Diogelwch Gwybodaeth

Mae angen i’r Brifysgol gasglu a defnyddio meintiau anferth o wybodaeth, llawer ohoni’n bersonol, a rhai ohoni’n ddata sensitif. Mae’n hanfodol bod data o’r fath, p’un ai ar ffurf electronig neu ar bapur, yn cael ei reoli’n effeithiol, yn ddiogel ac yn unol â’r ddeddfwriaeth gyfredol. 

Mae gan y Brifysgol Bolisi Diogelwch Gwybodaeth i’r sefydliad cyfan, yn ogystal â pholisi cysylltiedig sy’n amlinellu cyfrifoldebau staff unigol:
http://www.aber.ac.uk/en/infocompliance/policies/security/
http://www.aber.ac.uk/en/infocompliance/policies/securitystaff/

Mae Polisïau Diogelu Data ac Ebostio hefyd yn ymdrin â diogelwch gwybodaeth:
http://www.aber.ac.uk/en/infocompliance/policies/dp/
http://www.aber.ac.uk/en/infocompliance/policies/e-mail/

Mae’r Brifysgol yn defnyddio technoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh) yn helaeth at ddibenion ei gwaith academaidd a’i busnes ac mae’n hanfodol bod y staff, a myfyrwyr mewn rhai achosion, yn ymwybodol bod angen cadw unrhyw wybodaeth a gedwir ar liniaduron a chyfrifiaduron y Brifysgol yn ddiogel. Mae sawl tudalen ar wefan y sefydliad yn ymdrin yn benodol â dulliau ymarferol a thechnolegol o sicrhau diogelwch ar y safle a’r tu allan o’r swyddfa.

Am ddiogelwch cyfrifiadurol cyffredinol, gweler:
http://www.aber.ac.uk/en/is/computers/security/

Am wybodaeth am gloi cyfrifiaduron pan nad ydynt yn cael eu defnyddio:
http://www.aber.ac.uk/en/is/regulations/lockpcs/

Am wybodaeth am sut i reoli cyfrineiriau, gweler:
http://www.aber.ac.uk/en/is/regulations/passwords/

Am awgrymiadau ar sut i weithio’n ddiogel y tu allan i’r swyddfa, gweler:
http://www.aber.ac.uk/en/infocompliance/dp/outofoffice/

Am wybodaeth i adrannau ar gadw data’n ddiogel:
http://www.aber.ac.uk/en/is/regulations/securestorage/

Am gyngor ar ddefnyddio gwefannau rhwydweithio cymdeithasol:
http://www.aber.ac.uk/en/is/regulations/socialnetworking/

Am gyngor ar negeseuon sbam:
http://www.aber.ac.uk/en/is/regulations/spam/

Am ganllawiau eraill ynghylch diogelwch edrych o dan yr ymadroddion perthnasol yng Nghwestiynau Cyffredin y Gwasanaethau Gwybodaeth (e.e. ‘Amgodio’ , ‘Cyfrineiriau’ ac yn y blaen):
http://faqs.aber.ac.uk/