Gwylio'r Dolffiniaid

Sarah Lister

Sarah Lister

01 Gorffennaf 2008

Dydd Mawrth 1 Gorffennaf 2008
Gwylio'r Dolffiniaid

Mae 30 o wirfoddolwyr ac ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth yn cydweithio gyda'r grŵp cadwraeth, Ffrindiau Bae Ceredigion, ar astudiaeth fanwl o ddolffiniaid trwynbwl yn y dyfroedd oddi ar Aberystwyth.

Yn ôl pob amcangyfrif mae rhwng 230 a 300 o ddolffiniaid trwynbwl yn byw ym Mae Ceredigion, y boblogaeth gynhenid fwyaf o'i bath ar arfordir y Deyrnas Gyfunol.

Mae’r astudiaeth, sydd yn cael ei harwain gan y fyfyrwraig meistr Sarah Lister, yn gwneud cofnod manwl o symudiadau’r dolffiniaid oddi ar Draeth y De yn Aberystwyth, rhwng mynedfa’r harbwr a chreigiau’r castell.

Mae gwaith Sarah yn cael ei adolygu gan Dr Jo Porter o Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig, a Chadeirydd Ffrindiau Bae Ceredigion, Phil Hughes.

“Nod yr astudiaeth hon yw cofnodi symudiadau’r dolffiniaid yn hytrach na chanolbwyntio ar unigolion neu ceisio cyfri sawl un sydd yno,” dywedodd Sarah. “Rydym am wybod ble mae nhw’n treulio eu hamser a sut maent yn defnyddio’r ardal.”

O un pwynt arsylwi ar y Prom, ger gorsaf y bad achub, mae aelodau’r tîm yn gweithio shifftiau dwy awr ac yn cofnodi pob tro y maent yn gweld dolffin a’i ymddygiad, er enghraifft a yw yn teithio, neidio, deifio, troi mewn cylchoedd neu’n hel pysgod.  

Dechreuwyd ar y gwaith ar yr 2il o Fehefin a bydd yn parhau am chwech awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, tan ddydd Iau 31 Gorffennaf.

“Wrth i ni adeiladu llun mwy o’r hyn mae’r dolffiniaid yn ei wneud a ble, rydym yn ymweld â’r safleoedd yma o fewn ardal yr astudiaeth yng nghwch ymchwil Ffrindiau Bae Ceredigion. Drwy ddefnyddio technegau fideo tanddwr a deifio gallwn astudio’r gwahanol gynefinoedd ar wely’r môr a dysgu mwy am y rhywogaethau o bysgod y maent yn hoff o’u bwyta.”  

Yn ogystal, mae’r gwaith yn galluogi’r ymchwilwyr i ddeall y berthynas rhwng presenoldeb y dolffiniaid yn y bae a’r llanw, cyflwr y môr, y tywydd a llif yr afon Rheidol a’r afon Ystwyth.

Astudiaeth y Deyrnas Gyfunol
Cafodd data a gasglwyd yn ystod wythnos olaf Mehefin (21-28) ei gyfrannu at astudiaeth Wythnos Genedlaethol Gwylio Morfilod a Dolffiniaid 2008 sydd yn cael ei threfnu gan y ‘Sea Watch Foundation’. 

Bydd canlyniadau’r astudiaeth lawn yn adnodd pwysig i Ffrindiau Bae Ceredigion gan nad yw’r môr oddi ar Aberystwyth wedi ei ddynodi’n Ardal Gadwraeth Arbennig (AGA). O ganlyniad ychydig ymchwil sydd wedi ei wneud yma, yn wahanol i AGA Bae Aberteifi i’r de ac AGA Pen Llyn a’r Sarnau i’r gogledd.

Dywedodd Sarah; “Mae hwn yn gyfnod allweddol o safbwynt diogelu cynefinoedd môr a rhywogaethau Bae Ceredigion. Mae’r Mesur Morol, sy’n ar ffurf drafft ar hyn o bryd, yn mynd i osod sut y dylid rheoli adnoddau’r môr a chynyddu nifer yr Ardaloedd Gwarchod Morol, tra fod y Llywodraeth wedi cyhoeddi trwyddedau chwilio am olew a nwy ym Mae Ceredigion yn ddiweddar. Ein gobaith yw y bydd canlyniadau’r ymchwil yma yn cyfrannu at y trafodaethau am y datblygiadau yma.” 

Un o’r bygythiadau mwyaf i’r dolffiniaid yn y tymor byr yw perchnogion llongau pleser. Yn ddiarwybod iddynt gall eu chwilfrydedd amharu ar y dolffiniaid ac hyd yn oed eu rhwystro rhag cael mynediad i ardaloedd lle maent yn dod i fwydo. 

Dywedodd Phil Hughes, Cadeirydd Ffrindiau Bae Ceredigion;
“Hyd yma rydym wedi gweld dolffiniaid ar 70% o ddiwrnodau’r arolwg, ac mae’n gynyddol amlwg fod y môr oddi ar harbwr Aberystwyth yn feithrinfa bwysig i famau a lloi yn ogystal â bod yn ardal fwydo bwysig. O ganlyniad rydym yn gofyn i berchnogion cychod pleser ymddwyn mewn modd ystyriol tuag at yr anifeiliaid yma, ac i barchu Côd Ymddygiad Ceredigion a chadw’n ddigon pell oddi wrthynt.   

A’r adeg orau i’w gweld? Dywedodd Sarah; “Mae llawer o bobl leol wedi dweud taw 8 o’r gloch y bore yw’r amser gorau ond mae’r dystiolaeth sydd ganddo ni hyd yma yn awgrymu nad oes patrwm cyson. Mae llawer o ffactorau yn dylanwadu ar pryd maent yn dod i ardal yr harbwr. Fy hunan, rwy’n amau eu bod yn fwy tebygol o ddod yma wedi glaw trwm, pan fod nifer mawr eogiaid yn y dŵr, ond does dim prawf o hyn. Un peth sydd yn amlwg, mae’n llawer hawddach eu gweld pan fo’r môr yn llonydd.”

Mae Sarah yn gwneud yr ymchwil fel rhan o Radd Meistr Mewn Rheoli’r Amgylchedd sydd yn cael ei gynnig gan Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig. Wedi nifer o flynyddoedd yn byw yn yr Unol Daleithiau, Ffrainc ac Awstralia ac yn gweithio i’r diwydiant fferylliaeth, penderfynodd Sarah ei bod yn bryd newid cyfeiriad a dychwelyd adre i’r dre lle y magwyd, Aberystwyth.