Llwyddiant Imagine Cup

Matt Sharpe (Chwith) a Simon Stringer a gipiodd yr ail wobr y rown derfynol y DG eleni

Matt Sharpe (Chwith) a Simon Stringer a gipiodd yr ail wobr y rown derfynol y DG eleni

02 Mai 2007

Dydd Mercher 2 Mai 2007
Llwyddiant Imagine Cup
Mae meddalwedd cyfrifiadurol a ddatblygwyd gan ddau fyfyriwr o Aber, sydd yn galluogi disgyblion ysgol o bedwar ban byd i fynychu dosbarth gyda'u gilydd mewn ystafell rithwir, wedi ennill yr ail wobr yn rownd derfynol y Deyrnas Gyfunol o gystadleuaeth Imagine Cup.
 
Yr her a osodwyd gan drefnwyr y gystadleuaeth, Microsoft, oedd i ddatblygu meddalwedd ar gyfer y byd addysg. O'r 11 tim o 6 prifysgol, llwyddodd ‘World Class’, gwaith Matt Sharpe a Simon Stringer sydd yn defnyddio gwegamerau, clipiau llais a negesydd sydyn er mwyn rhoi blas rhyngwladol ar ddosbarthiadau, i gyrraedd rownd y tri olaf a chipio’r ail wobr o flaen panel o feirniaid blaenllaw.

Datblygodd Matt a Simon y cysyniad er mwyn gwneud dysgu ieithoedd a chyfnewid gwybodaeth am hanes a daearyddiaeth yn haws ac yn fwy o hwyl drwy alluogi disgyblion i gyfarfod wyneb yn wyneb ar-lein.
  
Aberystwyth oedd un o brifysgolion mwyaf llwyddiannus yn gystadleuaeth eleni gyda 3 o’r 11 tim yn y rownd derfynnol.

Dywedodd Matt:
“Mae hwn wedi bod yn brofiad gwych. Ar ôl gwneud ein cyflwyniad poster yn y bore roedd amser i gyfarfod gyda darpar gyflogwyr megis Microsoft, BT a nifer o gwmnioedd pwysig eraill.”

“Wedi iddynt gyhoeddi enwau’r timoedd ar gyfer rownd y tri olaf, cawsom ein tywys i ffwrdd yn syth a chael awr i baratoi ar gyfer gwneud ein cyflwyniad terfynnol o flaen tyrfa o tua 200 o fobl busnes, myfyrwyr ac academyddion.  Roeddwn yn nerfus iawn ac erioed wedi breuddwydio y byddwn yn gwneud cyflwyniad o’r fath o flaen cynulleidfa mor fawr.”

“Roedd y cyhoeddiad terfynol yn siom, ond, o edrych yn ôl roedd ennill yr ail wobr yn dda iawn. Derbyniodd Simon a minnau XBOX360 yr un ynghyd â nifer o lyfrau a meddalwedd,” ychwanegodd.

Dywedodd ei gydymaith Simon, sydd yn gweithio i Adran Gyfrifiadureg y Coleg fel rhan o’r cynllun Blwyddyn Mewn Cyflogaeth: “Fy mwriad yw cymryd rhan yn y gystadeluaeth blwyddyn nesaf gan obeithio gwella ar y canlyniad eleni. Buaswn yn cymell unrhyw fyfyriwr cyfrifiadureg i fod yn rhan o’r Imagine Cup.”

Sandy Spence, cynrychiolydd Microsoft yn y Brifysgol, yw cydlynydd y gystadeluaeth yn Aberystwyth. Mae’n aelod o Gynghrair Academaidd Datblygu Meddalwedd Microsoft sydd yn galluogi staff a myfyrwyr yr adran Gyfrifiadureg i lawrlwytho meddalwedd y cwmni yn rhad.

Y ddau dîm arall o Aberystwyth oedd ‘Codename:Meety’, gwaith James Parker a Danny Allen, oedd yn cynnig meddalwedd amserlennu ar gyfer disgyblion ysgol a myfyrwyr, ac ‘Aperio’ gan Robin Blackwell, Michalis Perrott a Steven Bourke, oedd yn galluogi myfyrwyr i ychwnegu sylwadau a cwestiynnau at ddeunydd dysgu athrawon.

Fel rhan o’r paratoadau cafodd disgyblion o ysgolion Penweddig a Phenglais cyfle i weld y cyfweliadau a holi’r timoedd cyn iddynt deithio i’r rownd derfynol. Yn o gystal bu aelodau’r timoedd yn trafod eu syniadau gyda disgyblion ac athrawon mewn ysgolion eraill.

Mae’r gystadleuaeth bellach yn ei phumed blwyddyn ac mae timoedd o Aberystwyth wedi ymddangos ers 2005. Y flwyddyn honno roedd Joseph Wardell yn aelod o’r tîm aeth ymlaen i gynrychioli’r Deyrnas Gyfunol yn rownd derfynnol y byd yn Siapan.  Roedd dau dîm o Aber yn y rownd derfynnol yn 2006. Yn dilyn ei ran derbyniodd y myfyriwr blwyddyn olaf, Nathan Fisher, gynnig am swydd gyda BT.

Cynhaliwyd rownd derfynol y Deyrnas Gyfunol ym mhencadlys Microsoft yn Reading ac mae’r enillwyr yn mynd ymlaen i gystadlu yn rownd derfynnol y byd sydd yn cael ei chynnal eleni yng Nghorea.  Yn y cyfamser mae Matt a Simon wedi cael gwahoddiad i gyflwyno eu gwaith ym Mhrifysgol Plymouth.