Croeso i Gwasanaethau Gwybodaeth (G.G.) - Darllenwyr Cysylltiol
Mae’r Gwasanaethau Gwybodaeth yn darparu gwasanaethau TG a Llyfrgell i staff a myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn amodol ar Reoliadau, Polisïau a Chanllawiau’r Gwasanaethau Gwybodaeth.
Bydd arnoch angen cyfrif TG Prifysgol Aberystwyth a Cherdyn Aber i fedru defnyddio ein hadnoddau.
Nid oes gan Ddarllenwyr Cyswllt fynediad i'r ystod lawn o adnoddau electronig sydd ar gael i fyfyrwyr a staff.
Eich Cyfrif TG Prifysgol Aberystwyth yn eich galluogi i:
Bydd modd i chi actifadu eich Cyfrif TG Prifysgol ar-lein ar ôl i’ch cais am Ddarllenyddiaeth Gysylltiol gael ei brosesu. Anfonir e-bost atoch gyda chyfarwyddiadau ar gyfer gwneud hyn cyn gynted ag y bydd eich cyfrif yn barod.
Caiff eich Cerdyn Aber ei ddefnyddio at y dibenion canlynol:
- Benthyca o’r llyfrgell gan gynnwys defnyddio’r peiriannau hunan-fenthyca
- Defnyddio'r llyfrgell tu allan i oriau craidd (i ddod mewn neu i adael)
- Argraffu
- Llungopïo
- Sganio
Unwaith y byddwch wedi actifadu eich cyfrif TG dylech wneud cais am eich Cerdyn Aber arlein fel ei fod yn barod i chi pan fyddwch yn cyrraedd y campws.
Wi-fi
Mae Prifysgol Aberystwyth yn tanysgrifio i wasanaeth diwifr The Cloud.
- Gall unrhyw ymwelydd â’r campws gysylltu â The Cloud:
- Dewiswch The Cloud o’r rhestr o rwydweithiau diwifr sydd ar gael.
- Pan fyddwch wedi cysylltu agorwch eich porwr gwe ac adnewyddwch y dudalen.
- Bydd tudalen fewngofnodi The Cloud yn ymddangos
- Dewiswch Get Online or register now
- Dewiswch Free Cloud WiFi
- Os ydych chi wedi cofrestru i ddefnyddio The Cloud o’r blaen rhowch eich cyfeiriad e-bost a’ch cyfrinair
- Os nad ydych wedi cofrestru i ddefnyddio The Cloud o’r blaen cliciwch ar Create an Account
- Ar ôl mewngofnodi gallwch gael mynediad i’r rhyngrwyd.
- Cewch gymorth i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn ar dudalennau Cwestiynau Cyffredin The Cloud
- Mae’r gwasanaeth hwn ar gael ym mhob un o adeiladau gweinyddol ac addysgu’r Brifysgol, ond nid yn y neuaddau preswyl.