Urddo'r Cymrawd Cyntaf

Y Cymrawd newydd Catrin Finch (canol) gyda'r Athro Noel Lloyd a Dr Catrin Hughes

Y Cymrawd newydd Catrin Finch (canol) gyda'r Athro Noel Lloyd a Dr Catrin Hughes

11 Gorffennaf 2006

Dydd Mawrth 11 Gorffennaf 2006

Urddo'r Cymrawd cyntaf
Y delynores ryngwladol, Catrin Finch, yw'r gyntaf o'r Cymrodyr i gael ei chyflwyno yn seremoniau graddio eleni. Cafodd Catrin ei chyflwyno yn ystod yr ail seremoni brynhawn Mawrth gan Gofrestrydd ac Ysgrifennydd y Brifysgol, Dr Catrin Hughes.

Ms Catrin Finch ARAM
Mae'r flwyddyn 1985 yn un arwyddocaol i nifer fawr ohonom - dyma flwyddyn geni'r mwyafrif ohonoch chi sy'n graddio eleni. Yn 1985 cychwynnais i ar fy ngyrfa weinyddol ym Mhrifysgol Cymru Llambed, mi wnes briodi,  prynu tŷ  ac ymgartrefu ym mhentref  bach Aberarth ar arfordir Ceredigion.  Yn yr un flwyddyn, yn y pentref cyfagos ,  Llanon,  roedd yna Catrin arall,  merch fach bum mlwydd oed yn paratoi am siwrne a oedd  am fod yn drobwynt i’w bywyd hithau.  Taith oedd hon  gyda’ i rheini,  i Glwb Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Cymru Llambed i wylio perfformiad gan y delynores Marisa Robles.  Ar ôl y gyngerdd dywedodd Catrin ei bod hi hefyd am fod yn delynores - a buan daeth ei hamser. Cafodd delyn Geltaidd yn anrheg ar ei phen-blwydd yn chwe blwydd oed, a chychwyn ar wersi telyn yma yn Aberystwyth gyda Delyth Evans.  Buan iawn y sylweddolodd ei hathrawes fod ganddi dalent anghyffredin, ac o fewn dwy flynedd, roedd Catrin yn cael gwersi gan un o delynorion mwyaf blaenllaw Cymru, sef Elinor Bennett.  Roedd hyn yn dipyn o ymdrech iddi hi a’r teulu gan fod Elinor Bennett yn byw yn y Bontnewydd, Gwynedd, bron i gan filltir o Lanon - ac am wyth mlynedd bu’n gwneud y siwrne bedair awr yn ôl ac ymlaen bob pythefnos am ei gwersi.
 
Pan yn 10 oed, ymunodd Catrin â Cherddorfa Ieuenctid Genedlaethol Prydain, ac yn 11 oed hi oedd yr aelod ifancaf o’r gerddorfa honno i ganu’r delyn mewn Cyngerdd Proms y BBC yn yr Albert Hall yn Llundain.  Yn y cyfnod yma symudodd Catrin o ysgol gynradd Llanon, i ysgol uwchradd Aberaeron, a bob bore cyn mynd i ddal y bws Ysgol, mi fyddai yn ymarfer ei thelyn am ddwy awr - ar y penwythnos, byddai’n ymarfer hyd at saith awr y dydd. Roedd ei dyfalbarhad yn talu ffordd - mi enillodd y wobr gyntaf yn adran ieuenctid  Gŵyl Delyn y Byd yn 1991 a daeth yn ail yn y gystadleuaeth i oedolion pan oedd ond yn 14 mlwydd oed.

Gadawodd Ceredigion yn 16 mlwydd oed, a mynd i astudio gyda’r tiwtor Skaila Janga yn Ysgol Purcell yn Llundain.  Mewn dwy flynedd, aeth ymlaen i’r Academi Frenhinol yn Llundain. Yn y flwyddyn 2000, pan oedd ar ei thrydedd flwyddyn yn yr Academi, cafodd ei deffro gan ffrind un bore yn dweud bod yna alwad ffôn iddi.  Gwahoddiad ydoedd i fod yn Delynores Frenhinol i Dywysog Cymru - doedd neb wedi dal y swydd hon  ers Oes Fictoria yn 1871 - ac mi fu Catrin yn ddeilydd yr apwyntiad am bedair blynedd. 

Mae rhestrau o orchestion Catrin yn faith wrth gwrs - ac mae’n perfformio ar lwyfannau ar draws y byd.  Mae hi hefyd wedi ennill y wobr gyntaf yn un o’r cystadlaethau telyn fwyaf  mawreddog y byd, sef Cystadleuaeth Telyn Rhyngwladol Lily Laskine.  Dwi’n siŵr hefyd y byddwch yn cytuno a mi ei bod wedi gwireddu ei nod mewn bywyd yn barod, sef i boblogeiddio’r Delyn fel offeryn - a dwi’n gwybod hyn i gost fy hun gan fod un o fy mhlant i yn canu’r delyn.  Mae Catrin yn sicr yn ysbrydoliaeth i’r to ifanc - ac mae wedi lansio Ymgyrch “Classic Kids” sy’n cael ei gefnogi gan Telynau Salvi i helpu plant a phobl ifanc i werthfawrogi a mwynhau cerddoriaeth glasurol.  Golyga hyn deithio ysgolion drwy Gymru, Lloegr a hefyd yr Unol Daleithiau er mwyn sicrhau lle i’r delyn a cherddoriaeth glasurol yn y dosbarth.  Mae am weld fod pob plentyn yn cael yr un cyfle ac yn sicr bod profi cerddoriaeth fyw pan oedd hi’n blentyn wedi helpu i lunio ei gyrfa gerddorol hithau.

Mae ganddi dipyn o “Street Cred” - ac mae’n werth ei gweld yn perfformio gyda’i thelyn drydan binc - y delyn a gafodd ei chynllunio yn arbennig i Catrin fedru ei chario o gwmpas, wrth chwarae.  Gwelodd y delyn yma  olau dydd am y tro cyntaf mewn cyngerdd i ddathlu pen blwydd arbennig y cerddor enwog o Gymru Karl Jenkins. 

Ei menter ddiweddaraf, yw ffurfio Band Mawr CF47 - ac mae CD cynta’r Band yn cynnwys dau ddarn o waith cerddorol  Catrin - dyma ei hymgais gyntaf  i sgwennu cerddoriaeth.  Lansiwyd y Band Mawr yn y Neuadd hon ym Mis Ebrill eleni. Yn anffodus does dim  cyfle i glywed Catrin yn perfformio heddiw, ond beth am ddod yn ôl yma nes ymlaen yn y mis  i’w gweld mewn cyngerdd sy’n cael ei drefnu gan Music Fest.

Yn ogystal â’i chyfraniad i’r  byd cerddorol mae Catrin yn gwneud cyfraniad pwysig elusennol. Hi yw noddwr yr elusen Beacon of Hope - elusen sy’n weithredol ers pedair blynedd yma yn Aberystwyth, ac sy’n rhoi cymorth a chefnogaeth i deuluoedd a gofalwyr rheini sydd yn dioddef salwch terfynol neu “life-limiting”.  Gobaith yr elusen yw codi digon o arian i gael hosbis  barhaol yma yng Nghanolbarth Cymru.  Ers 2005 mae Catrin hefyd yn Lysgennad i’r Sefydliad Ymchwil Cancr ( Institute of Cancer Research), diddordeb a dyfodd yn sgil ei gwaith gyda’r Beacon of Hope .  Ym mis Mawrth eleni, mi deithiodd i Kenya gyda World Vision, asiantaeth cymorth a datblygu, i gwrdd â’r plentyn mae’n noddi yno er mwyn rhoi gwell cyfle iddi hi a’i chymuned ar gyfer y dyfodol.

Does dim dianc o’r byd cerddorol yn ei bywyd personol chwaith. Cafodd ei magu gan rieni oedd yn gwerthfawrogi cerddoriaeth, ac a gynorthwyodd hi i ddatblygu ei gyrfa gerddorol. Rydym yn falch o weld mam Catrtin, Marianne Finch-Pateman gyda ni heddiw. Mae Catrin erbyn hyn yn briod â Hywel Wigley mab ei chyn-athrawes telyn, Elinor Bennett a’r gwleidydd Dafydd Wigley.  Gallwn ymhyfrydu fod gennym ni'r ddeuawd delynau teuluol mwyaf cyffrous yn y byd yn gymrodorion y Brifysgol bellach, gan fod Elinor Bennett wedi ei hurddo yn Gymrodor yma ddeng mlynedd yn ôl.  Comisiynwyd concerto arbennig ar gyfer dwy Delyn iddynt gan Karl Jenkins a berfformiwyd ganddynt am y tro cyntaf ar Ddydd Gŵyl Dewi 2002. Priodol felly yw bod Catrin, oherwydd ei hyder a’i steil  bersonol wedi gweddnewid delwedd ein hofferyn cenedlaethol.  Yng ngeiriau'r canwr byd-enwog Bryn Terfel, mae enw Catrin Finch bellach yn gyfystyr a’r delyn ei hun.

Mr Llywydd cyflwynaf Catrin Finch i’w hurddo yn Gymrawd er Anrhydedd Prifysgol Cymru, Aberystwyth.