S4C : Y Chwarter Canrif Cyntaf

S4C: Y Chwarter Canrif Cyntaf

S4C: Y Chwarter Canrif Cyntaf

01 Awst 2007

Dydd Mercher 1 Awst 2007
S4C : Y Chwarter Canrif Cyntaf
Fe fydd rhai o'r penderfyniadau allweddol a wnaed wrth sefydlu'r sianel deledu Gymraeg gyntaf erioed yn cael eu dadlennu mewn cynhadledd arbennig i nodi 25 mlwyddiant S4C ym mis Tachwedd 2007.

Mae Cyfarwyddwr Rhaglenni cynta’r sianel Euryn Ogwen Williams ymhlith prif siaradwyr y gynhadledd sy’n cael ei threfnu gan yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth.

Mae disgwyl i Mr Williams ddatgelu am y tro cyntaf sut yr aed ati i wneud penderfyniadau arwyddocaol ynglyn â dyfodol S4C yn y cyfnod yn arwain at y darllediad cyntaf ar y 1af o Dachwedd 1982.

Hefyd yn annerch y gynhadledd bydd cyn Lywodraethwr Cenedlaethol BBC Cymru Alwyn Roberts a fu’n rhan o’r trafodaethau cynnar i sefydlu pedwaredd sianel deledu i Gymru, ac a aeth ymlaen i fod yn un o aelodau cyntaf Bwrdd S4C.

Prif Weithredwr presennol S4C, Iona Jones, fydd y gwestai gwadd yng nghinio swyddogol y gynhadledd ac mae disgwyl iddi amlinellu ei gweledigaeth ar gyfer y sianel mewn byd digidol, aml-blatfform.

Ymhlith y siaradwyr eraill mae Rhys Evans, bywgraffydd y diweddar Gwynfor Evans wnaeth fygwth ymprydio hyd marwolaeth yn 1980 oni bai bod y llywodraeth yn sefydlu sianel deledu Gymraeg.

“Mae 25 mlwyddiant S4C yn garreg filltir bwysig yn hanes darlledu Cymru ac mae’r gynhadledd hon yn rhoi cyfle unigryw i ni edrych graffu ar rai o’r penderfyniadau allweddol a wnaed yn ystod y chwarter canrif diwethaf,” meddai’r Athro Elan Closs Stephens o Brifysgol Cymru Aberystwyth a fu’n gadeirydd Awdurdod S4C o 1998-2006.

“Bydd y gynhadledd yn denu ffigurau blaenllaw o’r diwydiant teledu, yn ogystal ag ysgolheigion o Gymru ac Ewrop. Ein gobaith yw cofnodi’r chwarter canrif cyntaf yn hanes y sianel ac archwilio themâu penodol megis datblygiad y sector teledu annibynnol, polisi ieithyddol a chynnwys rhaglenni.”

Caiff y gynhadledd ddeuddydd ei chynnal ar yr 2ail a’r 3ydd o Dachwedd yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, lle mae casgliad sylweddol o raglenni S4C yn cael ei gadw yn yr Archif Sgrin a Sain.

Cynhelir lansiad swyddogol y gynhadledd ar faes Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn yr Wyddgrug ar Ddydd Mercher 8fed o Awst.
 
Gwybodaeth gefndir:
1.       Gwahoddir ffotograffwyr a gohebwyr newyddion i lansiad y gynhadledd am 13:30 ar Ddydd Mercher yr 8fed o Awst, ym mhabell y Llyfrgell Genedlaethol ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol.
2.       Dechreuodd S4C ddarlledu am 18:00 Ddydd Llun 1 Tachwedd 1982.
3.       Teitl llawn y gynhadledd yw ‘S4C – Y Chwarter Canrif Cyntaf’.
4.       Trefnir y gynhadledd gan Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu PCA, mewn cydberthynas â Sefydliad Diwydiannau Cyfathrebu a Chreadigol Cymru ynghyd â Chanolfan Mercator ar gyfer Ieithoedd Llai, a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.