Adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol gyntaf y Byd yn dathlu agor adeilad newydd

Rt Hon Rhodri Morgan a Sir Emyr Jones Parry

Rt Hon Rhodri Morgan a Sir Emyr Jones Parry

01 Gorffennaf 2006

Dydd Mercher 25 Gorffenaf 2006
Adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol gyntaf y Byd yn dathlu agor adeilad newydd
Agorwyd cartref newydd Adran Wleidyddiaeth Rhyngwladol gyntaf y byd ddydd Mawrth 25ain o Orffennaf gan Brifweinidog y Cynulliad Cenedlaethol, y Gwir Anrhydeddus Rhodri Morgan AC a Chynrychiolydd Parhaol y Deyrnas Unedig i'r Cenhedloedd Unedig, Sir Emyr Jones Parry.

Bydd yr adeilad pedwar llawr newydd, a ddylunwyd gan y Penseiri Ellis Williams ac a adeiladwyd ar gost of dros £5m, yn cael ei adnabod fel Adeilad Gwleidyddiaeth Rhyngwladol. Mae'r adeilad yn cyfuno nifer of agweddau er mwyn lleihau’r defnydd o ynni a sicrhau costau cynnal a chadw isel. Defnyddiwyd llawer of ddeunydd insiwleiddio, awyru naturiol reoladwy a defnydd helaeth o olau naturiol er mwyn creu awyrgylch weithio rhagorol.

Ar ddechrau’r agoriad dywedodd yr Athro Noel Lloyd;
“Mae’r Brifysgol yn falch iawn o’r gwaith y mae’r adran yn ei wneud a’r enw da sydd iddi. Hon, wrth gwrs, yw’r adran henaf o’i bath yn y Byd, ac yn ystod y blynyddoedd diweddar daeth i amlygrwydd yn ei maes. Mae gan ei haelodau record o gyrhaeddiad academaidd wych ac rwyf yn arbennig o falch o’r ffordd y mae’r Adran wedi gweithio ym maes polisi a chydweithio gyda llunwyr polisiau.”

“Mae hi felly yn addas ei bod yn symud i mewn i’r adeilad gwych hwn. Gan ym mod wedi bod yn rhan o’r broses o’i gynllunio o’r dechrau un mae’n bleser arbenning i mi gael bod yn rhan o’r seremoni agoriadol hon. Yn ogystal mae’n bleser i gael gweld y fath adeilad gwych – o ran ei olwg, ei ddefnyddioldeb, a’i gyfeillgarwch amgylcheddol,” ychwanegodd.

Dywedodd Pennaeth yr Adran, yr Athro Colin McInnes;
“Mae presenoldeb y Prif Weinidog a Syr Emyr yn yr agoriad swyddogol hwn yn adlewyrchu ymrwymiad yr Adran tuag at, a’i rôl bwysig yng Nghymru, a’i arwyddocad byd-eang yn astudiaeth Gwleidyddiaeth Rhyngwladol.”

Sefydlwyd yr Adran yn 1919 wedi i Aelod Seneddol Rhyddfrydol Maldwyn, David Davies, waddoli Cadair Woodrow Wilson er cof am fyfyrwyr y Coleg a ymladdodd ac a fu farw yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Gweledigaeth Davies, a oedd yn adlewyrchu’r traddodiadau radical Cymreig a rhyng-genedlaetholaidd, oedd mae gwaith yr Adran fyddai cyfraniad democrataidd Cymru i ddyfodol y Byd. Credai mae drwy gasglu gwybodaeth am Wleidyddiaeth Rhyngwladol, ac achosion rhyfel yn arbenning, byddai modd i’r Byd rwystro gwrthdaro erchyll tebyg i’r Rhyfel Byd Cyntaf.

O egin-adran datblygodd i fod yn ganolfan o bwys byd-eang am ei gwaith ymchwil a’i dysgu ym maes Cysylltiadau Rhyngwladol. Golyga adeilad newydd yr Adran fod dros gant o ymchwilwyr a staff cynorthwyol yn gweithio o dan yr un to, ac mae’r adeilad ei hun yn adlewyrchu enw da byd-eang yr Adran a’i dyhead i barhau i fod yn flaengar a rhagorol ymhopeth y mae’n ei wneud.

Urddo Syr Emyr yn Gymrawd
Yn dilyn y seremoni agoriadol cafodd Syr Emyr Jones Parry ei urddo yn Gymrawd er Anrhydedd y Brifysgol.
Yn wreiddiol o Sir Gâr, cafodd Syr Emyr ei addysg yn Ysgol Ramadeg y Gwendraeth, Prifysgol Caerdydd, lle bu’n astudio Ffiseg Ddamcaniaethol, ac yna yng Ngholeg St Catherine Caergrawnt lle derbyniodd radd doethuriaeth mewn Ffiseg Polimer. Ymunodd â’r Swyddfa Dramor a’r Gymanwlad yn 1973, ac yn ystod gyrfa ddisglair bu’n gweithio yng Nghanada, y Senedd Ewropeaidd ym Mrwsel, ac ym Madrid. Yn 2001 cafodd ei benodi’n Gynrychiolydd Parhaol y Deurnas Unedig ar Gyngor Gogledd Môr yr Iwerydd, ac yna yn 2003 symudodd i’w swydd bresennol, Cynrychiolydd Parhaol y Deurnas Unedig i’r Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd.
Cafodd Syr Emyr ei gyflwyno gan Dr Catrin Hughes, Cofrestrydd Prifysgol Cymru, Aberystwyth.