Urddo Cyn-Lywodraethwr Ynysoedd y Cayman <br />

Mr John Wynne Owen Esq CMG MBE

Mr John Wynne Owen Esq CMG MBE

12 Gorffennaf 2006

Dydd Mercher 12 Gorffennaf, 2006

Urddo llywodraethwr Ynysoed y Cayman
Yr ail Gymrawd i'w urddo yn ystod dathliadau graddio'r Brifysgol yr wythnos hon yw John Wynne Owen, cyn was sifil gyda’r Gwasanaeth Llysgenhadol a fu, ymysg nifer o benodiadau eraill, yn Lywodraethwr Ynysoedd y Cayman. Cafodd ei gyflwyno gan yr Athro Colin McInnes, Pennaeth Adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol.

Mr John Wynne Owen Esq CMG MBE
Mae John Wynne Owen yn un o feibion Cymru a ddaeth yn was sifil o fri, yn ben ar lywodraeth ac yn arweinydd ym myd diwydiant.
Fe’i ganwyd yn ne Cymru ac aeth i Ysgol Ramadeg Tre-gwŷr. Yn Nhre-gwŷr y daeth i’w gysylltiad cyntaf â’r Brifysgol hon, a hynny gan fod nifer o’i graddedigion yn aelodau o’r staff dysgu yno. John oedd un o'r 2,500 a oedd wedi sefyll arholiad y Wasanaeth Dramor yn y flwyddyn honno, ac un or 12 yn unig a cafodd eu cyflogi. Felly dechreuodd ei yrfa fel gwas sifil. Daeth Gwasanaeth Cenedlaethol i dorri ar draws yr yrfa honno, fel yn achos cymaint o bobl ar ddiwedd y 1950au. Ymunodd John â’r Arwyddwyr Brenhinol ond gwelwyd bod deunydd arweinydd ynddo, ac wedi cyfnod yn Ysgol Cadetiaid Swyddogion Mons cafodd ei gomisiynu yn Is-Lefftenant, gyda Michael Heseltine fel Swyddog Cadet Cadlywydd Pared.

Wedi iddo gwblhau ei gyfnod o Wasanaeth Cenedlaethol fe ddychwelodd John Wynne Owen i’r Swyddfa Dramor a chafodd ei anfon i weithio yn Indonesia, Fietnam, Ffrainc ac El Salvador. Ond nid oedd John yn fodlon ar fod  yn was sifil yn unig. Yn 1967 fe adawodd y Gwasanaeth Llysgenhadol i dreulio cyfnod byr ym myd diwydiant – cam sy’n anarferol heddiw ac a oedd, o bosibl, hyd yn oed yn fwy anarferol bryd hynny. Er hynny, mae’n adlewyrchu’r cydbwysedd yn ei fywyd proffesiynol rhwng diwydiant a gwasanaeth cyhoeddus. Ailymunodd â’r Gwasanaeth Llysgenhadol yn 1970 a bu’n gweithio yn Iran, Brasil, Tsieina a Llundain.
 
Yn 1985 gadawodd y Gwasanaeth Llysgenhadol unwaith yn rhagor i weithio ym myd diwydiant, a bu’n Gadeirydd ac yn Rheolwr-Gyfarwyddwr ar grŵp o gwmnïau. Dychwelodd i’r Swyddfa Dramor yn 1989 ac yn 1992 fe’i penodwyd yn Brif Gonswl Prydain yn Boston. Mae’n bosibl mai ei brofiad o ddiwydiant a barodd iddo sylweddoli arwyddocâd y cysylltiadau oedd yn datblygu rhwng busnes a phrifysgolion yn y rhan honno o’r Unol Daleithiau. Yn benodol felly, yr oedd nifer anghymesur o fusnesau newydd llwyddiannus wedi deillio o ddau bwerdy yr Ivy League gerllaw, sef Harvard a Sefydliad Technoleg Massachusetts. Bu John yn hyrwyddo’r cysylltiad hwn rhwng y byd academaidd a diwydiant – yr hyn a elwir yn y DU bellach yn weithgareddau’r drydedd genhadaeth – wedi iddo ddychwelyd i Gymru. Yn benodol, bu’n ddylanwadol wrth berswadio Awdurdod Datblygu Cymru i ystyried y cysyniadau hyn a chysyniadau busnes eraill arloesol oedd yn ymddangos ar y pryd yn yr Unol Daleithiau ac mewn mannau eraill.

Yn 1995 penodwyd John Wynne Owen yn Llywodraethwr Ynysoedd y Cayman. Er mai swydd gyda’r Gwasanaeth Llysgenhadol oedd hon, yr oedd yn benodiad gweithredol ac ar sawl ystyr yr oedd John yn bennaeth llywodraethol, ac yn llywydd ar Gyngor Gweithredol yr Ynysoedd.
 
Ers iddo ymddeol yn 1999, mae John Wynne Owen wedi parhau i ymwneud â nifer o fusnesau, elusennau a materion dinesig. Yn sgil ei yrfa nodedig ym myd busnes ac yn y sector cyhoeddus dyfarnwyd MBE iddo yn 1979 ac CMG yn 1998. Mae’n Rhyddfreiniwr Dinas Llundain, yn gyn Feistr Cwmni Anrhydeddus yr Ysbardunwyr ac yn Gymrodor y Sefydliad Rheoli Siartredig.