Anghydfod ac Anghydweld yn Sbaen y Canol Oesoedd cynnar – rhai cymariaethau â Chymru a Llydaw

Yr Hen Goleg

Yr Hen Goleg

07 Mai 2008

Anghydfod ac Anghydweld yn Sbaen y Canol Oesoedd cynnar – rhai cymariaethau â Chymru a Llydaw
Bydd yr Athro Wendy Davies o Goleg Prifysgol Llundain (CPLl) yn traddodi Darlith Thomas Jones Pierce ym Mhrifysgol Aberystwyth ddydd Mercher 7 Mai 2008.

Pwnc darlith yr Athro Davies fydd  Disputes and Disputing in early Medieval Spain – some comparisons with Wales and Brittany'. Caiff ei chynnal yn Narlithfa A12 yn adeilad Hugh Owen ar campws Penglais a bydd ac yn dechrau am 7 o'r gloch.

Mae Wendy Davies, FBA, yn Athro Hanes Emeritws yng Ngholeg Prifysgol Llundain ac yn aelod o Gyfadran Hanes Prifysgol Rhydychen. Tan ei hymddeoliad yn 2007 roedd yn dysgu hanes ganoloesol Ewropeaidd a bu’n Bennaeth Adran Hanes CPLl, Deon y Celfyddydau a’r Gwyddorau Cymdeithasol ac Hanesyddol, a Pro-Provost mewn Materion Ewropeaidd.

Yn ystod y blynyddoedd diweddar mae wedi neilltuo cryn amser i faterion yn ymwneud â Phroses Bologna, ac mae’n parhau’n aelod o dîm Arbenigwyr ar Bologna y Deyrnas Gyfunol.

O safbwynt ei hymchwil, mae wedi rhoi cryn bwyslais ar gydweithio ag eraill, ac mae’r gwaith a adweinir orau (gwaith grŵp siarter Bucknell) yn cynnwys The Settlement of Disputes in Early Medieval Europe (1986) a Property and Power in Early Medieval Europe (1995), y ddwy gyfrol wedi eu golygu gyda Paul Fouracre, a’u hysgrifennu gyda James Graham-Campbell, John Koch ac eraill, a The Inscriptions of Early Medieval Brittany (2000).


Mae wedi ysgrifennu llyfrau a phapurau ar hanes cymdeithasol Cymru, Llydaw, Iwerddon, Yr Alban a Sbaen, a gwneud cryn dipyn o waith maes archeolegol, yn Llydaw yn bennaf. Ar hyn o bryd mae’n canolbwyntio ar ogledd Sbaen.

Mae ei llyfrau yn cynnwysAn Early Welsh Microcosm (1978), The Llandaff Charters (1979), Wales in the Early Middle Ages (1982), Small Worlds.  The Village Community in Early Medieval Brittany (1988), Patterns of Power in Early Wales (1990), (gyda G. Astill) A Breton Landscape (1997), Acts of Giving. Individual, Community and Church in Tenth-Century Christian Spain (2007).

Sefydlwyd DarlithThomas Jones Pierce yn 1990 er cof am y cyn Athro Ymchwil mewn Hanes Ganoloesol (1948-1964) yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, diolch i haelioni ei weddw, Mrs Megan Wyn Jones.