Dr Robert Harrison (1944 - 2007)

Dr Robert Harrison

Dr Robert Harrison

09 Mai 2007

Dydd Mercher 9 Mai, 2007
Dr Robert Harrison (1944 - 2007)
Gyda thristwch mawr rydym yn cofnodi marwolaeth Dr Robert Harrison. Bu farw Dr Harrison ddydd Sul wedi cyfnod hir o salwch. Bu'n aelod o Adran Hanes a Hanes Cymru ers 1971.

Roedd yn arbenigwr ar Hanes Amercianaidd ac wedi ysgrifennu'n helaeth ar wleidyddiaeth America yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a chyfnod cynnar yr ugeinfed ganrif, ac yn fwy penodol ar y Gyngres a Rhanbarth Columbia. Gwnaeth ei gyhoeddiadau, sydd yn cynnwys Progressive Reform, and the New American State (CUP, 2004), gyfraniad o bwys i’w faes.

Yn o gystal â bod yn ymchwilydd gweithgar roedd gan Robert ymrwymiadau dysgu helaeth ar rannau helaeth o hanes America ar gyfer graddau Hanes ac Astudiaethau Americanaidd. Roedd yn ddarlithydd o argyhoeddiad a brwd, ac yn cynnig cefnogaeth anferthol i’w fyfyrwyr, mewn modd pwyllog, tawel a gwylaidd.

Bydd ei gyfeillion, ei gydweithwyr a’r myfyrwyr yn Adran Hanes a Hanes Cymru yn gweld ei eisiau yn fawr ac yn estyn eu cydymdeimlad dwysaf at ei deulu, ei wraig Jean, ei feibion, Matthew a Stephen, a’i fam, Mrs Beatrice Harrison.

Cynhelir gwasanaeth angladdol Robert yn Amlosgaf Aberystwyth ddydd Iau 10 Mai am 2.15 y.p. Blodau’r teulu yn unig. Cyfraniadau i Ymchwil Cancr d/o Trefor Evans, Brongenau, Llandre, Aberystwyth. Mae’r Adran yn derbyn cyfraniadau tuag at yr un achos.