Myfyrwraig yn cipio prif wobr stori fer Iwerddon

Ana Leddy yn cyflwyno'r wobr i Hester Casey

Ana Leddy yn cyflwyno'r wobr i Hester Casey

03 Mai 2007

Dydd Iau 3 Mai, 2007
Myfyrwraig Astudiaethau Gwybodaeth yn cipio prif wobr stori fer Iwerddon
Hester Casey, myfyrwraig dysgu o bell yn Adran Astudiaeth Gwybodaeth Prifysgol Cymru, Aberystwyth, yw enillydd cystadleuaeth stori fer Radio 1 RTÉ eleni.

Derbyniodd Hester y wobr gyntaf o €3,000 a Tlws Waterford Crystal am ei stori ‘A Thing of Beauty' mewn seremoni wobrwyo yng Nghanolfan Radio RTÉ yn Donnybrook, Dulyn. Mae ‘A Thing of Beauty' yn adrodd hanes Nora sydd mewn priodas ddigariad gyda Jim ac yn byw bywyd undonog fferm Wyddelig lle mae’r unig beth sydd yn tarfu ar y tawelwch llawn anobaith yw penodau o drais.

Wrth gyflwyno’r wobr i Hester, dywedodd Ana Leddy, Pennaeth Radio 1 RTÉ;
“Mae ‘A Thing of Beauty’ yn stori o gryn ddyfnder emosiynol sydd yn llwyddo i ddal natur galed bywyd Nora.  Mae ei harddull yn ddelfrydol ar gyfer radio ac rwy’n edrych ymlaen i gael clywed hon a’r holl straeon byrion eraill gafodd eu rhoi ar y rhestr fer ar donfeddu’r radio dros gyfnod yr haf.”

Mae Hester wedi bod yn ysgrifennu straeon ers yn blentyn. Ddwy waith cafodd le ar restr fer Cystadleuaeth Stori Fer Ryngwladol Fish ac mae’n aelod o Grwp Awduron Elbana sydd yn cyfarfod yn yr United Arts Club yn Nulyn. Mae’n gweithio llawn amser fel ymgynghorydd gwybodaeth gyda Davy’s Stockbrokers ac ar hyn o bryd yn astudio am Radd mewn Astudiaeth Gwybodaeth ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth.

Derbyniodd y gystadleuaeth dros 700 o geisiadau o bob rhan o Iwerddon a chan Wyddelod sydd yn byw tramor. Roedd y panel yn fodlon iawn gyda safon uchel y gwaith a ddaeth i law a lluniwyd rhestr fer o 20. Bydd pob un yn cael ei darlledu yn ystod yr haf, gan ddechrau gyda’r stori fuddugol.