Banana a phinafal

Y goeden banana

Y goeden banana

10 Mai 2007

Dydd Iau 10 Mai 2007
Banana a phinafal
Efallai nad yw coeden banana sydd yn blodeuo ac yn dwyn ffrwyth yn flynyddol, a phlanhigyn pinafal yn olygfeydd cyffredin yng ngorllewin Cymru, ond dyma ddau o'r planhigion fydd i'w gweld yn Nhy Gwydr Trofannol y Brifysgol pan fydd y drysau yn agor ar gyfer Diwrnod Agored Plan Penglais ddydd Sul 13 Mai rhwng 2 a 5 y prynhawn.

Yn ogystal â’r Ty Gwydr Trofannol bydd cyfle i ymweld â gerddi’r Plas a’r ardd sydd â mur o’i hamgylch, stondin blanhigion, a mwynhau te cartre wedi ei baratoi gan y Groes Goch. Pris mynediad fydd £2.50, plant am ddim. Mae’r diwrnod agored yn rhan o’r Cynllun Gerddi Cenedlaethol sydd yn cefnogi nifer o elusenau megis Gofal Cancr Marie Curie, MacMillan Cancer Relief, Gwasanaeth Lles Nyrsys a Chymdeithas Fuddiannol y Garddwyr.

Plas Penglais
Plasdy Sioraidd ywPlas Penglais wedi ei osod mewn wyth cyfer o lawntiau, gweliau blodau, gerddi cerrig a choedwig. Mae’r ardd yn gwynebu’r de. Mae’r gweliau cysgodol, gafodd eu plannu pan gafodd y gerddi eu creu ddiwedd y 1950au, bellach yn aeddfed ac yn darparu microhinsawdd ar y cae tri chyfer sydd yn ffinio ac yn gwynebu’r de. Mae llawer o goed a llwyni tyner yn ffynni yma. Ym mhen isaf yr ardd ceir pant bach a nifer o blanhigion Rhodedendron dailfras o’r Himalaya. Yn y gwanwyn mae’r rhan hon o’r ardd yn garped glas o Glychau’r Gôg.

Yn y lle cyntaf gosodwyd ‘gwelyiau trefn’ yn y cae tri chyfer ar gyfer dysgu myfyrwyr y Brifysgol. Wrth i anghenion dysgu newid datblygodd y gwelyiau’n rai mwyniant llawn lliw a phlanhigion addurniadol.
Bydd y Dderwen Gorc o ddiddordeb arbennig, yn ogstal â’r Ffawydden Ddeheuol - Nothofagus dombeyi, casgliad hyfryd o Asaleas mollis a Siapaneaidd, rhodedendronau, Iâr Fach y Gerddi (Pieris) a Ceanothus thyrsiflorus var. repens.

Ceir engreifftiau gwych o Beschorneria yuccoides, Abelia grandiflora, Pittosporum, Akebia quinata, Rosa ‘Alberic Barbier’ ac Actinidia kolomikta yn yr ardd â mur.

Yn y gerddi eraill ceir casgliadau o blanhigion grugaidd ac o Hemisffer y De, Palmwydd Chusan, Gunneras, Colletias, Coedd Paeonaidd a nifer o blanhigion sydd yn fwy anghyffredin megis Daphniphyllum macropodum a Poncirus trifoliata.

Mae’r Ty Gwydr Trofannol yn rhan o Sefydliad y Gwyoddorau Biolegol ac mae rhai o’r planhigion sydd yn cael eu tyfu ynddo, yn arbennig rhai o’r planihigion rhedyn a sycad mwy cyntefig, yn cael eu defnyddio ar gyfer dysgu myfyrwyr israddedig.  Ceir hefyd nifer o blanhigion sydd yn blodeuo’n wych ac yn cael eu tyfu am resymau addurniadol yn unig. Mae rhain yn cynnwys Medinilla magnifica, Strelitzia reginae sydd yn gyfarwydd, a’r Strelitzia nicolai sydd â blodau mawr porffor a gwyn, Clerodendrum thomsoniae, Gloriosa superba, Aeschynanthus, Columnia, Streptocarpus, Anthurium ac amryw o rywogaethau a thegerianau hybrid. 

Mae casgliad o tua 30 gwahanol fath o Gacti a phlanhigion suddlon a chasgliad o Fromeliâu gan gynnwys pinafal. Mae cynrychiolaeth dda o blanhigion sydd yn bwyta cig, Nepenthes, Chwis yr Haul (Sundews), Sarraceniau, Magl Gwener (Venus Fly trap) a Tafod y Gors (Butterworts).  Mae yma hefyd goeden banana aeddfed sydd yn blodeuo ac yn dwyn ffrwyth yn flynyddol, a nifer o blanhigion deiliog deniadol, aelodau o deuluoedd Maranta ac Arum.