Hygyrchedd
Mae Gwasanaethau Gwybodaeth (G.G.) yn gyfrifol am lyfrgelloedd Hugh Owen a Gwyddorau Ffisegol.
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu mynediad cyfartal i'n hadnoddau a'n gwasanaethau i bob defnyddiwr.
Rydym wedi enwebu Pwynt Cyswllt (PC ) gyda phwy y gallwch drafod eich gofynion tymor byr a thymor hir, does dim gwahaniaeth os yw yn anabledd parhaus neu dros dro.
Ein Cyfleusterau
- Mae desgiau addasadwy ar gael yn Llyfrgell Hugh Owen, Iris De Freitas a rhai ystafelloedd cyfrifiaduron
- Mae goleuadau addasadwy ar gael mewn mannau o Lyfrgell Hugh Owen
- Mae lampau Desg ar gael i'w benthyca o'r Ddesg Ymholiadau ym mhob llyfrgell
- Gellir benthyca trosluniau lliw a chwyddwydrau o’r ddesg ymholiadau i’w defnyddio ym mhob llyfrgell
- Darperir dolenni sain wrth bob pwynt gwasanaeth
- Mae rhybyddwyr byddar sydd yn gweithio gyda system larwm tân y llyfrgell ar gael i'w benthyca o'r Ddesg Ymholiadau
- Mae amrywiaeth o offer ar gael i'w benthyca o'r Ddesg Ymholiadau yn Llyfrgell Hugh Owen
- Mae amrywiaeth o feddalwedd wedi’i gosod ar y cyfrifiaduron yn y llyfrgelloedd a ystafelloedd cyfrifiaduron
- Mae sganio OCR ar gael ar bob argraffydd /copïwr ar y campws.
- Mae sganiwr Freedom Book a Pro Magnifier ar gael i'w defnyddio yn Carel 1 a ellir ei harchebu
- Mae clinigau un-i-un ar gael i helpu defnyddwyr â phroblemau yn ddefnyddio'r cyfleusterau a ddarparwn, er enghraifft adnoddau electronig, Blackboard, Microsoft Office neu feddalwedd eraill: http://www.aber.ac.uk/en/is/help/clinics/
Mae’r gwasanaethau canlynol ar gael i ddefnyddwyr sydd angen cymorth llyfrgell a TG ychwanegol.
Sylwch y bydd ceisiadau am lawer o'r gwasanaethau hyn yn dibynnu ar anghenion unigol fel yr argymhellir yn eich asesiad anghenion astudio
- Gwasanaeth Cyrchu Llyfrau
Gallwn drefnu i gasglu hyd at 10 llyfr o’r silffoedd gyda’r marciau dosbarth perthnasol, a’u cadw wrth Ddesg Ymholiadau’r Llyfrgell i chi eu casglu. Anfonwch eich rhestrau i gg@aber.ac.uk – byddwn yn cysylltu â chi pan maent yn barod i’w casglu, neu i roi gwybod i chi os nad ydynt ar gael. Sylwch y gallai fod angen 24 awr o rybudd ar gyfer y gwasanaeth hwn yn ystod cyfnodau prysur (ac eithrio penwythnosau a Gwyliau Banc).
- Gwasanaeth Llungopïo
Anfonwch restrau o eitemau ac unrhyw ofynion fformatio arbennig i gg@aber.ac.uk Sylwch efallai y bydd angen o leiaf 24 awr o rybudd ar gyfer y gwasanaeth hwn yn ystod cyfnodau prysur (ac eithrio penwythnosau a Gwyliau Banc). Bydd costau argraffu yn berthnasol.
- Copïau hygyrch o werslyfrau
Mae gan Brifysgol Aberystwyth Drwydded Addysg Uwch CLA, sy’n ein galluogi i gynhyrchu neu ofyn am gopïau hygyrch (oddi wrth ddeiliaid hawlfraint) ar gyfer pobl â nam ar eu golwg a defnyddwyr anabl eraill os nad oes fersiwn hygyrch addas ar gael i’w brynu.
- Benthyciadau drwy’r Post
Mae’r gwasanaeth hwn ar gael i fyfyrwyr sy’n methu dod i’r llyfrgell yn gorfforol ac sydd â hyn yn ofyniad yn eu hasesiad anghenion astudio. Anfonwch fanylion llawn o'r llyfr, a’r dyddiad y byddwch ei angen, i gg@aber.ac.uk
- Eich Diogelwch
Cysylltwch â’r Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr a’r Swyddfa Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd i drefnu Cynllun Personol Gadael Mewn Argyfwng (PEPEP) ar gyfer y Llyfrgell os yw’n berthnasol.
Ceir gwybodaeth fanwl am hygyrchedd yma yn ôl lleoliad penodol :
- Ystafelloedd Cyfrifiaduron
- Llyfrgell Hugh Owen
- Llyfrgell Hugh Owen Llawr E a F
- Iris De Freitas
- Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol
Croesawn eich adborth ynglyn â hygyrchedd ein gwasanaethau. Defnyddiwch ein ffurflen adborth.