Cyn actor ar 'Corrie' yn graddio

Nigel Pivaro

Nigel Pivaro

12 Gorffennaf 2006

Derbyniodd Nigel Pivaro, yr actor fu'n chwarae’r rhan Terry Duckworth am bron i ugain mlynedd ar yr opera sebon Coronation Street, radd MSc Econ mewn Terfysgaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol yn ystod seremoni raddio fore Mercher.

Dilynodd Nigel ddau o’i diwtoriaid ym Mhrifysgol Salford, Martin Alexander a Paul Madrell, lle cwblhaodd ei radd gyntaf, wedi iddynt symud i’r Adran Wleiddyddiaeth Rhyngwladol yma yn Aberystwyth.

Wrth siarad am ei gyfnod yma yn Aberystwyth dywedodd:
“Astudio gwych a dysgu grymus yng nghanol Cymru brydferth, ac yng nghwmni pobl o’r un anian o bob rhan o’r byd.”

Tarddodd ei benderfyniad i astudio o’i ddiddordeb mewn materion cyfoes, materion rhyngwladol a hanes, a sut mae pobl yn gallu dysgu o hanes. Ei ddiddordeb pennaf yw sut mae gwleidyddiaeth yn gallu arwain at wrthdaro.

Tra fod yr Adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol wedi darparu’r abwyd academaidd iddo ddod i Aberystwyth, ymddangosodd ar lwyfan Theatr y Werin yn ‘Funny and Peculiar’ a ‘Greek’ gan Steve Berkhoff yn ystod ei yrfa actio, sydd, yn ei eiriau ef, wedi cynnwys ‘chwarae popeth o Shakespeare, i’r ymylol ac i ffars’.

Ar hyn o bryd mae’n gweithio ar raglen ddogfen deledu i’r BBC, The Regeneration Game, dadansoddiad beirniadol o raglen adnewyddu tai y Llywodraeth sydd yn canolbwyntio ar ardaloedd problematig lle mae gwerth eiddo wedi plymio. Ei nod tymor hir yw bod yn newyddiadurwr sydd yn arbenigo mewn diogelwch a gwrthdaro.