Llyfrgell Thomas Parry - Haf 2018

Ym mis Awst 2018, bydd Llyfrgell Thomas Parry ar Gampws Llanbadarn yn cau, a bydd y deunyddiau yno’n cael eu symud i Lyfrgell Hugh Owen. 

I gadw i fyny â datblygiadau diweddaraf y symud, ewch i’n blog https://wordpress.aber.ac.uk/library-project/

 

Pam mae Llyfrgell Thomas Parry’n cau?

Yn rhan o adolygiad o’r strategaeth ystadau, mae’r Brifysgol wedi penderfynu cynnal yr holl addysgu israddedig, amser-llawn ar Gampws Penglais erbyn mis Medi 2018, yn ogystal â symud swyddfeydd staff Busnes, y Gyfraith ac iMLA sydd yn Llanbadarn ar hyn o bryd. O ganlyniad i hyn bydd angen symud deunyddiau’r Llyfrgell sy’n cynorthwyo’r meysydd hyn draw i Lyfrgell Hugh Owen yn brydlon erbyn i’r cyfnod addysgu ddechrau.

Pryd fydd Llyfrgell Thomas Parry’n cau?

Y diwrnod olaf y bydd y llyfrgell ar agor yw dydd Gwener 10 Awst 2018

Pryd fyddwch chi’n symud stoc draw i Hugh Owen?

Byddwn yn dechrau symud pethau ddydd Llun 13 Awst 2018 a gobeithio y byddwn wedi gorffen ymhen 5 diwrnod, sef erbyn 17 Awst.

Am ba hyd y bydd y deunyddiau allan o gylchrediad?

Rydym yn anelu i gyfyngu’r amser y bydd y deunyddiau allan o gylchrediad i oddeutu 2 awr. Os ydych chi eisiau rhywbeth o Gasgliad Llyfrgell Thomas Parry ar ôl i’r llyfrgell gau, ond cyn iddo gyrraedd Hugh Owen, gallwch wneud cais amdano a dylem allu cael gafael ar y deunydd i chi. Unwaith y bydd ar y silffoedd yn Llyfrgell Hugh Owen, dylech allu fenthyca’r eitemau fel arfer. 

Sut mae gwybod ble mae dod o hyd i bethau?

Bydd catalog y llyfrgell yn cael ei ddiweddaru gyda’r lleoliadau newydd wrth i ni fynd ymlaen, a bydd cynlluniau llawr ar gael o’r cynllun newydd. O ystyried yr holl ddeunydd newydd bydd rhaid newid cynllun Llyfrgell Hugh Owen.

Pa newidiadau fydd i’r cynllun?

  • Bydd y Casgliad Celtaidd yn symud i Lawr F
  • Bydd prif gasgliad Llawr F yn cael ei ail-drefnu i redeg yn nhrefn dosbarthiad
  • Bydd Cylchgronau/Cyfnodolion yn ffurfio casgliad arbennig ar y llawr priodol
  • Bydd Gwyddoniaeth yn aros ar Lawr E
  • Bydd adnoddau ymchwil y gyfraith, adroddiadau achosion cyfreithiol a deddfwriaeth yn gyfagos i ddosbarth ‘K’ (y gyfraith) i ffurfio adran y gyfraith y llyfrgell

 

Ble fydd y deunydd o Lyfrgell Thomas Parry’n mynd?

Rydym yn cynllunio i’r deunydd hwn fod yn rhan o’r casgliad ar Lawr F, yn y man priodol yn y dilyniant, gyda Chyfnodolion ar silffoedd ar wahân. Bydd Casgliad Cyfeirio’r Gyfraith yn cael ei roi mewn dilyniant ar wahân ger llyfrau’r Gyfraith.

Beth am yr adnoddau yn Llyfrgell Thomas Parry? A fyddan nhw’n symud i Hugh Owen?

Rydyn ni’n edrych ar opsiynau i greu adnoddau ychwanegol yn Hugh Owen i ddarparu ar gyfer anghenion y myfyrwyr a oedd yn defnyddio Llyfrgell Thomas Parry, gan gynnwys yr ystafelloedd astudio mewn grwpiau, cyfrifiaduron, a loceri, a oedd i gyd ar gael 24/7 yn ystod y tymor.

A oes digon o le yn Llyfrgell Hugh Owen?

Oes, rydym wedi bod yn cynllunio ers peth amser ac mae digon o le i’r holl ddeunyddiau a fydd yn dod o Lyfrgell Thomas Parry. Dros yr wythnosau nesaf bydd rhywfaint o’r stoc yn Llyfrgell Hugh Owen yn newid lleoliad wrth i ni baratoi’r silffoedd i sicrhau bod modd cynnwys y deunydd o Thomas Parry ac i sicrhau cydbwysedd rhwng silffoedd a lle i ddefnyddwyr. Rhwng 4 Mehefin a 17 Awst ni fydd y seddi o amgylch perimedr Lefel F ar gael ar gyfer astudio wrth i ni symud y casgliadau, ond gobeithiwn allu sicrhau bod y carelau astudio gwydrog ar gael yn ystod y cyfnod hwn.  Byddwn yn rhoi’r newyddion diweddaraf i chi am unrhyw newidiadau mawr drwy gyfrwng ein blog https://wordpress.aber.ac.uk/library-project/  ond, os na allwch ddod o hyd i rywbeth yn ystod cyfnod yr Haf, rhowch wybod i ni wrth y Ddesg Ymholiadau neu drwy e-bostio gg@aber.ac.uk