Gwobr Ffuglen Luigi Bonomi Associates

Bethany Pope

Bethany Pope

24 Mai 2007

Dydd Iau 24 Mai 2007
Gwobr Ffuglen Luigi Bonomi Associates

Bethany Pope, myfyrwraig sydd yn astudio am ddoethuriaeth mewn ysgrifennu creadigol yn yr Adran Saesneg, yw enillydd cyntaf Gwobr Ffuglen Luigi Bonomi Associates.

Cafodd y wobr, sydd wedi ei sefydlu gan yr Adran mewn cydweithrediad gyda'r asiantaeth lenyddol bwysig o Lundain, Luigi Bonomi Associates (LBA), ei chyflwyno i Bethany gan yr Athro Ysgrifennu Creadigol Jem Poster yn ystod derbyniad ddydd Mercher 9 Mai.

Bydd Gwobr Ffuglen LBA, fel yr adweinir hi, yn rhan bwysig o galendr blynyddol yr Adran Saesneg ac yn cael ei dyfarnu i'r awdur ffuglen sydd fwyaf tebygol o gynhyrchu deunydd cyhoeddadwy. Yn ogystal â rhodd ariannol werth £500, bydd yr enillydd yn cyfarfod â, a derbyn cyngor gan Luigi Bonomi, gyda’r gobaith o osod llyfr gyda chyhoeddwr o Lundain.

Dywedodd yr Athro Poster; “Mae hwn yn ddatblygiad pwysig iawn i’r adran a’r Brifysgol, ac o fudd mawr i’r myfyrwyr. Eleni lluniwyd rhestr fer o 12 (wedi eu dethol yn fewnol o gyfanswm o 34) gafodd eu hanfon at Luigi Bonomi a aeth ati i ddewis un enillydd a thri arall oedd yn haeddu clod arbennig.”

“Mae’n anodd iawn i awduron ifanc sicrhau fod asiant yn darllen eu gwaith, felly mae hwn yn gyfle gwych. Wrth gwrs does dim sicrwydd o lwyddiant, ond mae gobaith y caiff gwaith yr enillydd ei gyhoeddi”, ychwanegodd.

Cofrestrodd Bethany, sydd yn wreiddiol o’r Unol Daleithiau, ar y cwrs doethuriaeth Ysgrifennu Creadigol gafodd ei sefydlu 3 blynedd yn ôl. Mae’n ysgrifennu nofel (ynghyd â’r sylwebaeth feirniadol angenrheidiol ar gyfer y traethawd estynedig) o dan arolygaeth Dr Tiffany Atkinson. 

Ar ôl derbyn y wobr, dywedodd: “Mae derbyn y wobr hon yn anrhydedd mawr, yn enwedig ar ôl clywed yr awduron eraill ar y rhestr fer yn darllen dyfyniadau o’u gwaith.  Roedd yn brofiad anhygoel gweld cymaint o dalent mewn un ystafell ac hyd yn oed yn fwy arbennig i ddarganfod fy mod i’n cael y cyfle i siarad gyda a dysgu oddi wrth Mr. Bonomi, un o’r goreuon yn y busnes.”

Yn ei feirniadaeth o waith Bethany ysgrifennodd Luigi Bonomi:
“Awdur hynod o delynegol sydd â ffordd farddonol droellog o ysgrifennu.  Mae yna dynerwch yn ei hysgrifennu sy’n ddeiniadol iawn ac mae’n fy nharo i’n nodweddiadol o ysgrifennu yr America wedi ei leoli ym Mherfeddion y De – ryw fath o Gothig Deuehol sydd gyda llawer iawn o botensial. 

“Mae’r gwaith o greu cymeriadau yn arbennig o dda ac mae’r delweddau a’r themâu wedi eu cyflwyno yn gywrain. Yn yr ychydig dudalenau yma yn unig, mae wedi llwyddo i gynnwys nifer fawr o olygfeydd bychan sydd wedi eu ffurfio yn gyfan – yr hen ddynes yn dal jar o ffetysau marw; y cymydog yn dwyn y gemwaith, y tad yn brysio i ffwrdd mewn panig i ddal ei ferch newydd-anedig yn ei freichiau.  Yr holl bethau yma wedi eu hysgrifennu yn arbennig o dda ac yn gadael argraff gref yn y meddwl.”

Sefydlodd Luigi Bonomi y cwmni Luigi Bonomi Associates yn 2005.  Cyn hyn bu’n gweithio i Futura Macdonald fel golygydd Ffuglen i Blant a Ffuglen i Arddegwyr, Harlequin fel Uwch Olygydd Ffuglen masnachol Menywod, Llyfrau Penguin fel Cyfarwyddydd Golygyddol ac Uwch Asiant Llyfryddol ar gyfer Sheil Land Associates.

Mae LBA yn cynrychioli nifer fawr o awduron a newyddiadurwyr gan gynnwys newyddiadurwyr gwleidyddol fel John Humphrys a Melanie Phillips, genetegwyr a seicolegwyr megis Yr Athro Bryan Sykes a’r Athro Melissa Hines, haneswyr fel Dr Terry Brighton a’r Athro Colin Mcdowell, awduron garddio fel Alan Titchmarsh a Rachel de Thame, awduron nofelau cyffrous megis John Rickards a David Gibbins ac awduron llenyddol fel Jem Poster a Cris Freddi.