Chwilod sy'n hoffi parti!

Chwilen pinwydd y mynydd. Leslie Manning Natural Resources Canada

Chwilen pinwydd y mynydd. Leslie Manning Natural Resources Canada

23 Mehefin 2008

Dydd Llun 23 Mehefin, 2008
Chwilod sy'n hoffi parti!

Dywed academydd o Aberystwyth fod gwylio ymlediad chwilod pinwydd y mynydd, sy'n dinistrio fforestydd pinwydd polion Columbia Brydeinig, fel gwylio gwesteion mewn parti.

Mae Dr Javier Gamarra, sy’n ddarlithydd Systemau Amgylcheddol ym Mhrifysgol Aberystwyth, wedi bod yn astudio patrymau gofodol yr ymosodiadau gan y chwilod hyn, a hynny o gofnodion sy’n mynd yn ôl dros gyfnod o 37 mlynedd. Y mae wedi datblygu model mathemategol sydd yn rhagweld patrwm y difrod i fforestydd yn y dyfodol ar sail y niwed a achoswyd gan y chwilod yn ystod gaeafau tyner blaenorol.

Bydd canfyddiadau Dr Gamarra i’w gweld yn rhifyn Gorffennaf o gylchgrawn y Gymdeithas Ecolegol Brydeinig, sef y Journal of Animal Ecology sydd yn cael ei gyhoeddi heddiw, ddydd Llun, 23 Mehefin. Y mae fersiwn electronig o’r papur ‘Spatial scaling of mountain pine beetle infestations’ ar gael yn http://www.blackwell-synergy.com/doi/full/10.1111/j.1365-2656.2008.01389.x.

Y mae cyfres o aeafau tyner, lle’r arhosai’r tymheredd isaf dros -40oC, wedi golygu bod larfau chwilod pinwydd y mynydd yn fwy tebygol o oroesi gan arwain at ffrwydrad yn eu poblogaeth yng Ngolumbia Brydeinig. Mae’r chwilod benywaidd yn ymosod ar y pinwydd polion drwy durio trwy’r rhisgl er mwyn dodwy eu hwyau. Mae’r larfâu sy’n ymddangos o ganlyniad i hyn yn bwydo ar y goeden gan achosi iddi farw o fewn wythnosau.

Mae Adnoddau Naturiol Canada a Gwasanaeth Fforestydd Canada yn rhagweld y gallai’r carbon deuocsid a ryddheir gan goed pinwydd polion sy’n pydru beri bod gorllewin Canada yn cyfrannu carbon i’r amgylchedd yn hytrach na’i lyncu erbyn 2020.

Er mwyn esbonio ei fodel, y mae Dr Gamarra yn gwneud cymhariaeth rhwng ymlediad y chwilod drwy’r fforest ac ymddygiad gwesteion mewn parti.

“Drwy wylio pobol sy’n dod i barti, fe welwch bod y rhai sy’n cyrraedd yn gynnar yn dod at ei gilydd. Wrth i ragor gyrraedd, maent yn ffurfio grwpiau, ac fel mae nifer y gwesteion yn cynyddu, mae’r gwahaniaeth rhwng maint y grwpiau lleiaf a’r grwpiau mwyaf yn cynyddu hefyd. Os ydych yn swil ac yn berson unig, mae’r tebygolrwydd y byddwch yn treulio gweddill y noson mewn cornel ar eich pen eich hun yn cynyddu wrth i’r parti dyfu. Ar y llaw arall, os ydych yn berson poblogaidd, bydd eich ego yn cael ei wobrwyo’n fwyfwy wrth i ragor o bobl gyrraedd.”

“Yn ddiddorol iawn, mae chwilod pinwydd y mynydd yn arddangos yr un patrymau wrth wledda ar binwydd polion yng Ngholumbia Brydeinig. Y mae gaeafau caled yn lleihau nifer y larfâu sy’n goroesi a nifer y chwilod sy’n cyrraedd eu llawn dwf (parti bach). Ar y llaw arall, mae gaeafau tyner yn golygu bod nifer uwch o’r larfâu yn goroesi gan arwain at gynnydd yn niferoedd y chwilod (parti mawr). Mae hyn yn arwain at ledaeniad daearyddol ehangach o lawer, a maint y difrod yn amrywio o un ardal i’r llall. Bydd y difrod yn fychan mewn rhai ardaloedd (ardaloedd oer = person unig) ac yn sylweddol mewn ardaloedd eraill.”

“Bydd ardaloedd cynnes fel dyffrynnoedd dwfn (ardaloedd cynnes = person poblogaidd) yn denu mwy o chwilod ac yn dioddef mwy o niwed. Wrth i boblogaeth y chwilod gynyddu, mae’r model yn ein galluogi i ragweld sut y byddant yn lledaenu’n ddaearyddol, ynghyd â’r gwahaniaeth rhwng maint grwpiau a heterogenedd gofodol.”

Mae Dr. Gamarra yn awr yn ceisio ymestyn ei “ddamcaniaeth parti” i blâu eraill. "Mae dadansoddiadau rhagarweiniol yn awgrymu bod plâu eraill yn dangos yr un patrwm, fel locustiaid yr anialwch yn y Sahara. Y newyddion drwg yw bod newid yn yr hinsawdd yn gwneud i aeafau fynd yn fwyfwy tyner, a bydd hyn yn lleihau cyfraddau marwolaeth ymhlith larfau fel bo niwed i fforestydd a chnydau yn fwy tebygol" meddai.

Mae Dr Gamarra yn ddarlithydd mewn Systemau Amgylcheddol yn IBERS, Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (http://www.aber.ac.uk/en/ibers/) ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac fe’i noddir gan CIRRE, y Ganolfan Ymchwil Integredig i’r Amgylchedd Gwledig (http://www.cirre.ac.uk), sef partneriaeth ymchwil rhwng prifysgolion Aberystwyth a Bangor.

Cefnogir ei waith, sydd wedi ei wneud ar y cyd gyda F. He o Brifysgol Alberta, gan Fenter Chwilod Pinwydd Mynydd Adnoddau Naturiol Canada/Gwasanaeth Fforestydd Canada.