nghylchgronau hybrid Elsevier, gan gynnwys cylchgronau hybrid o dan is-adrannau Cell Press a Lancet.  Mae'r rhain yn cyfateb i dros 2000 o gylchgronau gwahanol. Nid yw'r cytundeb hwn yn cynnwys cylchgronau mynediad cwbl agored (Aur).  I gael rhagor o fanylion, gweler: https://www.elsevier.com/open-access/agreements/jisc ; neu i ddefnyddio’r adnodd chwilio am gyfnodolyn, ewch i: https://agreements.journals.elsevier.com/jisc

Cyhoeddiadau Cymdeithas Gemegol America (ACS) 2022 - 2024

Mae'r Cytundeb hwn bellach yn cynnwys cyhoeddi digyfyngiad ym mhortffolio mynediad cwbl agored ACS, yn ogystal ag yn eu cylchgronau hybrid.  Am ragor o wybodaeth a chyfarwyddiadau ar sut i gyhoeddi o dan y Cytundeb, gweler: https://acsopenscience.org/open-access/purchasing-open-access/publish-open-access-read-publish-agreement/  

Gwasg Prifysgol Caergrawnt (CUP) -1 Ionawr 2021 - 31 Rhagfyr 2024

Mae'r cytundeb Darllen a Chyhoeddi hwn yn caniatáu ar gyfer cyhoeddi diderfyn, gan awduron cyfatebol y sefydliadau sy'n cymryd rhan

Am fanylion ar gyhoeddi trwy Open Access yng nghyfnodolion Gwasg Prifysgol Caergrawnt:

https://www.cambridge.org/core/services/aop-file-manager/file/5c1cf1f21548802b32cef991/OA-Publishing-Step-by-Step-Guide-Jan-2019.pdf 

Gwasg Prifysgol Rhydychain (OUP)

Company of Biologists – 1 Ionawr 2022 – 31 Rhagfyr 2024

O 1 Ionawr 2022 bydd awduron cyfatebol ym Mhrifysgol Aberystwyth yn gallu cyhoeddi nifer anghyfyngedig o erthyglau ymchwil Mynediad Agored yn eu cylchgronau mynediad cwbl agored - Disease Models & Mechanisms a Biology Open - yn ogystal â'u cylchgronau sy’n gofyn am danysgrifiad. Mae canllaw cam wrth gam ar sut i gyflwyno erthygl ar gael yma.

Cyhoeddiadau’r Sefydliad Ffiseg - 1 Ion 2024 - 31 Rhag 2026

Mae’r cytundeb yn cwmpasu mwy na 40 o gyfnodolion a reolir gan y Sefydliad. Mae’n caniatáu Taliadau Prosesu Erthyglau digyfyngiad i’r cyfnodolion hynny heb unrhyw gost ychwanegol. Mae nifer fach o gyfnodolion eraill yn gymwys am 70% o ostyngiad, ond bydd angen i’r awduron ddangos eu bod yn gymwys i’r cyhoeddwyr eu hunain. Mae dolen i’r rhestr o gyfnodolion, ynghyd â gwybodaeth bellach am y gostyngiadau, ar gael ar y dudalen hon: https://publishingsupport.iopscience.iop.org/questions/open-access-uk/

Y Gymdeithas Microbioleg : 1 Ion 2023 – 31 Rhag 2024

Bydd yr holl erthyglau a gyhoeddir yn nheitlau’r Gymdeithas lle daw'r awdur gohebol o Brifysgol Aberystwyth yn rhai Mynediad Agored bob tro. Mae’r holl fanylion ar gael yma: https://www.microbiologyresearch.org/publish-and-read

 

Llyfrgell Agored y Dyniaethau - 1 Mai 2021 - 30 Ebrill 2024

Mae Llyfrgell Agored y Dyniaethau (OLH) yn llwyfan mynediad agored Aur nid-er-elw ar gyfer cyfnodolion (27 o gyfnodolyn ar hyn o bryd) ac yn gyhoeddwr llyfrau ym maes y Dyniaethau. Mae OLH  yn gweithredu modwl ariannu cydweithredol a chyfunol gan hwyluso mynediad agored drwy aelodaeth sefydliadol. Am ragor o wybodaeth gweler: https://www.openlibhums.org/

Y Gymdeithas Gemeg Frenhinol (RSC) Darllen a Chyhoeddi 2022-2024

Mae Cytundeb Trawsnewidiol yr RSC yn caniatáu ar gyfer cyhoeddi mynediad agored yn eu cylchgronau hybrid hyd at derfyn cenedlaethol y cyfrifwyd ei fod yn ddigonol ar gyfer yr holl gyhoeddi Mynediad Agored drwy gydol cyfnod y Cytundeb.  I gael rhagor o wybodaeth am gyhoeddi mynediad agored gyda'r RSC, gweler:

https://www.rsc.org/journals-books-databases/open-access/

Taylor & Francis -1 Ionawr 2024 - 31 Rhagfyr 2026

Gall awduron gyhoeddi eu herthygl drwy lwybr mynediad agored aur â Thâl Cyhoeddi Erthygl (APC) a ariennir yn llawn. Bydd awduron yn gallu dewis cyhoeddi drwy lwybr mynediad agored os derbynnir eu herthygl i'r cyfnodolyn yn dilyn adolygiad cymheiriaid.

Mae pob cyfnodolyn ‘Open Select’ Taylor & Francis yn rhan o’r cytundeb ond NID cyfnodolion mynediad agored llawn. Mae’n bosibl gallai fod uchafswm ar y nifer o Daliadau Cyhoeddi Erthygl ar gyfer cyfnodolion sy’n codi £3,000 neu ragor.

Am fanylion pellach, gweler:

Springer/Nature: 1 Ion 2023 – 31 Rhag 2025

Mae’n bosibl y bydd awduron gohebol sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Aberystwyth yn gallu cyhoeddi mewn 2,000 a mwy o gyfnodolion ledled portffolio Springer Nature ac mewn cyfnodolion eraill a reolir gan y grŵp cyhoeddi.  Ewch i’r dudalen hon ar y we i gael y manylion:

https://www.springernature.com/gp/open-research/institutional-agreements/oaforuk

Ac os oes gennych ymholiadau mwy penodol sy'n ymwneud ag erthygl y bwriedir ei chyhoeddi, cysylltwch ag oastaff@aber.ac.uk

Wiley 1 Ionawr 2024 - 31 Rhagfyr 2025

Mae PA wedi ymrwymo i Gytundeb Trawsnewidiol a aildrafodwyd â Wiley sy'n cwmpasu'r rhan fwyaf o gyhoeddiadau Mynediad Agored Aur a Wiley hybrid (a brand Hindawi). Dylai awduron wirio cymhwysedd trwy gyfeirio at y dudalen hon, i ddechrau:   https://authorservices.wiley.com/author-resources/Journal-Authors/open-access/affiliation-policies-payments/jisc-agreement.html  

 

 

 

 

Cytundebau Mynediad Agored Trawsnewidiol - Cwestiynau Cyffredin

Beth yw cytundebau trawsnewidiol?

Mae cytundebau trawsnewidiol â chyhoeddwyr (a elwir weithiau'n 'gytundebau pontio') yn caniatáu i bapurau y mae eu hawdur gohebu ym Mhrifysgol Aberystwyth gael eu gwneud yn bapurau mynediad agored ar wefan y cyhoeddwr, a does dim cost i’r awdur. Maent yn hwyluso'r gwaith o gydymffurfio â gofynion mynediad agored cyllidwyr, ac maent yn cefnogi egwyddorion Plan S.

Mae cytundebau trawsnewidiol yn galluogi cyhoeddwyr i newid y cyfnodolion y mae'n rhaid tanysgrifio ar eu cyfer yn gyfnodolion mynediad agored llawn. Mae cost y mynediad agored hwn wedi'i chynnwys yn ein taliad tanysgrifio ni fel Llyfrgell, ac felly fe gânt eu galw weithiau'n
gytundebau "Darllen a Chyhoeddi".

Pa gytundebau sydd gan Aberystwyth?

Mae'r Llyfrgell yn adolygu cytundebau newydd yn rheolaidd, a chewch hyd i wybodaeth am ein cytundebau cyfredol ar dudalen we Mynediad Agored : Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth.

Beth os y w'r cyhoeddwr yn cynnig gostyngiad?

Nid yw'r gostyngiadau hyn â chyhoeddwyr yn gytundebau trawsnewidiol, ac mae'n dal angen talu am fynediad agored. Efallai y bydd angen ichi gael cyllid er mwyn manteisio ar y gostyngiadau hyn. Cysylltwch â openaccess@aber.ac.uk i gael rhagor o wybodaeth.

Pam nad yw Aberystwyth wedi ymrwymo i bob cytundeb?

Rhaid i gytundebau sicrhau gwerth am arian i Aberystwyth, a hynny ar gyfer elfennau "darllen" (tanysgrifio) a "chyhoeddi" (mynediad agored) y cytundeb. Rydym yn adolygu data defnydd a chyhoeddi, ac rydym yn gofyn am adborth oddi wrth academyddion wrth geisio penderfynu p’un a
ddylid ymrwymo i gytundeb newydd neu beidio, neu ddiweddu cytundeb nad yw'n bodloni anghenion Aberystwyth ar hyn o bryd, neu na fydd yn eu bodloni yn y dyfodol. Os yw cytundeb yn cael ei ddiweddu gan nad yw'n sicrhau gwerth am arian, gellir dyrannu'r gost i adnoddau eraill.

Sut y gall ymchwilwyr d defnyddio'r cytundebau hyn?

Am fod mynediad agored wedi'i gynnwys yn ein cytundebau, nid oes angen ichi ymgeisio am gyllid mynediad agored os yw'r awdur gohebu wedi'i gysylltu ag Aberystwyth. Bydd y cyhoeddwr yn trefnu bod y Llyfrgell yn cymeradwyo'r mynediad agored drwy gadarnhau eich cysylltiad â Phrifysgol Aberystwyth. Mae gan bob cyhoeddwr drefniant sydd beth yn wahanol, felly darllenwch eu canllawiau i gael rhagor o wybodaeth, neu anfonwch e-bost at openaccess@aber.ac.uk i gael cymorth.

Er mwyn manteisio ar y cytundebau hyn, rhaid i awduron gytuno i gyhoeddi o dan delerau trwydded CC-BY.

Y Gweithgor Mynediad Agored

Sut y gall ymchwilydd wybod os y w cyfnodolyn yn rhan o gytundeb a sut mae cael rhagor o wybodaeth a chymorth?

Dim ond cyfnodolion hybrid (tanysgrifio) y mae rhai cytundebau yn eu cynnwys. Cewch wybodaeth am ein cytundebau drwy fynd i dudalen we Mynediad Agored : Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth neu gallwch gysylltu â'r Gweithgor Mynediad Agored drwy e-bostio openaccess@aber.ac.uk.

Beth os nad yw'r cyfnodolyn yr wyf y n ei gyflwyno yn rhan o Gytundeb Trawsnewidiol?

Fel arfer, mae modd ichi gydymffurfio â gofynion cyllidwyr o ran mynediad agored drwy adneuo eich Llawysgrif Awdur a Dderbyniwyd (a elwir weithiau'n Ôl-Argraffiad) yn Pure. Cewch ragor o wybodaeth drwy fynd i dudalennau gwe Arferion Da i Ymchwilwyr.

Sage 1 Ion 2023 – 31 Rhag 2024

Mae hyn yn cwmpasu awduron gohebol Prifysgol Aberystwyth mewn cyfnodolion tanysgrifio a chyfnodolion hybrid, a cheir disgownt o 20% ar gyfnodolion Aur.   I gael yr holl fanylion ewch i: https://uk.sagepub.com/en-gb/eur/uk-jisc-agreement