Ffilm am straeon mudwyr yn ennill gwobr rhyngwladol

HOPE: In the Shadows of the Bosphorus / Dr Latif Tas, Adran Y Gyfraith a Throseddeg
20 Chwefror 2026
Mae ffilm newydd sy’n adrodd straeon personol mudwyr sy’n ffoi i Istanbul wedi ennill gwobr cyn iddi gael ei rhyddhau fis Ebrill eleni.
Cyfarwyddwyd a chynhyrchwyd y rhaglen ddogfen newydd, ‘HOPE: In the Shadows of the Bosphorus’, gan gymrawd ymchwil o Brifysgol Abersytwyth, Dr Latif Tas.
Mae’n cynnig cipolwg ar fywydau gwahanol fudwyr mewnol ac allanol ynghyd â phreswylwyr hirsefydlog yn ninas fwyaf Twrci lle mae 16 miliwn o bobl yn byw.
Mae Twrci yn gartref i un o'r poblogaethau ffoaduriaid mwyaf yn y byd, gyda 3.1 miliwn o bobl yn byw yno o Syria yn unig sydd wedi dioddef rhyfel. Mae'r wlad hefyd wedi gweld mewnfudo sylweddol o ganlyniad i wrthdaro yn Afghanistan, Irac, Libya ac Wcráin.
Fel cyn-breswylydd y ddinas ac academydd sy'n ymchwilio i fewnfudo yn Nhwrci a'r Deyrnas Gyfunol, mae Dr Tas yn dweud bod llawer o'r deinameg ar strydoedd Istanbul yn debyg i'r hyn a welir mewn dinasoedd mawr eraill gan gynnwys Llundain, Paris, Berlin ac Efrog Newydd.
Mae ei bortread o straeon mewnfudwyr ac ymatebion pobl i fudo bellach wedi ennill Gwobr Dewis Gorau’r Rheithgor yng Ngŵyl Ffilm Ryngwladol Amsterdam ARFF, yn ogystal â chael ei roi ar y rhestr fer ar gyfer gwobr gan Ŵyl Ffilm Manchester Lift-Off 2026.
Wrth ymateb i ennill gwobr ffilm Amsterdam, dywedodd Dr Tas o Adran y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth:
“Mae’n anrhydedd fawr i mi ennill ac i straeon mewnfudwyr gael eu clywed a’u cydnabod yn rhyngwladol. Yn enwedig ar ôl rhoi cymaint o amser ac ymdrech i’r prosiect sydd â chyllideb gyfyngedig a thîm bach ymroddedig.
“Nid yw’r ffilm hon wedi’i chynllunio i wneud datganiad gwleidyddol na bod yn bropaganda – mae’n adrodd straeon pobl go iawn yn eu geiriau eu hunain. Rwy’n dawel drwy gydol y ffilm, gan adael i wahanol gymeriadau, y cyfuniad o’r gwesteiwyr a’r mewnfudwyr, yn eu hamgylcheddau eu hunain, fynegi eu barn a’u safbwyntiau.”
Gan roi rhagolwg o’r ffilm, ychwanegodd Dr Tas:
“Rydym ni’n clywed yn y ffilm bobl yn cwyno am fewnfudwyr yn cymryd swyddi, ond rydym ni hefyd yn clywed straeon am fewnfudwyr yn byw mewn amodau annioddefol. Mae gennym ni bobl sy'n croesawu mudwyr ac mae gennym ni hefyd fudwyr sy'n cario eu gwreiddiau lle bynnag maen nhw'n mynd. Byddai rhai mudwyr yn wynebu erledigaeth neu hyd yn oed y gosb eithaf pe bydden nhw'n dychwelyd i Iran, Afghanistan neu Syria, o lle maen nhw'n hanu. Rwy'n gobeithio y bydd y rhaglen ddogfen yn helpu pobl i ystyried sut y gallwn ni reoli'r newidiadau a'r heriau hyn a sut y gallwn ni ddeall straeon ein gilydd.
“Mae Istanbul yn ddinas sy'n perthyn i bawb ond hefyd i neb. Mewn sawl ffordd mae Istanbul wedi bod yn ganolfan i bobl ledled y byd erioed - o'r Rhufeiniaid i'r Otomaniaid. Yn Nhwrci heddiw, mae miliynau wedi ffoi'n fewnol o wahanol ddinasoedd Anatolian, yn enwedig o ranbarthau Cwrdaidd ers degawdau yn dianc rhag gwrthdaro mewnol hir. Hefyd, mae pobl wedi ffoi i Twrci o Syria a degau o filoedd o wledydd cyfagos eraill sydd wedi dioddef gwrthdaro neu anawsterau gwleidyddol. Er y gall lefelau mewnfudo fod yn uwch oherwydd agosrwydd Twrci at gynifer o wledydd sydd wedi'u rhwygo gan ryfel, nid stori am Istanbul yn unig yw hon, ond un sy’n cael ei theimlo gan lawer o ddinasoedd mawr ledled y byd.”
Yn enillydd Gwobr Pen-blwydd 150fed Prifysgol Aberystwyth, mae Dr Tas wedi cyhoeddi dau lyfr am rôl cyfiawnder anffurfiol mewn cymunedau mudol a sut mae lleiafrifoedd yn byw o dan gyfundrefnau awdurdodaidd. Mae wedi dal swyddi rhyngwladol pwysig ac wedi ennill gwobrau, gan gynnwys fel aelod o Sefydliad Princeton ar gyfer Astudiaeth Uwch ac ennill Gwobr Fyd-eang Marie-Curie.
Mae Dr Tas wedi cyfweld â channoedd o fudwyr dros y blynyddoedd, o wahanol gefndiroedd economaidd, cymdeithasol a gwleidyddol, mewn gwersylloedd ffoaduriaid, parthau tramwy, tai diogel, gorsafoedd heddlu ac mewn cymdogaethau cyfoethog. Ychwanegodd:
“Bob amser, roedd gan fy nghyfweliadau ar gyfer gwaith academaidd derfyn amser, ongl, a chyfrif geiriau. Yn aml, roeddwn i'n teimlo'n anesmwyth fy mod i wedi dal ffaith, nid person. Mae'r ffilm hon, yn rhannol, yn ymateb i'r cyfyngiad hwnnw.
"Mae fy ngolwg ar y byd wedi'i llunio gan ymholiad gwyddonol ac empathi creadigol. Rwy'n dod â lens ddwbl i'r stori hon: o newyddiaduraeth a gwyddoniaeth, rwy'n dod ag ymrwymiad i wirionedd, cywirdeb, a meddwl systemau, y gallu i gysylltu straeon micro â strwythurau macro. O'r celfyddydau, rwyf wedi dysgu arafu, sylwi, byw mewn ansicrwydd. Lle gallai academydd ofyn 'beth achosodd hyn?', gall artist ofyn 'sut mae'n teimlo byw hyn?' Mae'r ddeuoldeb hwn yn llunio sut rwy'n ymdrin â'r camera, nid fel arf na sylw, ond fel drych, cydweithiwr, tyst. Mae fy ngwaith wedi'i seilio ar wrando dwfn a moeseg berthynol, nid echdynnu. Nid astudiaethau achos na throsiadau yw mudwyr yn y ffilm hon, maent yn adroddwyr, awduron, a chyd-grewyr eu straeon eu hunain.
Wedi'i gefnogi gan Gronfa Effaith Prifysgol Aberystwyth, bydd 'HOPE: In the Shadows of the Bosphorus' yn cael ei ryddhau'n swyddogol ym mis Ebrill 2026.
AU5426
