Ymchwil i'r Bwrdd Categoreiddio Ffilmiau Prydeinig ar drais rhywiol

Yr Athro Martin Barker

Yr Athro Martin Barker

10 Gorffennaf 2006

Dydd Llun 10Gorffennaf, 2006
Ymchwil i'r Bwrdd Categoreiddio Ffilmiau Prydeinig ar drais rhywiol
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Cymru, Aberystywth yn mynd i'r afael â chyfres o gwestiynnau pwysig a dadleuol ar gais y Bwrdd Categoreiddio Ffilmiau Prydeinig (BCFfP). Mae tim o ymchwilwyr ffilm, o dan arweiniad yr Athro Martin Barker, yn astudio sut mae cynulleidfaoedd yn deall ac yn ymateb i ffilmiau sydd yn cynnwys golygfeydd o drais rhywiol.

Mae’r tim yn edrych ar ymateb i bum ffilm. Mae’r ffilmiau - À Ma Soeur, Baise-Moi, Irreversible, Ichi The Killer, a House on the Edge of the Park – wedi codi materion penodol o safbwynt categoreiddio ar gyfer eu rhyddhau i’w dangos mewn sinemau ac ar fideo. Maent hefyd wedi ysgogi cryn ddadlau yn y wasg. Nod y prosiect yw darparu gwybodaeth i’r BCFfP all gynnig arweiniad i drafodaethau yn y dyfodol.

Ymysg y cwestiynnau y mae’r prosiect yn ceisio eu hateb mae: pa fath o fwynhad mae cynulleidfaoedd yn ei gael o weld ffilmiau o’r math yma? Ydy cynulleidfaoedd sydd yn eu casau, neu’n eu mwynhau, yn gweld yr un pethau ynddi nhw? Sut mae cyd-destyn y rhyw treisiol o fewn y ffilm yn effeithio ar sut mae cynulleidfaoedd yn ei ddeall? Sut mae ymateb pobl yn cael ei reoli gan ble a phryd maent yn gweld y ffilm?

Mae’r ymchwilwyr yn defnyddio sawl strategaeth ymchwil, gan gynnwys holiadur ar y we sydd â gwefan ei hun: www.extremefilmsresearch.org.uk. Nod y prosiect yn ystod y chwe mis nesaf yw casglu dros fil o ymatebion ar gyfer eu dadansoddi.
Dywedodd yr Athro Barker: “Dyma’r tro cyntaf i’r BCFfP gyflogi ymchwilwyr ffilm i fynd i’r afael â chwestiynnau or math yma. Rydym yn falch iawn eu bod wedi cydnabod potensial y dulliau yr ydym yn eu defnyddio, er mwyn cynorthwyo gyda’u penderfyniadau. Nawr hoffwn glywed gan unrhywun sydd wedi gweld un or ffilmiau yma, er mwy’n i farn y gwir gynudlleudfaoedd – peth bynnag fo eu safbwyntiau - gael yr ystyriaeth haeddiannol am y tro cyntaf.

Mae aelodau o’r tim ymchwil yn Aberystwyth wedi gweithio ar nifer o brosiectau cynulleidfa yn ystod y blynyddoedd diweddar, gan gynnwys astudiaethau o ymateb i Crash, Clockwork Orange a Straw Dogs. Yn ddiweddar bu’r Brifysgol yn gartref i astudiaeth ryngwladol i ymateb cynulleidfaoedd i’r ffilm The Lord of The Rings.