Myfyrwyr y gyfraith yn rhoi dyfarniad o fodlonrwydd

09 Awst 2017

Mae myfyrwyr y Gyraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi rhoi dyfarniad diamwys o blaid eu hastudiaethau mewn arolwg dylanwadol o fyfyrwyr ar draws y DU.

Yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (ACF) a gyhoeddwyd ar 9 Awst 2017, roedd 90% o fyfyrwyr Ysgol y Gyfraith Aberystwyth yn cytuno eu bod yn fodlon yn gyffredinol o’i gymharu â’r cyfartaledd ar draws y DU o 84%.

A phan ofynnwyd iddynt am safon yr dysgu ar eu cwrs, dywedodd 94% eu bod yn fodlon yn gyffredinol.

Yn y maes pwnc Anthropoleg sy’n cynnwys Troseddeg,  roedd boddhad cyffredinol yn yr ACF diweddaraf yn 93%, gyda bodlonrwydd o 92% ar gyfer cynllun gradd Troseddeg a 93% ar gyfer Troseddeg a Secoleg Gymhwysol.

Mae’r canlyniadau Ysgol y Gyfraith yn rhan o stori lwyddiant ehangach ym Mhrifysgol Aberystwyth, sy'n cael ei nodi fel y gorau yng Nghymru ac yn un o'r pum sefydliad addysg uwch uchaf yn y DU ar gyfer boddhad myfyrwyr yn gyffredinol yn ôl ACF 2017.

Mae'r arolwg yn dangos bod boddhad cyffredinol ymhlith myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 91% - saith pwynt canran yn uwch na chyfartaledd y DU o 84%.

Meddai'r Athro Jo Crotty, Cyfarwyddwr Athrofa Busnes a'r Gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth: "'Rydym yn falch iawn o ganlyniadau ACF yr Athrofa Busnes a'r Gyfraith. Mae'r gyfradd boddhad gyffredinol o 90% i Ysgol y Gyfraith yn arbennig o dda ac mae'n adlewyrchu gwaith caled y staff. Mae'r canlyniad ar gyfer yr 'adnoddau dysgu' o 92% ar gyfer Ysgol y Gyfraith hefyd yn ardderchog ac yn dangos lefel y buddsoddiad a'r ymrwymiad i'n myfyrwyr. "

Mae ffigurau'r ACF yn dilyn yn agos ar sodlau'r ffigyrau cyflogadwyedd diweddaraf ar gyfer prifysgolion y DU a ddangosodd fod 100% o raddedigion y Gyfraith mewn gwaith neu astudiaethau pellach chwe mis ar ôl gadael Prifysgol Aberystwyth yn 2016.

Ffigurau Cyflogadwyedd Prifysgol Aberystwyth

Os oes gennych ddiddordeb mewn astudio yn Ysgol y Gyfraith Prifysgol Aberystwyth a darganfod pam fod ein myfyrwyr mor fodlon â'u cyrsiau, nid yw'n rhy hwyr. Mae gennym rai lleoedd clirio ar gyfer y flwyddyn academaidd 2017-18 neu dewch draw i ymweld â ni yn ystod un o'n Diwrnodau Agored.

• Cyrsiau Y Gyfraith drwy Clirio
Diwrnodau Agored
Stori Newyddion: Stori Llwyddiant ACF Prifysgol Aberystwyth

Cynhelir yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr bob blwyddyn gan IPSOS Mori ar ran cynghorau cyllido addysg uwch y DU a chyfwelir â mwy na 300,000 o fyfyrwyr blwyddyn olaf yng Nghymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Gofynnir i fyfyrwyr pa mor fodlon ydynt gyda’u prifysgol ar draws ystod eang o fesurau, gan gynnwys ansawdd yr addysgu, asesu ac adborth, cefnogaeth academaidd, trefn a rheolaeth, adnoddau dysgu, y gymuned addysgu a llais myfyrwyr.

Mae safleoedd Prifysgol Aberystwyth yn seiliedig ar y cwestiwn boddhad cyffredinol ac yn defnyddio'r rhestr o sefydliadau addysg uwch sydd yn ymddangos yn The Times and Sunday Times Good University Guide 2018.