Seren 'Big Brother' i ymweld â llyfrgell y Brifysgol

Glyn Wise

Glyn Wise

01 Chwefror 2007

Dydd Iau 1 Chwefror 2007
Seren ‘Big Brother' i ymweld â llyfrgell y Brifysgol
Bydd y seren deledu realaeth, Glyn Wise, yn ymweld â Llyfrgell Hugh Owen ddydd Mawrth 6ed Chwefror fel rhan o ymgyrch led-led Cymru i annog mwy o bobl i ddefnyddio ei llyfrgelloedd lleol.

Mae ei ymweliad yn rhan o ymgyrch mis sydd yn arddel y penawd ‘Llyfrgelloedd Cymru – Rhywbeth i Ymfalchio Ynddynt' pan fydd wynebau Cymreig enwog yn cymryd rhan mewn digwyddiadau mewn llyfrgelloedd ar draws Cymru er mwyn hyrwyddo’r ystod lawn o wasanaethau maent yn eu cynnig.

Trefnwyd yr ymweliad gan Elizabeth Kensler o Gwasanaethau Gwybodaeth. Dywedodd: “Mae ganddom gymaint i’w gynnig i fyfyrwyr yma yn llyfrgell y Brifysgol, o lyfrau testyn, cymorth gyda aseiniadau, ystod eang o ffynhonellau gwybodaeth ar-lein sydd yn darparu erthyglau papurau newydd a chyfnodolion, i gyngor ar hyfforddiant am llyfrgelloedd a Technoleg Gwybodaeth a chyngor ar ei gwaith. Rhywbeth i bawb.”

Yn ystod ei amser bydd Glyn yn derbyn carden llyfrgell sydd wedi ei gwneud yn arbennig, treulio amser yn benthyca llyfrau i fyfyrwyr cyn mynychu sesiwn holi ac ateb yn y llyfrgell. Bydd cyfle hefyd i’r myfyrwyr gael ei lofnod.

Bydd Glyn tu allan i Lyfrgell Hugh Owen rhwng 12.45 a 1.00 yp ddydd Mawrth i roi ei lofnod. Fore Mawrth bydd yn ymweld â llyfrgell y dre yn Aberystwyth.