Paratoi am wrthdrawiad gyda'r Lleuad

Yr Athro Manuel Grande gyda model main 1/40 o Smart-1

Yr Athro Manuel Grande gyda model main 1/40 o Smart-1

23 Awst 2006

Ddydd Sul 3ydd Medi 2006 daw taith SMART-1, llong ofod yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd, i ben wrth iddi daro i mewn i wyneb yn Lleuad wedi 16 mis o ymchwil gywddonol.

Mae offer gwyddonol Smart-1 wedi bod yn edrych yn fanwl ar y Lleuad ac o ganlyniad iddynt weithio cystal cafodd y daith ei hymestyn am flwyddyn ychwanegol. Mae'r offeryn Prydeinig D-CIXS (demonstrator compact X-ray spectrometer) wedi bod yn llunio mapiau o gyfansoddiad mwynol y Lleuad gan edrych ar ddosbarthiad calsiwm, magnesiwm, aliwminiwm, silicon a haearn. Bydd hyn yn gymorth wrth benderfynu sut gafodd y lleuad ei chreu – o ddarnau o’r ddaear yn dilyn gwrthdrawiad, neu o ganlyniad i wrthdrawiad rhwng gwrthrych o faint planedol â’r Ddaear.

Yr Athro Manuel Grande, Penaeth Ffiseg y Gyfundrefn Heulol yn Sefydliad y Gwyddorau Ffisegol a Mathemategol Prifysgol Cymru, Aberystwyth yw’r Prif Ymchwilydd ar D-CIXS.
“Drwy fesur y peldrau x sydd yn cael eu rhyddhau pan fo’r Haul yn tywynnu ar y Lleuad mae’n bosibl i ni ddadansoddi cyfansoddiad cemegol yr wyneb. Yn dilyn hyn mae modd cymharu helaethrwydd mwynau allweddol i’r hyn a geir ar wyneb y ddaear er mwyn deall faint o ddeunydd y Lleuad ddaeth o’n planed ni yn y lle cyntaf.”

Mae gan D-CIXS ran bwysig i’w chwarae yn ein adnabyddiaeth ni o’r Lleuad ac mae’n cynnig golwg newydd ar y samplau gafodd eu dychwelyd gan deithiau gofodwyr ac a yw rhain yn nodweddiadol o’r hyn a geir ar wyneb y Lleuad. Dywedodd Manuel Grande “Lle mae modd gwneud cymariaethau gyda safloedd glanio’r Americanwyr mae’r canlyniadau yn gadarnhanol, ac mae hyn yn rhoi hyder i ni pan fyddwn yn edrych ar ddata o ardaloedd eraill o’r Lleuad lle nad yw dyn wedi bod.”

O ganlyniad i lwyddiant D-CIXS mae fersiwn ddiweddarach (CIXS) yn cael ei hadeiladu ar hyn o bryd ar gyfer y daith ofod Indiaidd Chandayaan i’r Lleuad yn 2007/8. 

Bydd yr Athro Grande yn cynnal sesiwn i’r wasg ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth ddydd Gwener 25 Awst.  Fe’i cynhelir yn adeilad Sefydliad y Gwyddorau Ffisegol a Mathemategol a bydd yn dechrau am 10 y bore. Bydd Dr Vera Fernandez o Coimbra, Portiwgal, sydd hefyd yn gweithio ar y prosiect, yn ymuno gyda’r Athro Grande.